Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu parhaus â’r diwydiant cig i fynd i’r afael â heriau’r dyfodol
Mae Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), Katie Pettifer, wedi cadarnhau ymrwymiad yr ASB i gydweithio’n agos â sector cig y DU, gan dynnu sylw at bwysigrwydd perthynas adeiladol wrth i’r sector wynebu costau cynyddol a heriau masnachu byd-eang.
Nododd hefyd yr hyn y mae’r ASB yn ei wneud i foderneiddio’r ffordd y mae’n rheoleiddio’r diwydiant cig, gan gynnwys defnyddio technoleg a data newydd i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd archwiliadau cig yr ASB.
Buodd Katie yn siarad â Chymdeithas y Cyflenwyr Cig Annibynnol ddydd Gwener (25 Ebrill) yn Neuadd y Cigyddion yng Nghanol Llundain. Dywedodd:
“Mae’r busnesau rydych chi’n eu cynrychioli yn rhan hanfodol o gadwyn cyflenwi bwyd ein cenedl. Gyda’r heriau economaidd sy’n cael eu teimlo ar draws y system fwyd, a’r newyddion dramatig ynghylch masnach ryngwladol sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae’n teimlo’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n gweithio gyda’n gilydd i gefnogi diwydiant cig Prydain â threfniadau rheoleiddio effeithlon ac i ddiogelu’r cyhoedd hefyd.
Roedd yr araith hefyd yn rhoi sylw i’r ffordd y mae busnesau’n talu am gostau rheoleiddio cig. Dywedodd:
“Yr arfer mewn sawl rhan o’r economi yw i’r diwydiant ysgwyddo’r costau rheoleiddio, yn hytrach na’r trethdalwr. Dydy rheoleiddio cig ddim yn wahanol, ac mae hynny i’w weld yn y ddeddfwriaeth rydym yn gweithredu oddi tani. Fodd bynnag, ers blynyddoedd lawer, rydym wedi cynnig gostyngiad i’r diwydiant, sy’n cael ei bwysoli i ddarparu’r cymorth mwyaf i’r busnesau lleiaf. Felly, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae dros chwarter o’r gost o reoleiddio cig wedi’i thalu mewn gwirionedd gan y trethdalwr, gyda’r busnesau lleiaf yn gymwys ar gyfer gostyngiad o hyd at 90% ar eu taliadau.
“Mae rheolau’r Trysorlys yn dweud, pan fyddwch chi’n codi tâl am wasanaeth, y dylech chi fel arfer adennill y costau’n llawn. Pan na fydd hyn yn digwydd, rhaid i weinidogion gytuno ar y cyfiawnhad. Felly, gan fod y cynllun disgownt presennol yn ei ddegfed flwyddyn ariannol o weithredu, ac o ystyried bod criw newydd o weinidogion a bod Adolygiad o Wariant ar sail sero yn ei gwneud yn ofynnol i’r ASB gyfiawnhau ei holl gyllid i’r Trysorlys, mae angen i ni edrych ar hyn eto.”
Pwysleisiodd Katie nad oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud eto ynghylch y disgownt ac y bydd yr ASB yn rhoi cyngor i weinidogion yn ddiweddarach eleni.
Gorffennodd Katie ei haraith gan ddweud:
“Dw i’n teimlo’n obeithiol am yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd. Drwy wneud pob ymdrech i foderneiddio, defnyddio technolegau newydd, a chryfhau ein partneriaethau, gallwn sicrhau bod diwydiant cig y DU yn parhau i fod gyda’r gorau yn y byd.”
Gallwch ddarllen trawsgrifiad llawn o araith y Prif Weithredwr yma.