Cyngor i bobl ag alergeddau yn cael ei lacio wrth i’r ymchwiliad i gynhwysion mwstard sydd wedi’u halogi â physgnau ddod i ben
Yn sgil yr ymchwiliadau, mae’r holl gynhyrchion halogedig wedi cael eu tynnu oddi ar y farchnad, ac mae cyngor rhagofalus i'r rhai ag alergedd i bysgnau i osgoi bwyta bwydydd sy'n cynnwys neu a allai gynnwys mwstard, powdr mwstard, hadau mwstard neu flawd mwstard wedi’i lacio.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) wedi cadarnhau bod yr holl fesurau diogelwch bwyd angenrheidiol wedi’u rhoi ar waith a bod y cynhyrchion halogedig wedi’u tynnu oddi ar y farchnad yn dilyn ymchwiliad i gynhyrchion mwstard wedi’u halogi â physgnau.
O ganlyniad, maent wedi llacio eu cyngor rhagofalus i bobl ag alergedd i bysgnau i osgoi bwydydd sy’n cynnwys neu a allai gynnwys mwstard, powdr mwstard, hadau mwstard neu flawd mwstard yn y cartref ac wrth fwyta allan gan fod y cynhyrchion hyn bellach yn ddiogel i’w bwyta.
Mae’n bwysig bod pobl ag alergedd i bysgnau yn parhau i osgoi cynhyrchion sydd wedi’u rhestru yn y rhybuddion alergedd. Rydym yn annog defnyddwyr a busnesau i wirio a oes ganddynt unrhyw rai o’r cynhyrchion yr effeithir arnynt ac, os oes, dylent ddilyn y cyngor yn y rhybuddion.
Bydd label alergenau rhagofalus ar rai cynhyrchion sy’n cynnwys mwstard bellach. Felly, dylai defnyddwyr ag alergedd i bysgnau wirio a oes label bellach wedi’i roi ar gynhyrchion y gallent fod wedi’u prynu’n flaenorol.
Dywedodd Rebecca Sudworth, Cyfarwyddwr Polisi yr Asiantaeth Safonau Bwyd
“Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad cymhleth ac rwyf am ddiolch i bobl am eu hamynedd wrth i ni weithio i ddod o hyd i’r ffynhonnell a thynnu’r nwyddau halogedig oddi ar y farchnad.
“Rwy’n falch o ddweud ein bod bellach mewn sefyllfa i lacio ein cyngor blaenorol i bobl ag alergedd i bysgnau, sef y dylid osgoi bwyta bwydydd sy’n cynnwys neu a allai gynnwys mwstard, powdr mwstard, hadau mwstard neu flawd mwstard. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn rhoi hyder iddynt barhau i fwyta’r bwydydd hyn yn y cartref ac wrth fwyta allan.
“Gyda diolch i Safonau Bwyd yr Alban, busnesau perthnasol, awdurdodau lleol, cymdeithasau masnach ac asiantaethau eraill y llywodraeth am eu gwaith a’u cefnogaeth, rydym yn hyderus bod y mesurau diogelwch bwyd angenrheidiol wedi’u rhoi ar waith, a bod y cynhyrchion yr effeithir arnynt wedi’u tynnu oddi ar y farchnad, neu bellach yn cynnwys label alergenau rhagofalus.
“Rydym yn parhau i annog busnesau a defnyddwyr ag alergeddau bwyd i gofrestru ar gyfer ein rhybuddion alergedd er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynhyrchion a gaiff eu galw’n ôl yn y dyfodol. Bydd hyn yn eu galluogi i weithredu os bydd angen.”