‘Dyfodol disglair i’r proffesiwn’: Anerchiad i’r Gymdeithas Arolygwyr Cig
Siaradodd ein Prif Weithredwr, Emily Miles, yng Nghynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Arolygwyr Cig ddydd Gwener 10 Medi.
Diolchodd Emily i arolygwyr hylendid cig am eu hymdrechion dros y flwyddyn ddiwethaf wrth reoli effaith COVID-19 a'r rhan hanfodol y maent yn ei chwarae wrth helpu’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i gyflawni ei chenhadaeth, sef sicrhau bwyd y gallwn ymddiried ynddo. Ailddatganodd hi hefyd ymrwymiad yr ASB i gefnogi datblygu’r proffesiwn.
Dyma drawsgrifiad o’r araith:
Cyflwyniad
Rydw i’n falch iawn i allu ymuno â chi heddiw. Nid dim ond cyfle i mi amlinellu gweithgarwch cyfredol yr ASB a’i chynlluniau ar gyfer y dyfodol yw hwn, ond mae hefyd yn gyfle i ddiolch i chi am eich holl ymdrechion dros y flwyddyn ddiwethaf, a hynny yn ystod cyfnod a fu’n hynod heriol i arolygwyr hylendid cig.
Ers i mi siarad yn eich cynhadledd flynyddol ddiwethaf, mae wedi bod yn gyfnod anodd i arolygwyr hylendid cig ledled y wlad ac rydym ni’n ddiolchgar iawn am eich rôl fel gweithwyr allweddol yn ystod y pandemig.
Fe aethoch chi i’r gwaith pan oedd pobl eraill yn gallu gweithio gartref. Fe wnaethoch chi helpu i barhau i gyflenwi bwyd diogel trwy gydol y misoedd anodd hyn, gyda phresenoldeb o 100% yn y ffatrïoedd a oedd yn gweithredu.
Heddiw, hoffwn i ailadrodd ymrwymiad parhaus yr ASB i gefnogi arolygwyr hylendid cig. Yn achos yr ASB, mae arolygwyr hylendid cig yn werthfawr ac yn cael eu gwerthfawrogi, ac mae heriau’r flwyddyn ddiwethaf dim ond wedi atgyfnerthu’r farn hon.
Parhau fydd rôl arolygwyr hylendid cig ac, mewn gwirionedd, rydym ni’n gweld dyfodol disglair gyda rhagor o gyfrifoldebau. Rydym ni’n gweld eich gwaith yn chwarae rhan hanfodol wrth ein helpu i gyflawni ein cenhadaeth, sef sicrhau bwyd y gallwn ymddiried ynddo.
Mae llawer o arolygwyr hylendid cig yn gweithio i’r ASB, neu’r rheoleiddiwr cyfatebol yn yr Alban, Safonau Bwyd yr Alban, yn y rheng flaen neu mewn meysydd eraill yn ein sefydliadau, ac mae rhai ohonoch chi'n gweithio yn y sector preifat. Rydw i’n gobeithio y bydd fy meddyliau am rôl arolygwyr hylendid cig o ddiddordeb i chi i gyd.
Gwerthfawrogi arolygwyr hylendid cig
Rydych chi oll wedi arddangos eich ymroddiad, eich hyblygrwydd a’ch gallu i weithio’n galed trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf wrth i ni ymateb i effaith y pandemig. Nid yw hyn wedi bod yn hawdd, ac rydw i’n gwybod bod hyn wedi golygu bod llawer ohonoch chi’n gweithio diwrnodau ychwanegol a sifftiau hirach. Mae rhai ohonoch chi wedi gorfod cydbwyso’ch gwaith â dyletswyddau gofalu am aelodau o’r teulu, ac nid yw llawer o'n cydweithwyr o dramor wedi gallu ymweld â’u cartref oherwydd y cyfyngiadau teithio. Rydw i’n eithriadol o falch o'r hyn rydych chi i gyd wedi'i gyflawni ac yn ddiolchgar am eich cefnogaeth barhaus.
Hoffwn i hefyd ddiolch i chi am eich help wrth reoli’r gofynion ychwanegol sydd wedi codi yn sgil gŵyl Eid al Adha eleni. Gwnaethoch chi baratoi’n drylwyr i gynllunio ar gyfer yr ŵyl er mwyn ateb y galw ychwanegol am gig a gyflenwir yn uniongyrchol.
