Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Hysbysiad wedi’i ddiweddaru ar gynwysyddion ac offer cegin plastig sy’n cynnwys bambŵ

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban yn parhau i gynghori defnyddwyr i beidio â defnyddio cynwysyddion neu offer cegin plastig sy’n cynnwys bambŵ a deunyddiau anawdurdodedig eraill sy’n seiliedig ar blanhigion. Atgoffir busnesau i beidio â gwerthu cynhyrchion o’r fath gan nad ydynt yn cydymffurfio â deddfwriaeth ac mae pryderon diogelwch yn gysylltiedig â nhw.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 July 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 July 2024

Daw’r cyngor ar ôl i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) ddweud wrth y diwydiant ym mis Mai 2022 i roi’r gorau i werthu deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd sy’n cynnwys bambŵ a deunyddiau anawdurdodedig tebyg sy’n seiliedig ar blanhigion, fel plisg reis, gwellt gwenith a chywarch. Cynhaliwyd galwad am dystiolaeth i asesu diogelwch hirdymor y cynhyrchion hyn.  
 
Mae’r Pwyllgor ar Wenwyndra Cemegion mewn Bwyd, Cynhyrchion Defnyddwyr a’r Amgylchedd (COT) bellach wedi ystyried y data newydd a gyflwynwyd i’r ASB ac FSS, a chanfu nad oes digon o dystiolaeth i ddod i’r casgliad bod y cynhyrchion hyn yn ddiogel. Mae pryderon o hyd ynghylch yr effaith ar iechyd o’u defnyddio’n hirdymor.  
 
Felly, mae’r ASB ac FSS wedi penderfynu parhau i’w gwneud yn ofynnol i’r diwydiant eu tynnu oddi ar y farchnad a pharhau i gynghori defnyddwyr a allai fod â’r cynhyrchion hyn gartref i beidio â’u defnyddio at ddibenion sy’n ymwneud â bwyd.  

Daeth y COT i’r casgliad y gall presenoldeb bambŵ a deunydd tebyg sy’n seiliedig ar blanhigion mewn deunyddiau plastig achosi i fformaldehyd a melamin ollwng i gynhyrchion bwyd neu ddiod,a hynny ar gyfraddau uwchlaw’r terfyn cyfreithiol, sy’n anniogel i ddefnyddwyr.  
 
Mae fformaldehyd yn cael ei gynhyrchu’n naturiol gan y corff, ond pan gaiff ei lyncu ar lefelau uchel, gall arwain at symptomau gastroberfeddol. Er bod gan felamin a fwyteir yn y tymor byr lefel isel o wenwyndra acíwt, gall amlygiad hirdymor ar lefelau uchel arwain at niwed i’r arennau ac i’r llwybr wrinol.  
 
Er ei bod yn annhebygol iawn y byddai defnyddio’r cynhyrchion hyn yn y tymor byr yn arwain at risg uniongyrchol i iechyd, mae’r ASB ac FSS yn argymell lleihau amlygiad gan fod ansicrwydd o hyd ynghylch effeithiau hirdymor defnyddio’r cynhyrchion yn rheolaidd.  
 
Felly, mae’r ASB ac FSS yn cynghori na ddylid parhau i werthu’r cynhyrchion hyn ym Mhrydain Fawr, ac y dylai pobl eu gwaredu neu eu defnyddio at ddibenion eraill os oes ganddynt yr eitemau hyn yn eu cartrefi.  
 
Yng Ngogledd Iwerddon, yn unol â deddfwriaeth Deunydd a Ddaw i Gysylltiad â Bwyd y Comisiwn Ewropeaidd, mae’r cynhyrchion hyn eisoes wedi’u gwahardd i’w gwerthu fel deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, ac mae busnesau’n parhau i gydymffurfio â’r dyfarniad hwn.  
 
Nid yw’r cyngor yn berthnasol i eitemau a wneir o fambŵ neu ddeunyddiau sy’n dod o blanhigion yn unig. Yn hytrach, mae’n ymwneud â’r cynhyrchion hynny sy’n defnyddio cyfuniad o blastig a deunyddiau sy’n seiliedig ar blanhigion. Gofynnir i fusnesau sicrhau nad yw unrhyw gynhyrchion bambŵ neu gynhyrchion tebyg sy’n dod o blanhigion sy’n parhau i fod ar y farchnad yn cynnwys unrhyw gydrannau plastig.  

Dywedodd James Cooper, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi’r ASB: 

“Yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ein cenhadaeth yw sicrhau bod bwyd yn ddiogel, ac mae hyn hefyd yn cynnwys sicrhau bod cynhyrchion sy’n dod i gysylltiad â’n bwyd, fel cynwysyddion ac offer cegin, yn ddiogel hefyd.  
 
“Yn dilyn ein proses asesu risg gadarn, rydym wedi canfod nad oes digon o dystiolaeth i roi hyder i ni fod y cynhyrchion hyn yn ddiogel i ddefnyddwyr eu defnyddio ac felly, ein safbwynt ni o hyd yw na ddylid gwerthu cynwysyddion bwyd ac offer cegin sy’n cynnwys deunydd cyfansawdd bambŵ yn y DU. 
 
“Nid ydym yn gwybod yr effeithiau hirdymor ar iechyd o ddefnyddio’r cynhyrchion hyn, ac rydym yn parhau i fod yn bryderus y gallai cemegion fel fformaldehyd a melamin ollwng o’r deunyddiau hyn pan fyddant yn dod i gysylltiad â bwyd, yn enwedig bwyd poeth neu asidig.  
 
“Yn flaenorol, gofynnwyd i fusnesau ymatal rhag gwerthu’r cynhyrchion hyn, fel mesur rhagofalus, cynghorwyd defnyddwyr na ddylent ddefnyddio unrhyw un o’r cynhyrchion hyn yr oeddent eisoes wedi’u prynu nes bod ymchwiliad llawn i’r risgiau posib wedi’i gynnal.  
 
“Nawr bod yr ymchwiliad wedi’i gwblhau, rydym yn cynghori defnyddwyr sydd yn dal i fod â’r eitemau hyn i beidio â’u defnyddio ar gyfer storio na gweini bwyd, ond i gael gwared arnynt mewn gwastraff cyffredinol. Rydym yn cynghori busnesau i sicrhau nad yw’r cynhyrchion hyn yn cael eu gwerthu.” 

“Nid oes modd compostio nac ailgylchu’r cynhyrchion hyn, felly dylai defnyddwyr eu rhoi yn y bin gwastraff cyffredinol neu eu hailddefnyddio at ddibenion heblaw bwyd.” 

Efallai y bydd yn anodd gwybod a yw cynnyrch wedi’i wneud o ddeunyddiau cyfansawdd bambŵ ar ôl iddo gael ei dynnu o’i ddeunydd pecynnu, ond bydd gan y fath gynhyrchion arwyneb llyfn a byddant yn teimlo fel plastig.  

Gellir darllen y datganiad safbwynt wedi’i ddiweddaru gan y COT yma.