Newidiadau o ran labelu alergenau bwyd bellach yn gyfraith
Cyflwyno cyfraith newydd i ymestyn gofynion labelu ar gyfer pobl sydd ag alergeddau ac anoddefiadau bwyd
Bydd miliynau o bobl sydd ag alergedd ar hyd a lled y wlad yn cael eu diogelu gan gyfraith newydd a osodwyd ger bron y Senedd heddiw a fydd yn golygu bod yn rhaid labelu mwy o fwydydd â gwybodaeth am alergenau.
Bydd y gyfraith, a ddaw i rym o fis Hydref 2021, yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau ddarparu labeli cynhwysion ac alergenau llawn ar fwydydd sydd wedi'u pecynnu ymlaen llaw i’w gwerthu’n uniongyrchol.
Dywedodd Heather Hancock, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd:
“Mae hwn yn gam pwysig i’w groesawu tuag at ein huchelgais i sicrhau mai’r Deyrnas Unedig (DU) yw’r lle gorau yn y byd i bobl sydd ag alergeddau ac anoddefiadau bwyd.
“Rwy’n annog busnesau bach a mawr i weithio gyda’r Asiantaeth Safonau Bwyd er mwyn cyflawni hyn yn iawn.
“Bydd llwyddiant yn golygu mwy o ddewis a gwell mesurau diogelu i'r miliynau o bobl – teulu, ffrindiau, cydweithwyr a chymdogion ar draws y DU sydd ag alergeddau bwyd.”
Daw’r newid hwn yn y gyfraith o ganlyniad i ymgynghoriad ledled y DU yn dilyn marwolaeth drasig y ferch ifanc Natasha Ednan-Laperouse, ar ôl iddi gael adwaith alergaidd i frechdan yr oedd hi wedi’i bwyta, nad oedd yn arddangos gwybodaeth am alergenau ar y deunydd pecynnu.
Dywedodd rhieni Natasha, Nadim a Tanya Ednan-Laperouse:
“Mae hwn yn ddiwrnod hynod arwyddocaol i bobl sy’n dioddef o alergeddau yn y wlad hon. Mae cyflwyno cyfraith Natasha yn sicrhau rhagor o dryloywder am yr hyn y mae pobl yn ei brynu a’i fwyta, yn gosod safonau newydd ar gyfer y cwmnïau bwyd, ac yn tynnu sylw at y frwydr yn erbyn yr epidemig cynyddol o alergeddau.
“Roedd Natasha yn ymgyrchydd brwd dros gyfiawnder a heddiw mae hi’n gwenu arnom ni gan wybod y bydd y gyfraith hon yn helpu i sicrhau nad yw eraill yn dioddef fel mae ein teulu ni, a fel y bydd ein teulu ni am byth, ar ôl colli ein merch a’n chwaer annwyl.
“Hoffwn ni ddiolch i weinidogion am eu cefnogaeth benderfynol wrth wneud y peth iawn ar ran pawb sydd ag alergeddau.”
Dywedodd y Gweinidog dros Fwyd, Zac Goldsmith:
"Mae hon yn foment arwyddocaol i’r miliynau o bobl yn y Deyrnas Unedig sy’n dioddef o alergedd ac mae’n deyrnged addas i ymgyrchu diflino Nadim a Tanya Ednan-Laperouse.
“Bydd cyflwyno’r gyfraith hon yn ei gwneud yn haws i ddioddefwyr alergedd wneud dewisiadau clir a diogel wrth brynu bwyd.”
Ar hyn o bryd, nid yw rhai bwydydd sy'n cael eu paratoi, eu pecynnu a'u gwerthu ar yr un safle sydd yn gorfod dangos gwybodaeth am gynhwysion ac alergeddau ar label y cynnyrch.
Mae Offeryn Statudol (OS) wedi’i osod yn y Senedd heddiw yn ymestyn gofynion labelu a fydd yn caniatáu i bobl ag alergeddau ac anoddefiadau bwyd wneud dewisiadau bwyd diogel.
Bydd y newidiadau yn berthnasol yn Lloegr, a disgwylir i drefniadau tebyg ddilyn yn y gwledydd datganoledig i ddarparu dull ledled y DU o ddiogelu defnyddwyr.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wrthi’n datblygu dehongliad o’r mathau o fwydydd y mae’r ddeddfwriaeth hon yn berthnasol iddynt. Bydd yn cael ei gyhoeddi ar 1 Hydref, gan roi cyfnod pontio o ddwy flynedd i fusnesau allu paratoi ar gyfer y gofynion newydd.