Gweithiodd llawer o reolwyr rhanbarthol yr ASB ac Eville & Jones yn y rheng flaen i sicrhau bod y gwaith wedi’i gyflawni, a defnyddiwyd rhai o'n staff corfforaethol i sicrhau bod ffatrïoedd ag adnoddau cyflawn trwy gydol y cyfnod. Mae’r cymorth hwnnw gan staff corfforaethol wedi parhau yn ystod gwyliau mis Awst, felly mae wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf. Diolch i waith caled ac ymroddiad timau Gweithrediadau Maes, roedd pob ffatri yn gallu gweithredu yn ystod oriau hir yr ŵyl. Felly da iawn i bob un ohonoch chi a wnaeth gymryd rhan.
Mae’r dyfodol yn ddisglair
Rydym ni’n gwybod y bu rhywfaint o bryder am rôl arolygwyr hylendid cig yn y dyfodol, ond rydw i eisiau tawelu eich meddyliau gan bwysleisio ein bod ni’n gweld dyfodol disglair i’r proffesiwn.
Wrth i’n Rhaglen Trawsnewid Gweithrediadau ein symud tuag at ddull mwy cymesur o ymgysylltu â diwydiant, sy’n seiliedig ar risg, rydym ni wedi ymrwymo i barhau i ddatblygu gweithlu medrus, gwydn gyda llwybrau gyrfa gwell a gwerthfawr.
Mae’r Rhaglen Trawsnewid Gweithrediadau yn moderneiddio’r ffordd yr ydym ni’n darparu Rheolaethau Swyddogol yn y sectorau cig, llaeth a gwin. Rydym ni am ei gwneud hi'n haws i fusnesau wneud y peth iawn. Ni ddylem ni, fel rheolydd, fod yn gwneud pethau'n anodd i fusnesau nac yn sefyll yn ôl ac yn aros iddynt wneud camgymeriadau.
Ein nod yw annog a chefnogi cydymffurfio â deddfwriaeth. Dylem ni fod yn defnyddio’r arbenigedd a'r profiad helaeth sydd gennym ni yn yr ASB i ddylanwadu ac addysgu lle bo angen, gan gefnogi busnesau i wneud penderfyniadau gwybodus a rhesymegol i annog ymddygiadau sy’n cydymffurfio. Ni fyddwn ni’n gwingo rhag defnyddio cosbau mewn modd cymesur os oes angen, ond yn y pen draw, rydym ni am helpu busnesau i ddiogelu defnyddwyr. Dylai gorfodi fod yn fodd i sicrhau bod busnesau’n cydymffurfio fel rhan o ystod offer ehangach.
Ar gyfer arolygwyr hylendid cig, bydd cyfleoedd i ymgymryd â gweithgarwch newydd a gwahanol wrth i ni addasu i ofynion busnes sy’n newid. Fel pob newid trawsnewidiol, bydd rhai swyddi rheng flaen yn esblygu. Rydw i’n falch o ddweud y bydd Colin a Richard yn siarad yn fanylach heno am y Rhaglen Trawsnewid Gweithrediadau. Byddwn ni hefyd yn trafod hyn yn ein cyfarfod Bwrdd yr wythnos nesaf a fydd yn gyfarfod cyhoeddus, ar gael i’w wylio ar ein gwefan.
Rydw i hefyd yn gwybod bod nifer ohonoch chi’n gweithio mewn lladd-dai bychain ac yn pryderu am ddyfodol y seilwaith hanfodol hwn. Felly rydw i eisiau rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am rywfaint o’r gwaith rydym yn ei wneud yn y maes hwn.
Yn ystod y 18 mis diwethaf, efallai fod pwysigrwydd rhwydweithiau’r lladd-dai bychain wedi'i bwysleisio yn fwy nag erioed o'r blaen wrth i’r pandemig gynyddu’r galw lleol. Rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda lladd-dai bychain, Defra ac adrannau eraill y llywodraeth i edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol, ac yn y Model Cyflenwi’r Dyfodol, i gefnogi'r busnesau hyn.
Rydym ni wedi cychwyn peilot, sy’n cynnwys naw lladd-dy bach, sy’n edrych ar systemau a gwaith papur Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP) symlach. Rydym ni hefyd wrthi’n asesu lladd-dy symudol newydd i'w gymeradwyo, ac mae ail safle'n cael ei ystyried. Mae llawer o waith wedi’i wneud er mwyn cefnogi'r prosiect hwn ac rydw i’n hynod ddiolchgar i bawb a gymerodd ran.
