Penodi Timothy Riley yn Ddirprwy Gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd wedi cyhoeddi penodiad Timothy Riley fel Dirprwy Gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Mae ei benodiad yn dechrau ar 1 Ionawr 2024 am dair blynedd.
Darllenwch gyhoeddiad Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol San Steffan.
Dywedodd yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB:
“Rwy’n falch iawn y bydd Timothy, sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol fel aelod o Fwrdd yr ASB ers 2019, nawr yn ymgymryd â rôl Dirprwy Gadeirydd yr ASB. Mae profiad Timothy fel aelod Bwrdd ar draws amrywiaeth o gyrff cyhoeddus a phreifat, ynghyd â’i gefndir gwyddonol a’i wybodaeth am y sector bwyd a ffermio, yn golygu ei fod yn arbennig o gymwys i gyflawni’r rôl hon. Edrychaf ymlaen at weithio’n agos gydag ef.”
Dywedodd Timothy Riley:
“Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr rôl a gwaith yr ASB wrth sicrhau bod ein bwyd yn ddiogel a’i fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Mae cyfraniad yr ASB i faterion o ran iechyd y cyhoedd a hyder defnyddwyr yn hanfodol bwysig, ac felly rwy’n falch iawn o ddechrau’r rôl Dirprwy Gadeirydd a chefnogi’r ASB at y dyfodol.”
Mae Timothy Riley wedi bod yn aelod o Fwrdd yr ASB ers 2019 ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC). Hefyd, rhwng 2013 a 2019, roedd yn aelod o Bwyllgor Cynghori’r ASB ar Fwydydd Anifeiliaid.
Mae gan Timothy gefndir academaidd mewn imiwnoleg foleciwlaidd. Mae’n dod â phrofiad fel uwch-was sifil ar ôl bod yn Bennaeth Polisi Iechyd Cyhoeddus y GIG a Safonau Clinigol, gan arwain y tîm a sefydlodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol. Mae hefyd yn dod â phrofiad ym maes arweinyddiaeth weithredol ar ôl gwasanaethu fel Prif Weithredwr i dair Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol y GIG rhwng 2001 a 2011.
Ochr yn ochr â’i waith mewn gwasanaethau cyhoeddus, mae Timothy wedi gweithredu fferm cig eidion a chig oen fasnachol yng ngorllewin Swydd Efrog ers dros 30 mlynedd, gyda diddordeb arbennig mewn amaethyddiaeth gynaliadwy a chyfeillgar i natur. Timothy yw Llywydd Cymdeithas Gwartheg Byrgorn Eidion y DU, mae hefyd yn aelod o Fwrdd ac yn Gadeirydd ARAC i Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol Defra ac yn aelod o Bwyllgor Geneteg Da Byw a Cheffylau’r DU. Yn y sector preifat, mae ganddo ddwy swydd ar Fyrddau Anweithredol.
Mae mwy o fanylion am gefndir proffesiynol Timothy a’i ddatganiad o fuddiannau ar wefan yr ASB.