Cyhoeddi adroddiad ar brosesau cynhyrchu cig rhyngwladol
Heddiw, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi adroddiad gwyddonol, sy'n asesu prosesau cynhyrchu cig rhyngwladol.
Edrychodd yr astudiaeth hon ar wybodaeth a data o wahanol wledydd ledled y byd ar brosesau cynhyrchu ar gyfer cig a dofednod, a pha mor gyffredin yw sawl micro-organeb.
Fe’i cynhaliwyd i’n helpu i ddeall cyd-destun rhyngwladol mewnforion yn well, a’r prosesau rheoli diogelwch bwyd sydd gan bob gwlad ar waith i ddiogelu cynhyrchion sy'n dod i'r Deyrnas Unedig (DU).
Creodd ymchwilwyr broffiliau o 16 gwlad, gan gynnwys y DU, yn cynnwys data am ba mor gyffredin yw Salmonela, Campylobacter, E-coli, Trichinella ac Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (AMR) mewn cig, yn ogystal â disgrifiadau o brosesau cynhyrchu.
Fodd bynnag, nododd yr adroddiad anawsterau wrth geisio cymharu’n uniongyrchol rhwng gwledydd, oherwydd amrywioldeb sylweddol mewn technegau casglu data fel samplu a phrofi, a’r dulliau gwahanol o weithredu cynlluniau rheoli ledled y byd.
Meddai Pennaeth Gwyddoniaeth, Tystiolaeth ac Ymchwil yr ASB, Rick Mumford:
“Mae dull gwyddonol cryf sy'n seiliedig ar dystiolaeth bob amser wedi bod yn ganolog i'n cenhadaeth i sicrhau bod bwyd yn ddiogel a’i fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Mae pob penderfyniad a wnawn wedi'i seilio ar ffeithiau a thystiolaeth wyddonol, ac mae hyn yn berthnasol i gynhyrchion wedi’u mewnforio.
“Er ei bod yn anodd iawn cyflawni cymariaethau byd-eang uniongyrchol, mae’n hanfodol bwysig bod yr ASB yn parhau i archwilio gwahanol brosesau a ffynonellau gwybodaeth fel y gallwn ni wella ein data ein hunain – gan helpu i ddarparu’r sylfaen wyddonol orau un ar gyfer ein cyngor annibynnol i’r Llywodraeth a phartneriaid eraill.
“Mae’n bwysig nodi, os yw cig wedi’i fwriadu i’w allforio i’r DU, rhaid iddo fodloni gofynion mewnforio’r DU, a ni fydd hyn yn newid.”
Mae'r adroddiad llawn ar gael ar ein tudalennau ymchwil (Saesneg yn unig).
Hanes diwygio
Published: 18 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Mai 2021