Rydym ni hefyd yn edrych am sut y gallwn ni wella'r ffordd y mae penderfyniadau gorfodi yn cael eu gwneud trwy eu gwneud yn fewnol ac egluro’r rolau rhwng milfeddygon yr ASB a Milfeddygon Swyddogol wedi’u contractio. Yn dilyn adolygiad o’r ffordd yr ydym ni’n cynnal gweithgarwch gorfodi ym maes gweithrediadau cig, rydym ni’n moderneiddio ein dull cyflenwi i alinio â'r fframwaith deddfwriaethol diweddaraf a gynhwysir yn y rheoliadau rheoli swyddogol.
Mae gweithgor wedi’i greu i ddatblygu opsiynau ar gyfer y broses newydd. Mae’r grŵp yn mynd ati i ymgysylltu â’r gymuned filfeddygol ac undebau llafur fel y gallwn ni, gyda'n gilydd, lunio’r ffordd fwyaf effeithiol i roi’r gofynion newydd ar waith. Er nad oes dyddiad eto o ran pryd y byddwn ni’n rhoi’r dull hwn ar waith, rydym ni’n gweithio’n gyflym.
Rydym ni hefyd yn parhau i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn y tîm gweithrediadau, ac mae’r ymdrechion rydych chi wedi’u gwneud i ddeall a gwrando ar brofiadau eich gilydd dros y flwyddyn ddiwethaf wedi creu argraff arnaf i, yn enwedig os yw'r profiadau hynny’n wahanol i'ch profiadau chi. Mae tegwch a chydraddoldeb yn rhan annatod o'n diwylliant, ac mae’n rhaid i ni ymdrechu i sicrhau bod ein holl staff yn cael eu trin ag urddas a pharch.
I’r perwyl hwnnw, rwy'n falch bod grŵp Cynhwysiant a Thriniaeth Deg Gweithrediadau Maes wedi’i ail-lansio ym mis Awst ac rydym ni’n gweithio’n agos gyda’n harweinydd o ran cynhwysiant, Keela Shackell-Smith, i gyflawni'r cynllun gweithredu ar draws y maes Gweithrediadau.
Hoffwn i hefyd achub ar y cyfle hwn i longyfarch Eddelle Allen, Rheolwr Ardal Dwyrain Lloegr, a gyrhaeddodd restr fer Gwobrau Menywod y Flwyddyn ym Musnes Cig. Roedd Eddelle yn un o saith menyw ar y rhestr fer ar gyfer y wobr ‘Un i'w Gwylio’ eleni. Dyma’r wobr flynyddol am dalent sy'n dod i'r amlwg, a ddyfarnwyd i fenyw 35 oed neu'n iau, sy'n gweithio yn y diwydiant cig yn y DU ac Iwerddon. Rydym ni i gyd yn falch iawn o'r gydnabyddiaeth a gafodd Eddelle am effaith ac arloesedd ei gwaith.
Ein cenhadaeth
Mae arolygwyr hylendid cig yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni ein cenhadaeth, sef bwyd y gallwch ymddiried ynddo. Rydym ni wedi gweld hyn yn y safonau uchel a gyflawnwyd dros y flwyddyn ddiwethaf o ran diogelu defnyddwyr a lles anifeiliaid, er gwaethaf y pwysau aruthrol sydd wedi codi yn sgil y pandemig a Brexit.
O'n rhan ni, mae'r ASB bob amser yn edrych ar ffyrdd y gallwn adeiladu ar y safonau hynny. Yn achos lles anifeiliaid, mae lladd a stynio halal yn faes lle rydym ni’n ceisio gwella rheoleiddio gan ddatblygu’r Protocol Arddangos Bywyd. Datblygwyd y protocol gan weithgor diwydiant ac aml-asiantaeth a'i nod yw annog defnyddio dulliau lladd a stynio sy’n gydnaws â Halal ar gyfer defaid a geifr. Mae ganddo'r potensial i leihau nifer yr anifeiliaid sy'n cael eu lladd heb eu stynio ymlaen llaw.
Mae dyddiad treial cyntaf y protocol ar ddod a bydd Arweinwyr Milfeddygol yr ASB, sydd wedi cael hyfforddiant penodol ar gyfer cymhwyso'r protocol, yn ei oruchwylio.
