Gorsensitifrwydd i fwyd yn cael sylw blaenllaw yng nghyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth
Ddydd Mercher 16 Mehefin, bu'r aelodau'n trafod saith papur, a oedd yn cynnwys diweddariadau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a'r Cyngor Gwyddoniaeth ar waith hanfodol yn y maes hwn.
Fe wnaeth Bwrdd yr ASB ailadrodd ei ymrwymiad i weithio gydag ystod o asiantaethau eraill y llywodraeth a chynyddu ei allu gwyddoniaeth ac ymchwil i ddod yn “bencampwr yr achos dros orsensitifrwydd i fwyd” wrth i’r aelodau ymateb i ddau adroddiad ar y mater.
Clywodd yr aelodau gyntaf gan Sushma Acharya, pennaeth polisi a strategaeth yr ASB ar gyfer gorsensitifrwydd i fwyd (FHS), a ddiweddarodd gydweithwyr ar waith yr Asiantaeth ei hun yn y maes hwn, gan gynnwys llwyddiant y Symposiwm Alergeddau ym mis Mawrth, cynnydd mewn Labelu Alergenau Rhagofalus (precautionary) a'r rheoliadau sydd ar y gweill ar fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS), a arweiniodd at drafodaethau ar gynlluniau ar gyfer y Cynllun Diogelwch Alergedd Bwyd.
Yna diolchodd y Cadeirydd Ruth Hussey i'r Athro Sandy Thomas a'r Cyngor Gwyddoniaeth am eu hadolygiad terfynol o raglen gorsensitifrwydd i fwyd bresennol yr ASB ochr yn ochr â nodi blaenoriaethau cyfredol a rhai’r dyfodol. Nododd y Bwrdd fod dull y Cyngor Gwyddoniaeth yn tanlinellu pwysigrwydd gweithio gydag asiantaethau eraill y llywodraeth, nid yn unig ym maes iechyd y cyhoedd ond hefyd mewn meysydd cysylltiedig fel addysg, tra bod y Cadeirydd wedi ailadrodd ymrwymiad i'r ASB fod yn “bencampwr yr achos dros orsensitifrwydd i fwyd” a gwahodd yr ASB i lunio cynllun gweithredu terfynol i roi argymhellion y Cyngor ar waith.
Yn olaf, pwysleisiodd Pennaeth Gwyddoniaeth, Tystiolaeth ac Ymchwil yr ASB, yr Athro Rick Mumford, allu cynyddol gwyddoniaeth ac ymchwil yr Asiantaeth yn y maes hwn, a sut mae'r gyfarwyddiaeth wyddoniaeth eisoes yn defnyddio argymhellion y Cyngor Gwyddoniaeth i ddylanwadu ar eu gwaith mewn meysydd eraill.
O dan bwynt arall ar yr agenda, nododd y Bwrdd adroddiad blynyddol cyntaf y Prif Gynghorydd Gwyddonol, yr Athro Robin May, a aeth ag aelodau trwy bwyntiau allweddol y 12 mis diwethaf, gan gynnwys ymateb yr ASB i COVID-19 a gweithio gyda phartneriaid yn y gymuned ymchwil i sicrhau y gallwn barhau i gyrchu'r wyddoniaeth orau sydd ar gael. Clywodd y Bwrdd ddiweddariad hefyd ar allu sganio’r gorwel yr ASB, sydd wedi'i ehangu yn ystod y pandemig i ystyried ystod ehangach o risgiau a chyfleoedd posibl yn y system fwyd yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hwy. Yn benodol, mynegodd aelodau eu cefnogaeth dros waith pellach ar dechnolegau sy'n dod i'r amlwg, fel bwyd GM a chig wedi'i dyfu mewn labordy.
Yn y cyfamser, darparwyd diweddariadau pellach ar broses asesu risg newydd yr ASB, a’r adroddiad blynyddol sydd ar ddod ar safonau bwyd, ill dau’n cael eu cynnal yn sgil ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd ddechrau'r flwyddyn. Yn olaf, wrth drafod blaenoriaethau strategol yr ASB ar gyfer polisi a rheoleiddio, bu'r aelodau'n ystyried gwahanol gyfeiriadau y gallai'r ASB eu cymryd yn y dyfodol.
Mae recordiad o'r cyfarfod, ynghyd â'r agenda lawn a'r papurau, ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan.
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Bydd cyfarfod nesaf Bwrdd yr ASB ar 15 Medi 2021.