Cyhoeddi adroddiad cylchoedd 9 i 12 o’r Arolwg Tracio Defnyddwyr ar COVID-19
Heddiw, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi canfyddiadau diweddaraf yr Arolwg Tracio Defnyddwyr ar COVID-19.
Mae canfyddiadau diweddaraf yr Arolwg Tracio Defnyddwyr ar COVID-19 wedi eu cyhoeddi. Mae'r arolwg tracio misol yn monitro agweddau, profiadau ac ymddygiadau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon yn ystod y pandemig COVID-19. Mae'r ymchwil yn cynnwys Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon o fis Ebrill 2020 ymlaen.
Prif ganfyddiadau’r Arolwg Tracio Defnyddwyr ar COVID-19
Ansicrwydd bwyd
Roedd y pryderon am argaeledd bwyd, fforddiadwyedd bwyd a methu prydau bwyd am resymau ariannol yn uchel ym mis Ebrill 2020 ond gostyngodd hyn yn sylweddol ym mis Awst 2020. Ers hynny maent wedi codi eto i'w lefel bresennol ym mis Mawrth 2021.
Gostyngodd cyfran yr ymatebwyr a nododd eu bod yn defnyddio banciau bwyd/elusennau hefyd ym mis Awst 2020. Fel arall, mae'r gyfran hon wedi aros yn gymharol sefydlog ar draws pob cylch.
Roedd cyfranogwyr o aelwydydd mwy (4+), y rhai mewn grwpiau oedran iau (16-24 oed), ac aelwydydd â phlentyn yn bresennol yn fwy tebygol o fod â ‘chyflenwad bwyd ansicr’, ar draws yr holl fesurau hyn o ansicrwydd bwyd.
Tueddiadau sefydlog o ran prynu bwyd, maeth ac ymddygiadau diogelwch bwyd
Mae tueddiadau mewn prynu bwyd, bwyta ac ymddygiadau diogelwch/hylendid bwyd yn y cartref wedi aros yn sefydlog dros amser. Maent yn gyson ers i'r arolwg tracio ddechrau ym mis Ebrill 2020.
Pryderon bwyd defnyddwyr
Rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Mawrth 2021, roedd yr arolwg tracio Covid-19 yn holi ymatebwyr am eu pryderon bwyd.
Dywedodd 28% o ymatebwyr eu bod yn poeni am ansawdd y bwyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig (DU) ym mis Mawrth 2021, a nododd 50% eu bod yn ‘bryderus’ am ansawdd y bwyd a fewnforir o'r tu allan i'r DU. Roedd y rhain yn gyson ar draws yr holl gylchoedd a gasglwyd.
Ym mis Mawrth 2021, nododd 22% o'r cyfranogwyr fod ganddynt bryder am y bwyd y maent yn ei fwyta ar hyn o bryd. Y 3 phryder mwyaf a ddewiswyd gan gyfranogwyr oedd:
- pa mor ‘iach’ yw’r bwyd yn fy neiet (53%)
- lles anifeiliaid (52%)
- triniaeth foesegol cynhyrchwyr a ffermwyr (50%)
- pa mor ffres yw bwyd (50%)
- hormonau, steroidau neu wrthfiotigau mewn bwyd (50%)
Meddai Emily Miles, Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd:
‘Ar draws blwyddyn gyfan o gasglu'r data hyn rydym ni wedi gweld bod pobl ifanc ac aelwydydd â phlant ymhlith y rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan ansicrwydd bwyd, sydd yn anffodus wedi cynyddu'n raddol ers y lefelau is a welsom yr haf diwethaf.
‘Mae'r dystiolaeth hon yn cael ei defnyddio i lywio gwaith yr ASB a'r llywodraeth ehangach wrth fynd i'r afael â'r materion hyn, er enghraifft yn y Strategaeth Fwyd Genedlaethol. Byddwn ni’n parhau i chwarae ein rhan wrth ddiogelu iechyd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.’
Darllewnch yr adroddiad llawn yn yr Arolwg tracio Defnyddwyr diweddaraf ar COVID-19 (Saesneg yn unig).