Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Emily Miles i adael yr Asiantaeth Safonau Bwyd ym mis Medi

Bydd Emily Miles yn gadael ei rôl fel Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ym mis Medi, yn dilyn ei phenodiad llwyddiannus yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Bwyd, Bioddiogelwch a Masnach yn Defra.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 July 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 July 2024

Tra bod yr ASB wrthi’n recriwtio olynydd parhaol i Emily, bydd Katie Pettifer, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chydymffurfiaeth Rheoleiddiol presennol yr ASB, yn gweithredu yn cymryd yr awenau fel Prif Weithredwr dros dro.  

Byddwn ni’n gweld eisiau Emily yn yr ASB, ond rwy’n hyderus y byddwn ni’n parhau i gydweithio’n agos.  Bydd hi’n dod â’i chyfoeth o wybodaeth o’i chyfnod yn yr ASB i’w rôl newydd, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd yn y dyfodol i wella’r system fwyd. 

Fel y cyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon, mae fy mhenodiad fel Cadeirydd yr ASB wedi’i ymestyn dros dro i ddarparu arweinyddiaeth gyson dros y cyfnod hwn ar ôl yr etholiad. Bydd hyn yn sicrhau bod yr ASB yn parhau i ddarparu system reoleiddio effeithiol i gynnal y safonau bwyd uchel sydd mor bwysig i bob un ohonom. Rwy’n wrth fy modd y bydd Katie Pettifer, ein Cyfarwyddwr Strategaeth a Chydymffurfiaeth Reoleiddio presennol, yn gweithredu fel Prif Weithredwr dros dro i arwain ein sefydliad wrth i ni recriwtio ar gyfer penodiad parhaol.

Yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB

Rwy’n croesawu'r her newydd hon, ond byddaf yn drist i adael yr ASB. Ymunais â’r Asiantaeth yn 2019, cyn i’r DU ymadael â’r UE, y pandemig, y rhyfel yn Wcráin, a’r argyfwng costau byw.  

Mae’r sefydliad wedi cyflawni llawer yn ystod y pum mlynedd hyn gyda ffocws penderfynol ar sicrhau bwyd y gallwch ymddiried ynddo. Rwy’n gwybod fy mod yn gadael yr ASB yn nwylo diogel tîm arweinyddiaeth yr ASB a’n Cadeirydd, yr Athro Susan Jebb.   

Rwy’n ddiolchgar iawn am waith caled ac ymroddiad fy nghydweithwyr yn yr ASB, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda nhw yn fy rôl newydd. 

Emily Miles, Prif weithredwr yr ASB