Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Diweddariad 12 Mawrth: Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn atgoffa’r cyhoedd am ei chyngor ar goginio cynhyrchion cyw iâr amrwd mewn briwsion bara sydd wedi'u rhewi yn dilyn cysylltiadau ag achosion o Salmonela

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn atgoffa defnyddwyr yn dilyn rhybudd galw bwyd yn ôl wedi'i ddiweddaru sy'n gysylltiedig â halogiad salmonela

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 March 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 March 2021

Mae SFC wedi cyhoeddi rhybuddion diweddar ar gynhyrchion cyw iâr oherwydd bod Salmonela Enteritidis (byg gwenwyn bwyd) wedi'i ddarganfod yn rhai o'r bwydydd hyn.

Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys y cynhyrchion gwreiddiol a nodwyd mewn rhybuddion galw bwyd yn ôl blaenorol, yn ogystal â chynhyrchiom ychwanegol. 

Meddai Dr Colin Sullivan, Prif Swyddog Gweithredu yr ASB:

‘Mae’r cynhyrchion yn gysylltiedig â dau achos parhaus o Salmonela Enteritidis (byg gwenwyn bwyd) mewn cyw iâr o Wlad Pwyl.

‘Rhoddodd y cynhyrchydd reolaethau ychwanegol ar waith i wella diogelwch eu cynhyrchion ym mis Tachwedd 2020. Mae SFC wedi penderfynu tynnu a galw ei holl gynhyrchion cyw iâr a gynhyrchwyd cyn y dyddiad hwn yn ôl.

‘Bydd yr ASB yn gwneud gwiriadau ychwanegol i sicrhau effeithiolrwydd y broses o dynnu a galw’r cynhyrchion hyn yn ôl.’ 

Cynhyrchion yr effeithir arnynt

Mae'r rhestr lawn o gynhyrchion ar gael yn y rhybudd bwyd.

Diweddariad ar yr ymchwiliad ehangach i Salmonela

Rydym ni’n parhau i weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Safonau Bwyd yr Alban (FSS), Iechyd Cyhoeddus Lloegr (PHE), Iechyd Cyhoeddus yr Alban ac Asiantaeth Iechyd y Cyhoedd yng Ngogledd Iwerddon fel rhan o'r ymchwiliad parhaus i ddau fath penodol o Salmonela sy'n gysylltiedig â chynhyrchion cyw iâr amrwd mewn briwsion bara wedi’u rhewi o Wlad Pwyl.

Yn flaenorol, gwnaethom gyhoeddi cyngor rhagofalus i ddefnyddwyr ym mis Hydref 2020 a mis Chwefror 2021. Mae rheolaethau ychwanegol wedi'u rhoi ar waith gan fusnesau bwyd ar lefel gynhyrchu. Mae'r newidiadau hyn i'r broses gynhyrchu yn ymddangos yn effeithiol ac rydym ni’n gobeithio gweld gostyngiad pellach mewn achosion yn ystod y misoedd nesaf wrth i'r cynhyrchion hyn gael eu tynnu o'r gadwyn fwyd. Wrth i ni barhau â'r ymdrechion hyn, mae'n bwysig bod pobl yn dilyn cyngor hylendid bwyd yn ofalus.

Mae ymchwiliadau'n parhau i nodi ffynhonnell yr achosion ar lefel fferm yng Ngwlad Pwyl. Pe bai rhagor o gynhyrchion yn cael eu nodi, byddwn ni’n cymryd camau i gael gwared ar fwyd anniogel. 

Meddai Saheer Gharbia, Pennaeth Uned Pathogenau Gastro-berfeddol Gwasanaeth Heintiau Cenedlaethol PHE:

‘Er ei bod yn ymddangos ein bod ni wedi cyrraedd uchafbwynt yr achos (outbreak) hwn, a bod y gyfradd adrodd achosion wedi gostwng yn ystod y misoedd diwethaf, rydym ni’n dal i ganfod rhai achosion trwy ddilyniannau genom cyfan (whole genome sequencing), felly mae’n bwysig bod pobl yn dilyn cyngor hylendid bwyd yn ofalus. Rydym ni’n parhau i weithio'n agos gyda'r ASB i ddatrys yr achosion. 

‘Yn gyffredinol, mae Salmonela yn achosi salwch ysgafn, er y gall grwpiau agored i niwed fel plant o dan bum mlwydd oed, yr henoed, a'r rhai â systemau imiwnedd gwannach brofi salwch mwy difrifol ac efallai y bydd angen mynd i’r ysbyty. Mae symptomau haint Salmonela yn cynnwys dolur rhydd, crampiau stumog ac weithiau chwydu a gwres. Dylai unrhyw un sy'n poeni am symptomau gysylltu â'u meddyg teulu neu wasanaeth y tu allan i oriau yn y lle cyntaf.’

Ein cyngor i ddefnyddwyr

Os yw defnyddwyr wedi prynu unrhyw un o'r cynhyrchion yn y rhybudd galw bwyd yn ôl wedi’i ddiweddaru, maent yn gallu eu dychwelyd i'r siop lle prynwyd y bwyd am ad-daliad llawn.

Rydym ni’n annog defnyddwyr i goginio bwyd ar y tymheredd cywir ac am yr amser cywir i sicrhau bod unrhyw facteria niweidiol yn cael ei ladd. Cyn gweini’r cynhyrchion hyn, dylech chi sicrhau eu bod yn stemio'n boeth a'i fod wedi'i goginio drwyddo draw. Wrth dorri i ran fwyaf trwchus y cig, dylech chi wirio nad oes unrhyw ran o'r cig yn binc a bod unrhyw suddion yn rhedeg yn glir.

Dylai unrhyw un sy'n poeni am symptomau gysylltu â'u meddyg teulu neu wasanaeth y tu allan i oriau yn y lle cyntaf. 
Dim ond y cynhyrchion a restrir yn yr hysbysiad galw cynnyrch yn ôl sydd wedi’u heffeithio. Nid oes angen newid eich arferion siopa ar gyfer cynhyrchion cyw iâr.