Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd – Rhagfyr 2022
Mae cyfarfod mis Rhagfyr 2022 Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cael ei gynnal heddiw am 9.00am
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Llundain, a’i gadeirio gan gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb. Mae dal amser i chi gofrestru i wylio ar-lein.
Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys y canlynol:
- Rhaglen Trawsnewid Gweithredol a Chwmpas y Dyfodol
- Diweddariad ar Wyddoniaeth yr ASB 2022
- Adroddiad Blynyddol yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd
Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan.
Yn dilyn cyfarfod Bwrdd yr ASB, cynhelir cyfarfod Pwyllgor Busnes yr ASB, a fydd yn dechrau am 1.10pm.
Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd
Bydd cyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr 2022 yn gyfarfod agored ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau’r bwrdd ac aelodau’r cyhoedd sy’n gallu bod yno’n bersonol, yn unol â chanllawiau Covid-19. Gallwch gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.
Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
- Ffôn: 01772 767731
- E-bost: fsaboardmeetings@glasgows.co.uk
COVID-19 a Chyfarfodydd Bwrdd yr ASB 2022
Rydym yn croesawu aelodau’r cyhoedd i fod yn bresennol unwaith eto yng nghyfarfod agored y Bwrdd a’r Pwyllgor Busnes am y pedwerydd tro ers i reolau COVID-19 olygu bod rhaid ymuno â’r cyfarfodydd hyn yn rhithiol. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ffrydio’r cyfarfod yn fyw i’r rhai na allant fod yn bresennol.
Mae manylion amserlen y cyfarfodydd ar gael ar dudalen we ein Bwrdd.