Cyhoeddi papurau cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer mis Mawrth 2025
Mae’r agenda a’r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth 2025 wedi’u cyhoeddi.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yng ngwesty’r Doubletree by Hilton, yn Hull, a’i gadeirio gan Gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb.
Bydd y cyfarfod yn dechrau am 9am ddydd Mercher, 26 Mawrth, ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod i’r cyfarfod agored hwn. Ewch ati i gofrestru os hoffech ddod i’r cyfarfod neu os hoffech ymuno ar-lein.
Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys:
- Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau – Blwyddyn yn ddiweddarach
- Monitro clefydau a gludir gan fwyd
- Adennill costau awdurdodau lleol: canfyddiadau cychwynnol a chynnig ar gyfer y ffordd ymlaen
- Adroddiad gan Gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan.
Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd
Mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod i’r cyfarfod hwn. Ewch ati i gofrestru os hoffech ddod i’r cyfarfod.
Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
- Ffôn: 01772 767731
- E-bost: fsaboardmeetings@onetwo.agency
Yn ogystal, gallwch gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.
Cyflwyno cwestiwn i Fwrdd yr ASB
Mae Bwrdd yr ASB yn croesawu cwestiynau ar bapurau a gyhoeddwyd i’w trafod yn ei gyfarfodydd.
Gallwch gyflwyno’ch cwestiynau hyd at 5pm ar y dydd Llun cyn cyfarfod y Bwrdd gan ddefnyddio’r ffurflen hon. Sylwch na allwch nodi fwy na 350 o eiriau ar y ffurflen. Mae hyn er mwyn sicrhau bod eich cwestiwn yn gryno, a’n bod ni’n gallu mynd i’r afael ag ef yn llawn.
Bydd cwestiynau a ddaw i law yn y fformat hwn yn cael eu cyhoeddi y diwrnod cyn cyfarfod y Bwrdd.
Byddwn yn anelu at anfon ateb atoch trwy e-bost o fewn 20 diwrnod gwaith i gyfarfod y Bwrdd, a bydd ymatebion hefyd yn cael eu cyhoeddi.
Ar gyfer cwestiynau nad ydynt yn ymwneud ag un o’r papurau sydd ar yr agenda, neu ar gyfer gohebiaeth sy’n hirach nag y mae’r ffurflen ar-lein yn ei ganiatáu, anfonwch e-bost i correspondence@food.gov.uk a byddwn yn anelu at ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith. Sylwch na fydd y cyflwyniadau hyn a’u hatebion yn cael eu cyhoeddi fel arfer.