Cyhoeddi papurau cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer mis Mawrth 2022
Mae'r agenda a'r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth 2022 wedi’u cyhoeddi.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Birmingham, a’i gadeirio gan gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb. Bydd y cyfarfod yn dechrau am 9.00am ddydd Mercher 9 Mawrth. Mae’n gyfarfod agored ac mae croeso i’r cyhoedd fod yn bresenol. Gallwch chi hefyd gofrestru i wylio ar-lein.
Mae'r agenda'n cynnwys:
- Lansio Strategaeth yr ASB
- Mewnforion o Fukushima
- Adroddiad Blynyddol gan Gadeirydd y Cyngor Gwyddoniaeth
- Adolygiad Blynyddol o'r Broses Dadansoddi Risg
Bydd diweddariad ar y Rhaglen Trawsnewid Gweithredol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Busnes yn y prynhawn.
Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau'r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).
Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd
Bydd cyfarfod Bwrdd mis Mawrth 2022 yn gyfarfod agored ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau’r bwrdd a’r cyhoedd sy’n gallu bod yn bresennol, yn unol â chanllawiau Covid. Gallwch chi gofrestru i wylio'r cyfarfod yn fyw ar-lein.
Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
- Ffôn: 01772 767731
- E-bost: fsaboardmeetings@glasgows.co.uk
Cyflwyno cwestiwn
Gallwch chi gyflwyno cwestiynau i Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd hyd at hanner dydd, 8 Mawrth drwy anfon e-bost i board.sec@food.gov.uk.
Bydd unrhyw gwestiynau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau, gan gynnwys ar 9 Mawrth, yn cael eu hateb trwy ohebiaeth yn unig.
Mae rhagor o wybodaeth am gyflwyno cwestiynau ar gael ar dudalen we ein Bwrdd.
COVID-19 a Chyfarfodydd Bwrdd yr ASB 2022
Rydym ni’n croesawu aelodau’r cyhoedd i fod yn bresennol unwaith eto yng nghyfarfod y Bwrdd a’r Pwyllgor Busnes agored am y tro cyntaf ers i reolau Covid olygu bod yn rhaid ymuno â’r cyfarfodydd hyn yn rhithiol. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ffrydio’r cyfarfod yn fyw i’r rhai na allant fod yn bresennol.
Mae manylion amserlen y cyfarfodydd ar gael ar dudalen we ein Bwrdd.
Hanes diwygio
Published: 24 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Chwefror 2022