Defnyddwyr y Deyrnas Unedig yn lleisio eu barn am fwyd sydd wedi bod yn destun addasu genomau
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi ei hadroddiad ‘Canfyddiadau defnyddwyr o fwyd sydd wedi bod yn destun addasu genomau’ fel rhan o ymdrechion ehangach i gynyddu ein sylfaen dystiolaeth ym maes technolegau genetig.
Gofynnodd prosiect ymchwil yr ASB am adborth gan y cyhoedd o ran eu canfyddiadau o fwyd sydd wedi bod yn destun addasu genomau, a’i labelu posib yn y dyfodol.
Amlygodd yr ymchwil fod ymwybyddiaeth isel ymysg cyfranogwyr am addasu genomau a’r gwahaniaeth rhyngddo â GM, a’r angen i addysgu’r cyhoedd am dechnoleg addasu genomau yng nghyswllt ei defnydd mewn bwyd.
Teimlodd rhai cyfranogwyr y byddai rheoleiddio a labelu tryloyw o ran bwydydd sydd wedi bod yn destun addasu genomau yn bwysig, pe baent yn cyrraedd marchnad y Deyrnas Unedig (DU).
Addasu genomau yw'r term sy’n cael ei roi ar amrywiaeth eang o dechnegau a ddefnyddir i newid DNA organebau, gan gynnwys planhigion ac anifeiliaid, sef ychwanegu, dileu, neu amnewid darnau DNA. Fodd bynnag, canolbwyntiodd yr ymchwil hon ar un is-set benodol o fwydydd sydd wedi bod yn destun addasu genomau, lle gallai canlyniadau fel arall fod wedi eu cynhyrchu trwy ddefnyddio bridio traddodiadol.
Mae defnyddio technolegau addasu genomau o’r fath yn golygu y gellir gwneud newidiadau yn gyflymach ac yn fwy manwl gywir. Mae ei ddefnyddiau posib yn cynnwys gwneud newidiadau bychain i DNA i wella nodweddion organeb, fel cynnwys maethol cnydau, neu eu gallu i wrthsefyll afiechyd.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw fwydydd sy’n destun addasu genomau ar werth yn y DU, er bod rhai ar gael mewn rhannau eraill o’r byd, ac mae addasu genomau yn dechnoleg sy’n tyfu’n gyflym yn y system fwyd fyd-eang.
Ym mis Ionawr 2021, lansiodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ymgynghoriad ar ddyfodol technolegau genetig yn Lloegr, gan gynnwys gwahodd ymatebion i gynnig i dynnu rheoleiddio addasu genomau o’r ehangach ar GM. Disgwylir i'r ymatebion gael eu cyhoeddi'n fuan.
Roedd yr adroddiad a ryddhawyd heddiw, a gynhaliwyd gan Ipsos MORI, yn cynnwys aelodau o'r cyhoedd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon mewn gweithdai a gweithgareddau ar-lein, wedi ei ddilyn gan arolwg cynrychioliadol o dros 2,000 o ddefnyddwyr.
Yn dilyn ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (UE), mae'r ASB a Safonau Bwyd yr Alban bellach yn gyfrifol am yr holl asesiadau diogelwch ar fwyd a bwyd anifeiliaid GM, yn ogystal â’r rheolau labelu canlynol.
Meddai’r Athro Robin May, Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB:
“Rydym yn croesawu canfyddiadau’r prosiect ymchwil defnyddwyr pwysig hwn, a fydd yn helpu’r ASB wrth i ni barhau i adeiladu sylfaen dystiolaeth i lywio polisi bwyd, cyngor diogelwch, a chyngor labelu yn y dyfodol yn y maes hwn sy’n datblygu’n gyflym.
“Ein blaenoriaeth yw cynrychioli a diogelu defnyddwyr, ac felly mae'n hanfodol ein bod yn parhau i weithio'n agos gyda'r cyhoedd, yn ogystal â chychwyn ar fentrau ymchwil blaengar eraill, i sicrhau ein bod yn defnyddio'r dystiolaeth gadarnaf er mwyn gweithredu er budd defnyddwyr.
“Mae'r DU yn ymfalchïo ei bod â'r safonau uchaf o ran diogelwch bwyd, ac mae rheolaethau llym ar gnydau, hadau a bwyd GM y byddwn ni yn yr ASB yn parhau i'w cymhwyso wrth symud ymlaen. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag ystod eang o bartneriaid i ddatblygu ein dull rheoleiddio yn y maes hwn yn y dyfodol mewn ymateb i'r safbwyntiau hyn a chyhoeddi canlyniadau’r ymgynghoriad a arweiniwyd gan DEFRA.”
Yn ddiweddarach yr haf hwn, bydd yr ASB hefyd yn cyhoeddi adroddiad sy'n asesu gwahanol ddulliau rheoleiddio rhyngwladol ar gyfer bwydydd GM a bwydydd newydd.
I gael rhagor o wybodaeth am addasu genomau, gan gynnwys fideo 'FSA Explains', ewch i'n tudalen we bwrpasol ar gyfer addasu genomau.
Mae'r prosiect ymchwil defnyddwyr llawn ar gael ar ein tudalennau ymchwil (Saesneg yn unig).