Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Katie Pettifer wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Yn dilyn proses recriwtio gystadleuol, mae Katie Pettifer wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr parhaol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 January 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 January 2025

Mae Katie wedi bod yn Brif Weithredwr dros dro yr ASB ers mis Medi 2024 a, chyn hynny, roedd hi’n Gyfarwyddwr Strategaeth yr ASB ers mis Gorffennaf 2021. Ymunodd Katie â’r ASB o Ofcom lle bu’n Gyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus, ac mae hi wedi gweithio fel rhan o’r Uwch-wasanaeth Sifil yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Swyddfa’r Cabinet a Swyddfa Gogledd Iwerddon. 

“Rwy’n falch iawn o weld bod Katie wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr parhaol yr ASB. Mae ganddi brofiad cryf o bolisi a gwaith rheoleiddio’r llywodraeth, ac mae’n cynnig mewnwelediadau strategol i sut y gallwn addasu a datblygu fel sefydliad. 

Daw penodiad parhaol Katie ar adeg arwyddocaol. Yn wir, mae cyfleoedd newydd ar draws y llywodraeth gyda’r Cynllun ar gyfer Newid, pum cenhadaeth allweddol, gan gynnwys iechyd a thwf economaidd, a datblygu strategaeth fwyd yn Lloegr, yn ogystal â gweithredu Fframwaith Strategaeth Fwyd Gogledd Iwerddon ac amcanion y ddogfen Bwyd o Bwys: Cymru. Rwy’n teimlo’n hyderus iawn y bydd tîm Gweithredol yr ASB yn parhau i gynnal ymddiriedaeth yn y system fwyd dan arweiniad Katie.”

Yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB

 

“Mae’r ASB yn gwneud gwaith hanfodol i gadw bwyd yn ddiogel a diogelu defnyddwyr. Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi’n Brif Weithredwr yn barhaol.       

Yn 2025, sef pen-blwydd yr ASB yn 25 oed, mae heriau a chyfleoedd cyffrous o’n blaenau. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid yr ASB ar draws y system fwyd i wneud yn siŵr bod pobl yn parhau i gael bwyd y gallant ymddiried ynddo.”

Katie Pettifer, Prif Weithredwr yr ASB