Prif Weithredwr yr ASB yn rhoi araith yng Nghynhadledd Flwyddyn Sydd i Ddod Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd
Trawsgrifiad o araith Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), Emily Miles, i Gynhadledd Flwyddyn Sydd i Ddod Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd, ddydd Mercher 1 Rhagfyr.
Anerchodd Emily Miles Gynhadledd Flwyddyn Sydd i Ddod CIEH 2021 a gynhaliodd, mewn partneriaeth â’r Sefydliad Safonau Masnach Siartredig (CTSI), drafodaethau ar bolisi allweddol, gan archwilio’r heriau i ddyfodol iechyd y cyhoedd ac effaith y pandemig.
Dyma’r trawsgrifiad:
Diolch yn fawr am fy ngwahodd i siarad yn CIEH eto ac i fod yn rhan o’r drafodaeth hon.
Cyn i mi fynegi rhai meddyliau am ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol, roeddwn i eisiau diolch yn fawr i Ymarferwyr Iechyd yr Amgylchedd a Swyddogion Safonau Masnach am eich holl ymdrechion dros y flwyddyn ddiwethaf wrth reoli effaith y pandemig ar y system fwyd, a hyn oll o dan bwysau digynsail.
Hoffwn hefyd ddiolch i chi am eich gwaith wrth gefnogi’r ASB i weithredu ‘Cyfraith Natasha’, sef y rheolau newydd o ran labelu alergenau ar fwyd a fydd yn gwella diogelwch y ddwy filiwn o bobl sy’n byw gydag alergeddau bwyd yn y wlad hon. Rydych chi wedi gwneud hyn yn y sector cyhoeddus, a’r sector preifat.
Mae’r gwaith rydych chi’n ei wneud bob dydd i ddiogelu’r cyhoedd yn waith amhrisiadwy i'n cymunedau.
Yn yr ASB, mae’r ffordd rydym ni’n llunio’r dyfodol yn gwestiwn sydd bwysig i ni
Adferiad yn sgil COVID-19 sy’n dominyddu’r dyfodol agos.
Pan siaradais â CIEH ym mis Mehefin, roedd yr ASB newydd lansio Cynllun Adfer Awdurdodau Lleol. Datblygwyd hwn er mwyn helpu awdurdodau lleol i fynd yn ôl i fusnes fel arfer yn dilyn blwyddyn o reoli COVID-19.
Gallaf ddweud bod awdurdodau lleol yn dechrau mynd yn ôl ar y trywydd iawn.
Yn ôl ym mis Mawrth 2021, roedd tua hanner adnoddau timau bwyd awdurdodau lleol yn cael eu defnyddio ar dasgau eraill. Nawr mae adnoddau’n cael eu dychwelyd i dimau bwyd.
Ym mis Hydref gwelsom, ar gyfer timau hylendid bwyd, fod y lefelau mor uchel â 64% yng Nghymru, 81% yn Lloegr, a 76% yng Ngogledd Iwerddon. Ar gyfer timau safonau bwyd, roedd y ffigurau ychydig yn uwch ar gyfer pob gwlad.
Ym mis Mehefin 2020, derbyniodd 461 o sefydliadau eu sgôr hylendid bwyd. Ym mis Ionawr 2021, y ffigur oedd 4010. Erbyn mis Medi 2021, roedd yn ôl i 14,000 o sgoriau hylendid bwyd.
Mae yna waith i’w wneud o hyd. Ym mis Medi, roedd 63,000 o fusnesau yn ‘aros am arolygiad’. Gwyddom fod bron i draean o’r rhain yn ‘safleoedd arlwyo eraill’, gan gynnwys arlwywyr cartref.
Rydym wedi gofyn i awdurdodau lleol flaenoriaethu safleoedd sy’n peri mwy o risg, felly mae’n dda gweld ei bod yn ymddangos bod y cyngor hwn yn cael ei ddilyn. Ar gyfer gwaith safonau bwyd, mae gwerthusiad cynnar o’n cynlluniau peilot yn dangos bod adnoddau’n cael eu targedu’n fwy effeithiol at y busnesau risg uchaf nag y mae’r model cyfredol yn ei ganiatáu, sy’n argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol.
Mae adferiad yn digwydd, ond ein hargraff yw ei fod yn waith caled
Rydym ni’n clywed straeon gan lawer o gynghorau bod safonau rhai bwytai a chaffis wedi llithro dros y pandemig, ac mae’n rhaid iddynt wneud mwy o waith i gefnogi busnesau i gyrraedd safonau derbyniol.
