Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Pedwar dyn a busnes wedi’u dyfarnu’n euog o ddargyfeirio cig sy’n anaddas i’w fwyta gan bobl yn ôl i’r gadwyn fwyd

Penodol i Gymru a Lloegr

Yn dilyn ymchwiliad gan Gyngor Southwark ac Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yr Asiantaeth Safonau Bwyd, gwnaeth tri dyn bledio’n euog ac un dyn a’i fusnes bledio’n ddieuog mewn achos yn Llys y Goron Llundain Fewnol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Ebrill 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Ebrill 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Plediodd tri dyn, sef Mark Hooper, Azar Irshad ac Ali Afzal yn euog am eu rhan nhw yn y troseddau bwyd difrifol dan sylw. Plediodd y pedwerydd diffynnydd, Anthony Fear, unig-gyfarwyddwr busnes o’r enw Fears Animal Byproducts, yn ddieuog drosto’i hun ac ar ran ei fusnes, a dewisodd i sefyll ei brawf.  

Clywodd y llys dystiolaeth am ymchwiliad cymhleth a ddechreuodd pan ddaeth swyddogion Southwark o hyd i 1.9 tunnell o sgil-gynhyrchion anifeiliaid Categori 3 mewn ffatri torri cig anghyfreithlon yn Llundain. Roedd y rhain yn cynnwys ieir cyfan ac ieir wedi’u torri, ceilliau wŷn a byrgyrs cig eidion, a oedd yn cael eu prosesu i’w gwerthu i’r gadwyn fwyd.

Gwnaeth ymholiadau’r NFCU olrhain y sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn ôl i weithredwyr busnesau bwyd cyfreithlon a gadarnhaodd fod y cynhyrchion cig hyn wedi’u hanfon at Fears Animal Byproducts yng Ngwlad yr Haf i’w gweithgynhyrchu i greu bwydydd anifeiliaid anwes neu i’w gwaredu’n ddiogel. 
 
Unwaith y caiff cig ei ddosbarthu fel sgil-gynnyrch anifail, ni ellir byth ei roi yn ôl yn y gadwyn fwyd, a hynny am resymau diogelwch bwyd. Ar ôl dadansoddi llawer iawn o ddata cyfathrebu a thystiolaeth arall a ddangosodd berthynas droseddol rhwng y pedwar dyn a gyhuddwyd, daeth darlun o gynllwynio troseddol i’r amlwg.   
  
Parhaodd y treial dros 11 wythnos.  Ar 27 Mawrth 2025, daeth y rheithgor i’r casgliad unfrydol fod Fear a’i fusnes yn euog o’r drosedd o gynllwynio i dwyllo drwy roi bwyd anaddas ar y farchnad.  
 
Wrth gloi, gwnaeth Ei Anrhydedd y Barnwr Lucas ganmol ansawdd a phroffesiynoldeb yr ymchwiliad, a chanmolodd Prif Ymchwilydd yr NFCU, Andrew Yeats, yn ffurfiol, gan nodi fod ansawdd yr ymchwiliad a’r dystiolaeth a ddarparwyd wedi creu cryn argraff arno.  
Mewn gwrandawiadau cynharach ar 13 Ionawr 2025: 

  • Gwnaeth Mark Hooper, rheolwr yn Fears Animal Byproducts, bledio’n euog i gynllwynio i dwyllo drwy roi bwyd anaddas ar y farchnad.  
  • Gwnaeth Azar Irshad bledio’n euog i gynllwynio i dwyllo, methiant i gydymffurfio â Rheoliad 19 o Reoliadau Diogelwch a Hylendid Bwyd yn ymwneud â safle heb ei gymeradwyo, rhoi bwyd anaddas ar y farchnad (Smokies), rhoi bwyd anaddas ar y farchnad (byrgyrs cig eidion sydd wedi mynd heibio eu dyddiad ‘defnyddio erbyn’) a rhoi bwyd anaddas ar y farchnad (sgil-gynhyrchion anifeiliaid Categori 3 wedi'u dargyfeirio’n anghyfreithlon).  
  • Gwnaeth Ali Afzal bledio’n euog i fethiant i gydymffurfio â Rheoliad 19 o Reoliadau Diogelwch a Hylendid Bwyd yn ymwneud â safle heb ei gymeradwyo.  

 

  Sicrhawyd y pum euogfarn hyn yn dilyn ymchwiliad cynhwysfawr a arweiniwyd gan yr NFCU, a oedd yn gofyn am archwiliad manwl o lawer iawn o dystiolaeth. Gweithiodd yr NFCU yn agos gyda Chyngor Southwark a phartneriaid eraill i wneud yr erlyniad llwyddiannus hwn yn bosib. Rhagwelir y bydd y ddedfryd maes o law yn adlewyrchu natur ddifrifol y troseddu hwn, ac y bydd yn atal drwgweithredwyr eraill yn y gadwyn fwyd rhag troseddu yn yr un modd.” 

  

Andrew Quinn, Pennaeth yr NFCU

 

 

Mae’r troseddau hyn yn amlygu difaterwch digywilydd at gyfreithiau diogelwch bwyd sy’n diogelu iechyd y cyhoedd – a hynny oll am elw. Mae defnyddwyr sy’n prynu ac yn bwyta’r cynhyrchion hyn yn gwbl anymwybodol eu bod yn wynebu peryglon iechyd posib.  
  
Wnawn ni ddim goddef y fath ymddygiad di-hid a thwyllodrus. Ni waeth pa mor hir a gymer; byddwn ni’n defnyddio’r holl bwerau sydd ar gael i ni i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell.  
  
“Ochr yn ochr â’r NFCU, gwnaeth ein swyddogion weithio’n ddiflino i ddatgelu’r gwir a sicrhau bod y rhai a oedd yn gyfrifol yn cael eu gorfodi i dalu am eu troseddau. Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd yn adlewyrchu difrifoldeb y troseddau a gyflawnwyd.” 

Cynghorydd Natasha Ennin, Aelod Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Chymdogaethau, Cyngor Southwark

 

If you suspect food fraud, report it to Food Crime Confidential always available on food.gov.uk or by phoning 0800 028 1180 (0207 276 8787 for non-UK mobiles and calls).