Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Diweddariad gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban yn dilyn y cynnydd mewn achosion o pancytopenia cathod

Mae'r diweddariad hwn yn dilyn ein cyhoeddiad blaenorol (01 Gorffennaf 2021) ar Gyngor i berchnogion cathod yn dilyn y cynnydd mewn achosion o pancytopenia cathod.

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 July 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 July 2021

Mae presenoldeb mycotocsinau wedi'i nodi mewn nifer bychan o samplau o'r bwyd cathod a alwyd yn ôl a brofwyd hyd yma. Mae mycotocsinau yn gemegau naturiol sy'n cael eu cynhyrchu gan rai mathau penodol o lwydni (ffyngau).

Ceir mycotocsinau yn eang mewn rhai mathau o fwyd a bwyd anifeiliaid, ac nid yw hyn, ynddo’i hun, yn golygu taw nhw yw achos y pancytopenia cathod.

Mae’r busnes, yr ASB a rheoleiddwyr eraill yn parhau i ymchwilio, gan gynnwys cynnal samplu ehangach a hefyd sgrinio ehangach ar gyfer unrhyw docsinau posib.

Mae hysbysiad galw cynnyrch yn ôl yr ASB yn rhoi manylion yr holl gynhyrchion dan sylw sydd wedi’u galw'n ôl gan y busnes fel mesur rhagofalus ar 17 Mehefin. Rydym ni’n annog perchnogion cathod i wirio'r rhestr gynhyrchion, rhoi'r gorau i'w bwydo i'w cathod, a'u dychwelyd i'r siop y gwnaethant eu prynu ohoni.

Dyma'r cyngor blaenorol i berchnogion cathod yn dilyn y cynnydd mewn achosion o pancytopenia mewn cathod (01 Gorffennaf 2021)