Diwygiadau i’r broses awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig i’w rhoi ar y farchnad yn dod i rym
Daeth dau newid i’r ffordd rydym yn awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig i rym heddiw, sef 1 Ebrill. Bydd y newidiadau hyn yn ein helpu i fod yn gyson ag arloesi yn y diwydiant bwyd, gan roi dewis gwell o fwyd diogel i ddefnyddwyr.
Rhaid i rai cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid, a elwir yn gynhyrchion rheoleiddiedig, gan gynnwys ychwanegion a chyflasynnau bwyd, gael eu hawdurdodi fel rhai diogel cyn y gellir eu gwerthu. Er mwyn gwneud hyn, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) yn cynnal asesiad diogelwch neu ‘asesiad risg’ trylwyr, sy’n cael ei gynnwys yn ein hargymhellion i weinidogion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, sydd wedyn yn penderfynu a ellir gwerthu’r cynnyrch ai peidio.
Mae’r newidiadau hyn yn rhan o’n gwaith parhaus i greu gwasanaeth awdurdodiadau marchnad symlach ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig, a byddant yn ein helpu i ddarparu gwasanaeth mwy effeithlon, heb leihau diogelwch na safonau bwyd mewn unrhyw ffordd. Bydd hyn yn dod â manteision i ddefnyddwyr trwy ddewis ehangach o fwyd diogel wrth i gynhyrchion newydd, arloesol gyrraedd y farchnad yn gyflymach.
Mae Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Cynhyrchion Rheoleiddiedig) (Diwygio, Dirymu, Darpariaeth Ganlyniadol a Throsiannol) 2025 newydd yn gwneud y broses awdurdodi yn fwy effeithlon, trwy:
- Dileu’r gofyniad i adnewyddu awdurdodiadau ar gyfer tair cyfundrefn cynhyrchion rheoleiddiedig (ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflasynnau mwg a bwyd neu fwyd anifeiliaid sy’n cynnwys organebau a addaswyd yn enetig, neu sy’n cael eu cynhyrchu o organebau a addaswyd yn enetig) bob deng mlynedd. Mae dileu’r gofyniad i ailasesu cynhyrchion sydd wedi’u defnyddio’n ddiogel ers blynyddoedd lawer, ni waeth a yw tystiolaeth ar eu diogelwch yn newid, yn unol â’n proses ar gyfer cyfundrefnau cynnyrch rheoleiddiedig eraill. Mae hyn yn golygu y gall yr ASB ac FSS dargedu adnoddau at asesiadau manwl o gynhyrchion a allai beri’r risg fwyaf.
Gall yr ASB ac FSS fonitro tystiolaeth newydd a chymryd y camau angenrheidiol ar unrhyw adeg. Gallwn adolygu awdurdodiadau unrhyw bryd a chynghori gweinidogion ar newidiadau.
Rhaid i fusnesau roi gwybod i’r ASB ac FSS os ydynt yn credu y gallai eu cynnyrch niweidio defnyddwyr. Ar gyfer rhai cynhyrchion, rhaid iddynt hefyd gynnal gwaith monitro ôl-farchnad a monitro amgylcheddol ac adrodd amdano i’r ASB/FSS.
2. Caniatáu i awdurdodiadau ddod i rym yn dilyn penderfyniad gweinidogol, ac yna eu cyhoeddi mewn cofrestr neu restr gyhoeddus swyddogol, sydd ar gael ar ein gwefan, yn hytrach na thrwy ddeddfwriaeth (offeryn statudol).
Mae hyn yn cyd-fynd â phrosesau rheoleiddwyr eraill y DU, a bydd yn byrhau’r cyfnod gweinyddol cyn y gellir gwerthu cynhyrchion newydd, diogel. Bydd cyhoeddi awdurdodiadau ar gofrestrau ar-lein yn gwneud gwybodaeth yn fwy hygyrch. Byddwn yn parhau i gyhoeddi pob asesiad risg ac ymgynghori ar awdurdodiadau arfaethedig.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ymgynghoriadau ac awdurdodiadau cynnyrch, ewch ati i danysgrifio i’n cylchlythyr awdurdodiadau marchnad.