Cyhoeddi papurau cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer mis Medi 2021
Mae'r agenda a'r papurau ar gyfer cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ym mis Medi 2021 wedi'u cyhoeddi.
Bydd cadeirydd newydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yr Athro Susan Jebb, yn cadeirio'r cyfarfod am y tro cyntaf. Bydd yn dechrau am 9.00am ddydd Mercher 15 Medi 2021, ac mae'n ddigwyddiad ar-lein oherwydd pandemig COVID 19. Gallwch chi gofrestru i wylio ar-lein.
Mae'r agenda'n cynnwys:
- Adroddiad Blynyddol ar Safonau Bwyd yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban
- Addasu Genomau
- Diweddariad ar Les Anifeiliaid
- Y Rhaglen Trawsnewid Gweithredol – Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Fodel Cyflenwi yn y Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol ar Ddigwyddiadau a Gwytnwch
Mae'r agenda lawn a'r papurau sydd wedi'u cyhoeddi ar gael ar dudalennau'r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).
Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd
Bydd cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi 2021 yn cael ei gynnal ar-lein, gyda dim ond aelodau’r bwrdd yn y cyfarfod ei hun, ond gobeithiwn y gallwn groesawu cynulleidfaoedd unwaith eto yn y dyfodol agos. Gallwch chi gofrestru i wylio'r cyfarfod yn fyw ar-lein.
Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
- Ffôn: 01772 767731
- E-bost: fsaboardmeetings@glasgows.co.uk
Cyflwyno cwestiwn
Gallwch chi gyflwyno cwestiynau i'r Bwrdd o 13 Medi i ganol dydd 14 Medi, trwy anfon e-bost at board.sec@food.gov.uk.
Bydd unrhyw gwestiynau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau, gan gynnwys ar 15 Medi, yn cael eu hateb trwy ohebiaeth yn unig.
Mae rhagor o wybodaeth am gyflwyno cwestiynau ar gael ar dudalen we ein Bwrdd.
COVID-19 a newidiadau i Gyfarfodydd Bwrdd yr ASB 2021
Oherwydd y pandemig COVID-19, rydym ni’n parhau i ffrydio'r cyfarfod ar-lein, gyda dim ond aelodau'r pwyllgor yn cael eu gwahodd i fod yno’n bersonol ar hyn o bryd, ond gobeithiwn groesawu cynulleidfaoedd yn ôl i'n cyfarfodydd bwrdd yn y dyfodol.
Mae manylion amserlen newydd y cyfarfodydd ar gael ar dudalen we ein Bwrdd.
Hanes diwygio
Published: 2 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Medi 2021