Roedd yn iawn taw COVID-19 oedd y flaenoriaeth i awdurdodau lleol. Mae COVID-19 yn glefyd cas sy’n peryglu bywyd, ac felly roedd y mesurau a fabwysiadwyd i’w atal rhag lledaenu yn hanfodol i ddiogelu’r cyhoedd. Ond ni allwn ohirio arolygiadau bwyd am gyfnod amhenodol.
Mae gwaith dadansoddi mewnol yr ASB wedi cysylltu sgoriau hylendid bwyd uwch â lefelau is o ficrobau mewn busnesau bwyd, sydd yn y pen draw yn lleihau’r risgiau salwch a gludir gan fwyd pan fydd defnyddwyr yn bwyta mewn safleoedd sydd â sgôr uwch.
Felly, mae pob cam a gymerwch gyda busnes i wella eu harferion hylendid bwyd yn diogelu defnyddwyr. Gohiriwyd llawer o arolygiadau a sgoriau, ac mae hyn yn gwneud i’r ASB deimlo’n anghyfforddus ar ran defnyddwyr.
Diolch am bopeth rydych chi’n ei wneud i gyflawni’r gwaith gan weithio gyda busnesau i ddarparu bwyd diogel a dilys i bawb.
Rydych chi’n gwneud hyn oll o fewn diwydiant bwyd a thirwedd reoleiddio sydd wedi newid dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac a fydd yn parhau i wneud hynny.
Mae mwy a mwy o fwyd yn cael ei werthu ar-lein, mae technoleg a llwyfannau digidol newydd yn newid y ffordd rydym ni’n prynu bwyd, a gall busnesau micro gyrchu marchnadoedd mawr yn hawdd.
Yn yr ASB, rydym ni’n gweithio i ddeall y newidiadau yn y diwydiant bwyd a pha effaith y gallent ei chael ar ddefnyddwyr, busnesau ac awdurdodau lleol.
Fel gyda phob newid, mae yna gyfleoedd
Er enghraifft, gallai newid yn y ffordd rydym ni’n bwyta protein sicrhau ein bod ni’n defnyddio llai o garbon wrth gynhyrchu bwyd; gallai genomeg wella olrheiniadwyedd bwyd; tra bo arloesi digidol ar draws y gadwyn fwyd gyfan yn cynnig cyfleoedd newydd digynsail i’r dewis sydd ar gael i ddefnyddwyr.
Fodd bynnag, mae risgiau yn sgil y cyfleoedd hyn. Mae cig sydd wedi’i ddatblygu o gelloedd yn defnyddio llawer iawn o ynni i’w gynhyrchu ac nid ydym ni’n gwybod beth gallai fod effeithiau iechyd tymor hir bwyta’r math hwn o fwyd wedi’i brosesu.
Fel llaeth yfed amrwd, neu fwyta byrgyrs gwaedlyd, a fydd angen i drinwyr bwyd roi mwy o sylw i rai mathau o fwydydd newydd i sicrhau eu bod yn ddiogel? Neu a fydd angen i ni roi gwybodaeth ychwanegol ar labeli i annog defnyddwyr agored i niwed i beidio â’u bwyta?
Mae angen ystyried hyn oll wrth i’r bwydydd newydd hyn gael eu rhoi ar y farchnad. Mae’r ASB yn barod i wneud yr asesiadau hyn ar gyfer cynhyrchion wedi’u rheoleiddio.
Dyma enghraifft arall. Mae mwy o ddewis bwyd ar-lein yn cyflwyno risg o farchnad ddireol, wrth i lwyfannau gynnal gwerthwyr amheus sy’n gwrthod cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif.
Nid yw bob amser yn hawdd iawn i swyddog iechyd yr amgylchedd awdurdod lleol gael cyfarfod gyda chwmni cyfryngau cymdeithasol rhyngwladol am gynnyrch neu werthwr ar eu platfform.
Rwy’n credu bod nifer o oblygiadau i waith yr ASB dros yr ychydig flynyddoedd nesaf – ac yn wir, goblygiadau i reoleiddwyr eraill, awdurdodau lleol, ac ymarferwyr iechyd yr amgylchedd eu hystyried.
Rhaid i ni barhau i roi buddiannau defnyddwyr wrth wraidd popeth a wnawn. Mae angen i ni sicrhau bod defnyddwyr yn ddiogel, eu bod yn deall yr hyn maen nhw’n ei brynu, a bod ganddyn nhw fynediad at fwyd y gallant ymddiried ynddo.
