Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyhoeddi rhaglen ‘blwch tywod’ arloesol ar gyfer cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi ennill cais i redeg rhaglen a gynlluniwyd i sicrhau bod cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd (‘cell-cultivated products’) yn ddiogel i ddefnyddwyr eu bwyta cyn iddynt gael eu cymeradwyo i’w gwerthu.

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 October 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 October 2024

Mae’r ASB, mewn cydweithrediad â Safonau Bwyd yr Alban (FSS), yn falch iawn o gael £1.6 miliwn o gyllid gan Gronfa Blwch Tywod y llywodraeth ar Beiriannu Bioleg i lansio rhaglen blwch tywod arloesol ar gyfer cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd (CCPs).

Mae CCPs yn fwydydd newydd sy’n cael eu gwneud heb ddefnyddio dulliau ffermio traddodiadol fel magu da byw neu dyfu planhigion a grawn. Gan ddefnyddio gwyddoniaeth a thechnoleg, mae celloedd o blanhigion neu anifeiliaid yn cael eu tyfu mewn amgylchedd rheoledig i wneud cynnyrch bwyd.

Mae’r DU ymhlith y mwyaf o’r marchnadoedd posib ar gyfer CCPs yn Ewrop ond, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gynhyrchion o’r fath wedi’u cymeradwyo yma i’w bwyta gan bobl. Mae hyn oherwydd bod CCPs yn newydd, yn gymhleth ac yn wahanol i unrhyw beth a oedd ar gael yn flaenorol yn y DU. Mae angen i ni ddysgu mwy am y cynhyrchion hyn a sut y cânt eu gwneud, er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel i ddefnyddwyr eu bwyta.

Bydd y rhaglen blwch tywod yn ein galluogi i recriwtio tîm newydd i weithio ar draws yr ASB ac FSS. Byddant yn casglu tystiolaeth wyddonol drylwyr ar CCPs a’r dechnoleg a ddefnyddir i’w gwneud. Bydd yr wybodaeth hon yn ein galluogi i wneud argymhellion gwybodus a mwy amserol mewn perthynas â diogelwch cynhyrchion, a hynny ar sail gwyddoniaeth a thystiolaeth. Bydd yr wybodaeth hon hefyd yn ein helpu ni i fynd i’r afael â chwestiynau y mae’n rhaid eu hateb cyn y gall unrhyw CCPs fynd ar y farchnad. Yn ogystal, bydd yn ein galluogi i arwain cwmnïau yn well ar sut i wneud cynhyrchion mewn ffordd ddiogel a sut i ddangos hyn i ni.

Un o’n cyfrifoldebau mwyaf hanfodol yw sicrhau y gall defnyddwyr ymddiried yn niogelwch bwydydd newydd. Bydd y rhaglen blwch tywod ar CCPs yn hwyluso gwaith arloesi diogel ac yn ein galluogi i fod ar y blaen gyda thechnolegau newydd a ddefnyddir gan y diwydiant bwyd i ddarparu dewis ehangach o fwydydd diogel i ddefnyddwyr yn y pen draw.
Yr Athro Robin May, Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB

Fel rhan o’r blwch tywod, byddwn hefyd yn gallu cynnig cymorth i gwmnïau sy’n gweithio ym maes CCPs cyn iddynt gyflwyno ceisiadau, a byddwn yn gallu mynd i’r afael â chwestiynau allweddol, er enghraifft ynghylch labelu.

Erbyn diwedd y rhaglen ddwy flynedd, byddwn ni wedi cronni llawer o dystiolaeth ac arbenigedd, gan olygu y byddwn ni’n gallu prosesu ceisiadau CCP yn gynt a chefnogi busnesau yn well wrth iddynt wneud ceisiadau. Bydd y blwch tywod hefyd yn ein helpu i ddatblygu dulliau asesu y gellir eu cymhwyso at fwydydd arloesol eraill, gan helpu i gefnogi arloesedd ar draws y sector bwyd byd-eang.