Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyhoeddi papurau cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer mis Mehefin 2021

Mae'r agenda a'r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd a’r Pwyllgor Busnes fis Mehefin wedi'u cyhoeddi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 June 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 June 2021

Digwyddiad ar-lein yn unig fydd y cyfarfod hwn ddydd Mercher 16 Mehefin 2021. Bydd yn dechrau am 9.00am ac yn cael ei gadeirio gan Gadeirydd Dros Dro yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), Ruth Hussey. Gallwch chi gofrestru i wylio ar-lein

Mae'r agenda'n cynnwys diweddariadau ar: 

  • Adroddiad Blynyddol y Prif Gynghorydd Gwyddonol
  • Blaenoriaethau Strategol ar gyfer Polisi a Rheoleiddio’r ASB 
  • Adroddiad blynyddol ar Sganio’r Gorwel
  • Adroddiad Blynyddol ar Asesu Risg
  • Diweddariad ar Orsensitifrwydd i Fwyd
  • Adroddiad Terfynol Gweithgor 5 y Cyngor Gwyddoniaeth ar Orsensitifrwydd i Fwyd
  • Adroddiad Blynyddol ar Safonau Bwyd

Mae'r agenda lawn a'r papurau sydd wedi'u cyhoeddi ar gael ar dudalennau'r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg y unig).

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd 

Bydd cyfarfod y Bwrdd a’r Pwyllgor Busnes yn cael ei gynnal ar-lein yn unig. Gallwch chi gofrestru gofrestru i wylio'r cyfarfod yn fyw ar-lein.  

Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:   

Ffôn: 01772 767731 

E-bost: fsaboardmeetings@glasgows.co.uk 

Cyflwyno cwestiwn 

Gallwch gyflwyno cwestiynau o ddydd Llun 14 Mehefin tan 12:00 ddydd Mawrth 15 Mehefin, drwy eu hanfon at board.sec@food.gov.uk

Bydd unrhyw gwestiynau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau, gan gynnwys ar ddiwrnod y cyfarfod, yn cael eu hateb trwy ohebiaeth yn unig. 

Mae rhagor o wybodaeth am gyflwyno cwestiynau ar gael ar dudalen we ein Bwrdd.