Cyngor brys ar alergeddau yn dal yn berthnasol wrth i’r Asiantaeth Safonau Bwyd roi diweddariad ar yr ymchwiliad i gynhwysion mwstard sydd wedi’u halogi â physgnau
Rydym yn parhau i gynghori pobl sydd ag alergedd i bysgnau i osgoi bwyta unrhyw fwydydd sy’n cynnwys neu a allai gynnwys mwstard, hadau mwstard, powdr mwstard neu flawd mwstard oherwydd halogiad posib â physgnau.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), ar y cyd â Safonau Bwyd yr Alban (FSS), yn arwain ymchwiliad i’r gadwyn cyflenwi bwyd o ran cynhwysion mwstard a allai fod wedi’u halogi â physgnau.
Ar ôl cyhoeddi cyngor brys ar alergeddau ar 20 Medi, ac yn dilyn dadansoddiad helaeth o’r gadwyn fwyd, mae ymchwiliadau parhaus gan yr ASB ac FSS wedi olrhain y cynhwysion mwstard halogedig i dri chyflenwr yn India. Mae’r cynhyrchwyr hyn wedi cyflenwi cynhyrchion i dri chwmni sbeis yn y DU, sydd wedyn wedi dosbarthu’r cynhwysion i amrywiaeth o fusnesau gweithgynhyrchu, lletygarwch a manwerthu. Rydym wedi gofyn i bob un o’r tri chwmni sbeis i wirio ar frys a yw eu cynhyrchion wedi’u halogi, ac i roi gwybod ar unwaith i unrhyw fusnesau y maent wedi’u cyflenwi.
Ar 27 Medi, rydym wedi cyhoeddi 66 o hysbysiadau galw cynnyrch yn ôl gan fusnesau yn y DU, a hynny ar gyfer amrywiaeth o gynhyrchion. Mae profion wedi nodi halogiad â physgnau mewn amrywiaeth o gynhyrchion ar draws nifer o fusnesau, ac rydym yn disgwyl cyhoeddi rhagor o hysbysiadau galw yn ôl dros y dyddiau nesaf. Pan fyddwn yn canfod bod y mater hwn wedi effeithio ar gynnyrch, byddwn yn parhau i roi gwybod i ddefnyddwyr drwy rybuddion alergedd ar ein gwefan.
Gan mai cyfrifoldeb busnesau bwyd yw diogelwch bwyd, rydym wedi gofyn iddynt gynnal y gwiriadau angenrheidiol ar eu cynhyrchion yn ddi-oed ac i wirio gyda'u cyflenwyr a allai hyn effeithio ar unrhyw un o’r cynhyrchion y maent yn eu defnyddio.
Mae’r ymchwiliad hwn yn gymhleth ac mae’r ASB ac FSS yn gweithio gyda busnesau perthnasol, awdurdodau lleol, ac asiantaethau i roi’r holl fesurau angenrheidiol ar waith i ddiogelu defnyddwyr.
Am y tro, mae'n parhau i fod yn bwysig iawn bod unrhyw un sydd ag alergedd i bysgnau yn osgoi bwyta cynhyrchion sy'n cynnwys mwstard fel cynhwysyn nes ein bod yn fodlon bod y diwydiant wedi nodi’r holl gynhyrchion penodol y mae’r digwyddiad hwn wedi effeithio arnynt, a’u bod wedi’u galw yn ôl. Dylai rhieni a gofalwyr plant sydd ag alergedd i bysgnau gymryd gofal i wirio labeli’r bwyd y maen nhw’n ei brynu ac, os ydyn nhw’n bwyta allan, neu’n cael tecawê, dylen nhw ofyn i’r bwyty neu’r caffi am fwydydd a allai gynnwys mwstard.
Er ein bod yn deall y gallai’r cyngor hwn gyfyngu ar ddewisiadau bwyd llawer o bobl ar hyn o bryd, mae’n rhaid i ni flaenoriaethu diogelwch defnyddwyr.
Os ydych chi, neu aelod o'ch teulu, wedi cael adwaith alergaidd a allai fod yn gysylltiedig â’r ymchwiliad hwn, rhowch wybod i’r busnes bwyd a gyflenwodd y cynnyrch dan sylw, ac i’r awdurdod lleol lle prynwyd y cynnyrch. Mae canllawiau ar gael ar sut i roi gwybod i awdurdod lleol am broblem bwydhttps://www.food.gov.uk/cy/contact/consumers/rhoi-gwybod-am-broblem-gyda-bwyd.
Byddwn yn diweddaru defnyddwyr cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael. Rydym yn annog unigolion ag alergeddau i gofrestru ar gyfer ein rhybuddion alergedd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion alergedd yn y dyfodol.
Mae ymchwiliadau i ganfod achos sylfaenol yr halogiad ar y gweill, yn y DU ac India, ar y cyd â chymdeithasau masnach a busnesau yr effeithir arnynt.
Hanes diwygio
Published: 27 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Rhagfyr 2024