Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Diweddariad: Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi cyngor diogelwch ar gyfer melonau penodol

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori defnyddwyr i beidio â bwyta melonau penodol a allai fod wedi eu halogi â salmonela.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 June 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 June 2021

Bu rhai achosion diweddar o salwch salmonela yn y DU, a chredir mai’r ffynhonnell debygol yw melonau melwlith (honeydew), cantaloupe a galia cyfan sy’n tarddu o Gosta Rica a Honduras ac a brynwyd ar neu cyn 28 Mai 2021.

Gallai defnyddwyr adnabod y wlad tarddiad o sticer ar y ffrwyth. Os nad yw defnyddwyr yn siŵr am wlad tarddiad eu melonau galia, cantaloupe neu felwlith, fe’u cynghorir i gael gwared ar y ffrwyth rhag ofn.

Rydym yn ymwybodol y gallai nifer fawr o fanwerthwyr yn y DU fod wedi stocio’r melonau sydd wedi eu heffeithio, nad ydynt ar werth bellach.

Meddai Tina Potter, Pennaeth Digwyddiadau’r Asiantaeth Safonau Bwyd:

‘Fel mesur rhagofalus rydym ni’n cynghori pobl i beidio â bwyta'r melonau hyn, ac i gael gwared arnynt. Mae'n bwysig bod defnyddwyr yn golchi eu dwylo ac unrhyw arwynebau sydd wedi bod mewn cysylltiad â’r melonau yn drwyadl. Bydd hyn yn helpu i osgoi'r risg o groes-halogi, a’r risg o salwch.’

Meddai’r Athro Saheer Gharbia, Pennaeth Uned Pathogenau Gastroberfeddol Iechyd Cyhoeddus Lloegr:

‘Mae symptomau salmonelosis fel arfer yn eu datrys eu hunain, ac yn cynnwys dolur rhydd, teimlo’n gyfoglyd, chwydu, a gwres. Fodd bynnag, gall symptomau fod yn fwy difrifol nes bod angen mynd i’r ysbyty, yn enwedig ymhlith yr ifanc iawn a’r rheiny sydd â system imiwnedd gwan. Dylai unrhyw un sy’n pryderu bod symptomau salmonelosis arnynt gysylltu â’u meddyg teulu neu wasanaeth y tu allan i oriau.’

Dylai unrhyw un sy'n poeni am symptomau gysylltu â'u meddyg teulu neu wasanaeth y tu allan i oriau yn y lle cyntaf. 

Dim ond y melonau a restrir uchod sydd wedi eu heffeithio. Rydym ni’n gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Lloegr, Safonau Bwyd yr Alban a chydweithwyr diogelu iechyd a diogelwch bwyd eraill yn y DU i barhau â’n hymchwiliadau.

*Diweddariad: Roedd ein cyngor blaenorol a gyhoeddwyd ar 29 Mai 2021 hefyd wedi cynnwys rhybudd am felonau melwlith, melonau cantaloupe a melonau galia o Frasil. Ers cyhoeddi’r cyngor cychwynnol, cynhaliwyd ymchwiliadau pellach gan gynnwys dadansoddi'r gadwyn fwyd a chynnal profion. Mae gwybodaeth ychwanegol wedi dod i’r amlwg sydd wedi dangos nad yw melonau o Frasil yn debygol o fod wedi’u heffeithio.