Mae lles anifeiliaid yn faes pwysig o safbwynt y cyhoedd. Yn ein harolwg Bwyd a Chi diweddaraf sy’n edrych ar agweddau defnyddwyr at fwyd, rydym ni’n canfod yn gyson taw lles anifeiliaid yw un o’r prif bryderon ymhlith defnyddwyr (57%) – ar ôl faint o siwgr mewn bwyd (60%) a gwastraff bwyd (60%). Mae'r canfyddiadau'n dangos bod 92% o bobl o'r farn ei bod yn bwysig prynu cig, wyau a llaeth sy'n cael eu cynhyrchu gyda safonau uchel o ran lles anifeiliaid.
Wrth gwrs, mae cyflawni ein cenhadaeth sef, bwyd y gallwch ymddiried ynddo, ond yn bosibl pan fo’r adnoddau cywir ar waith, ac rydym ni’n gwybod bod hel adnoddau ar gyfer diwedd yr haf yn parhau i fod yn heriol i Filfeddygon Swyddogol ac arolygwyr hylendid cig oherwydd effeithiau COVID-19 ac Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE).
Rhagwelir y bydd carfan o arolygwyr hylendid cig o dramor yn helpu capasiti arolygwyr hylendid cig i ddychwelyd i'r lefelau gorau posibl erbyn yr hydref, ac mae E&J hefyd yn cychwyn ar raglen brentisiaeth arolygwyr hylendid cig i gefnogi cynllunio adnoddau ar eu cyfer yn y tymor hir.
Rydym ni’n deall pa mor galed mae timau rheng flaen yn gweithio i gynnal y gwasanaeth rydym ni'n ei ddarparu, gan weithio goramser, bod yn hyblyg, gweithio mewn gwahanol leoliadau yn ôl yr angen a hyd yn oed ganslo gwyliau blynyddol. Cysylltwyd hefyd â staff corfforaethol sydd wedi’u hyfforddi’n briodol i ofyn am eu hargaeledd i gefnogi darparu gwasanaeth rheng flaen.
Byddwn ni hefyd yn parhau i ymgysylltu ar draws y llywodraeth a chyda'r Coleg Brenhinol i edrych ar atebion i fynd i'r afael â phrinder milfeddygon yn y Deyrnas Unedig. Hefyd, dechreuwyd mesur Cofrestru Dros Dro newydd o 1 Mehefin i alluogi milfeddygon sydd â sgiliau iaith Saesneg sy’n cyfateb i lefel 5 fel isafswm i gofrestru dros dro gyda Choleg Brenhinol Llawfeddygon Milfeddygol (RCVS) am gyfnod o 12 mis. O dan oruchwyliaeth, byddant yn gallu gweithio fel Milfeddygon Swyddogol a gwella safon eu Saesneg i allu sefyll y cymhwyster lefel 7 yn ddiweddarach.
Casgliad
Rydw i’n gobeithio bod y diweddariad hwn ar flaenoriaethau cyfredol yr ASB wedi bod yn ddefnyddiol.
Rydw i hefyd yn gobeithio fy mod wedi gallu cyfathrebu i’r rhai ohonoch chi sy'n arolygwyr hylendid cig, p’un a ydych chi’n gweithio yn y sector cyhoeddus neu’r sector preifat, fod yr ASB yn gwbl ymrwymedig i wneud yr hyn a allwn i ddatblygu proffesiwn arolygwyr hylendid cig. Dyna neges y mae’r ASB wedi bod yn gyson yn ei chylch dros y blynyddoedd diwethaf ac rydw i’n ei hailadrodd eto heno.
Ac mewn ymateb, rydw i’n gofyn, yn ychwanegol at y gwaith gwych rydych chi'n ei wneud bob dydd, ein bod ni i gyd yn parhau i weithio gyda'n gilydd i wneud y proffesiwn yn un gwych i weithio ynddo. Er bod effaith y pandemig wedi bod yn wirioneddol ofnadwy, un o'r pethau cadarnhaol sydd wedi dod yn ei sgil yw'r caredigrwydd rydym ni wedi'i ddangos i'n gilydd dros y flwyddyn ddiwethaf.
Rydych chi wedi bod yn gweithio rhagor o sifftiau ar ran cydweithwyr, yn cadw mewn cysylltiad â'ch gilydd, ac yn croesawu staff newydd. Bu gwir ymdeimlad o gymuned. Mae’n rhaid i ni geisio bwrw ati gyda gwaith cadarnhaol y flwyddyn ddiwethaf, gan obeithio ein bod ni’n dweud ffarwel wrth [effeithiau gwaethaf y pandemig.
Diolch.