Mae angen i ni wneud yn siŵr bod eu buddiannau a’u safbwyntiau yn cael eu hystyried
Mae angen i ni addasu system reoleiddio wedi’i seilio ar safleoedd sy’n gwerthu ar-lein ac yn y byd go iawn ar gyfer byd digidol. Mae data, rhwydweithiau a synwyryddion yn prysur ddod yn offer y mae busnesau’n eu defnyddio i gynnal uniondeb a gwytnwch eu systemau.
Mae angen i reoleiddwyr, ymarferwyr iechyd yr amgylchedd a swyddogion safonau masnach ymgysylltu â busnesau fel rhai sy’n cynhyrchu data, ac nid bwyd yn unig. Mae hyn yn rhywbeth y mae ein rhaglen diwygio rheoleiddio, Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau, eisoes yn canolbwyntio arno a dyma lle rwyf am i’r ASB chwarae mwy o ran.
Bydd ein gwasanaeth awdurdodi cynhyrchion wedi’u rheoleiddio, gwasanaeth y gwnaethom gymryd ei awenau o’r Undeb Ewropeaidd, hefyd yn hanfodol. Mae cynhyrchion wedi’u rheoleiddio’n gofyn am werthusiad a chymeradwyaeth gan Weinidogion cyn eu rhoi ar y farchnad a chyn y gellir eu defnyddio ym marchnad y Deyrnas Unedig.
Nod y gwasanaeth hwn yw diogelu’r cyhoedd, ond rhaid iddo hefyd gefnogi arloesiadau’r diwydiant bwyd, fel proteinau amgen, a allai helpu i greu system fwyd iachach a mwy cynaliadwy.
Bydd dadansoddiad risg yn gofyn am fwy nag edrych ar y peryglon i iechyd pobl yn unig. Bydd yn golygu ystyried pethau fel effaith economaidd, gwyddoniaeth ymddygiadol, effaith amgylcheddol a barn defnyddwyr.
Bydd angen i ni annog mwy o ymchwil, ehangu ein hystod o bartneriaid academaidd, a chadw llygad ar y gorwel fel y gallwn ni nodi a mynd i’r afael â’r bylchau yn ein gwybodaeth.
I’r rhai ohonoch chi sy’n ymwneud â chydymffurfiaeth rheoleiddio, mae angen gwybodaeth newydd ar fathau newydd o fwyd, yn ogystal â disgwyliadau rheoli risg newydd. Bydd hyn yn gofyn am wella sgiliau, canllawiau a hyfforddiant. Ac mae ffyrdd newydd o werthu bwyd yn gofyn am wahanol ymyriadau gyda’r gwerthwyr hynny.
Yr heriau mawr sydd o’n blaenau fel cymdeithas yw’r argyfwng hinsawdd
Gallai beri risg ddirfodol i ni, ac iechyd tymor hir, yn enwedig gordewdra a’r afiechydon anhrosglwyddadwy y mae’n eu hachosi. Mae bwyd yn chwarae rhan wrth achosi’r problemau hyn, ac o’r herwydd, mae’n rhaid i fwyd chwarae rhan wirioneddol wrth gynnig atebion i’r problemau hyn.
Dylai’r Llywodraeth fod yn manteisio i’r eithaf ar berthnasoedd rheoleiddio sydd gan awdurdodau lleol a’r ASB â busnesau bwyd i lunio disgwyliadau’r rhai yn y system fwyd.
Hoffwn weld y papur sydd ar ddod gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) ar fwyd yn bod mor feiddgar â phosibl wrth ystyried yr ysgogiadau a’r mecanweithiau a allai helpu i sicrhau newid gwirioneddol yn y system fwyd. I’r defnyddwyr sydd eisiau dewis bwyta’n iachus ac yn gynaliadwy, gall deimlo fel brwydr anodd ar adegau. Mae angen i’r Llywodraeth helpu i wneud hynny’n haws.
I’r ASB, mae’r dyfodol yn ymwneud â chynnal y safonau sydd wedi diogelu defnyddwyr ers degawdau, a bod yn hyblyg er mwyn ymateb i system fwyd gymhleth.
Bydd ymarferwr iechyd yr amgylchedd ac awdurdodau lleol yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn y dyfodol. Ein nod, fel erioed, yw wynebu ac ymateb i’r heriau hyn gyda’n gilydd.