Miliynau o bobl ag alergeddau bwyd i elwa wrth i gyfraith newydd o ran labelu alergenau ddod i rym
Bydd miliynau o bobl ag alergeddau bwyd, anoddefiadau bwyd, a chlefyd seliag yn gallu gwneud dewisiadau mwy diogel am y bwyd maen nhw’n ei brynu wrth i gyfraith newydd o ran labelu alergenau ddod i rym heddiw, 1 Hydref.
Mae’r newidiadau, a elwir hefyd yn Gyfraith Natasha, yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau labelu pob bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) â rhestr gynhwysion lawn, gyda’r 14 prif alergen wedi’u pwysleisio yn y rhestr honno.
Cawsant eu cyflwyno wedi marwolaeth Natasha Ednan-Laperouse, a fu farw ar ôl bwyta baguette wedi’i phecynnu ymlaen llaw, nad oedd angen iddi gynnwys labelu cynhwysion ar y pryd.
Ymhlith y cynhyrchion y bydd bellach angen eu labelu mae brechdanau wedi’u pecynnu ymlaen llaw, bwyd brys sydd eisoes mewn deunydd pecynnu cyn i gwsmer ei archebu, ac eitemau archfarchnad fel cawsiau a chig o’r cownter deli sydd wedi’u pecynnu eisoes ac yn barod i’w gweini.
Mae’r gyfraith newydd yn berthnasol i fwydydd sydd wedi’u pecynnu ar yr un safle ac y cânt eu gwerthu cyn iddynt gael eu harchebu; mae bwydydd a gafodd eu pecynnu ymlaen llaw rywle arall eisoes yn gorfod cynnwys labelu cynhwysion llawn, gydag alergenau wedi’u pwysleisio yn y rhestr honno.
Mae’r gyfraith yn gwella cysondeb labelu ar gyfer cynhyrchion wedi’u pecynnu ymlaen llaw, ac yn rhoi mwy o ddiogelwch i bobl ag alergeddau ac anoddefiadau bwyd wrth iddynt brynu bwydydd ‘i’w cymryd i ffwrdd’ (grab and go).
Meddai Emily Miles, Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB):
“Dyma gam enfawr ymlaen wrth helpu i wella ansawdd bywyd y tua 2 filiwn o bobl yn y wlad hon sydd ag alergeddau bwyd.
Os bydd y newidiadau'n arwain at lai o bobl yn gorfod cael eu trin yn yr ysbyty o ganlyniad i alergeddau bwyd, gan atal marwolaethau trasig eraill fel Natasha, gall hynny ond bod yn beth da.
“Rwy’n deall pa mor anodd y bu’r 18 mis diwethaf i fusnesau bwyd, ac rwy’n ddiolchgar am yr ymdrech y mae cynifer ohonoch chi wedi’i gwneud i baratoi at y newidiadau.”
Ac eithrio pan fydd amgylchiadau’n gofyn am weithredu ar unwaith, cynghorir awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am orfodi’r gyfraith i fabwysiadu agwedd gymesur wedi’i seilio ar risg tuag at achosion o dorri’r gyfraith. Mae’r ASB yn cynghori y dylid ymdrin â mân-wallau trwy ddarparu arweiniad a chefnogaeth ychwanegol o ran y newidiadau, yn enwedig yn ystod y misoedd cynnar.
Meddai rhieni Natasha, Nadim a Tanya Ednan-Laperouse:
“Mae cyflwyno Cyfraith Natasha yn foment chwerwfelys i ni. Rydyn ni’n falch iawn y bydd pobl ag alergeddau bwyd bellach yn cael eu diogelu trwy well labelu, ac yn ein calonnau, rydym ni’n gwybod y byddai Natasha’n falch iawn o’r gyfraith newydd hon yn ei henw. Fodd bynnag, mae'r gyfraith newydd hefyd yn ein hatgoffa bod marwolaeth Natasha yn gwbl osgoadwy.
“Mae Cyfraith Natasha yn ymwneud ag achub bywydau, ac mae’n garreg filltir bwysig yn ein hymgyrch i gefnogi pobl yn y wlad hon ag alergeddau bwyd.
“Bydd y newid hwn i’r gyfraith yn rhoi hyder i bobl ag alergeddau wrth iddynt brynu bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol, fel brechdanau a salad. Dylai pawb allu bwyta bwyd yn ddiogel.”
Mae’r ASB wedi bod yn cefnogi busnesau i baratoi at y newidiadau ers blwyddyn a rhagor, gydag adnoddau i’w helpu i ddeall pa gynhyrchion sydd o fewn cwmpas y rheolau newydd, canllawiau labelu, a chyngor sector-benodol sydd ar gael ar ein Hwb PPDS ar-lein.
Meddai Kate Nicholls, Prif Swyddog Gweithredol UKHospitality:
“Mae tryloywder o ran alergenau yn fater allweddol i’n cwsmeriaid, ac mae’r sector bwyta allan yn parhau i gefnogi agenda’r Llywodraeth ar wella diogelwch bwyd ac eglurder yr wybodaeth sydd ar gael.
“Rydym ni’n parhau i weithio mewn partneriaeth agos â’r ASB i sicrhau bod y ddeddfwriaeth newydd yn eglur i fusnesau bwyd, cwsmeriaid, a chyrff gorfodi, ac rydym ni’n cefnogi’r agwedd gymesur, wedi’i seilio ar risg, tuag at weithredu’r rheolau newydd.”
Mae’r ASB hefyd yn annog defnyddwyr i roi gwybod i staff busnesau bwyd am eu halergeddau. Pwysleisiwyd y neges hon yn ein hymgyrch #CodiLlaisDrosAlergeddau yn gynharach eleni, a wnaeth annog pobl ifanc i siarad am eu halergeddau bob tro wrth archebu bwyd.
Mae rhagor o fanylion a rhestr o gynghorion ar gyfer prynu bwyd tecawê yn ddiogel ar gael ar ein gwefan.