Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd – mis Rhagfyr 2024

Mae cyfarfod mis Rhagfyr 2024 Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cael ei gynnal heddiw am 9.00am

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 December 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 December 2024

Cynhelir y cyfarfod yn Llundain dan arweiniad cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb.  Mae dal i fod amser i gofrestru i’w wylio ar-lein.

Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys:
  
•    Rheoleiddio ar Lefel Genedlaethol 
•    Gwerthusiad o’r Gyfundrefn Codi Tâl am Gig 
•    Ceisiadau am Fwydydd Newydd sy’n cynnwys CBD 
 

Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd

Bydd cyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr 2024 yn gyfarfod agored, ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau o’r cyhoedd sydd wedi cofrestru i fod yno’n bersonol. 

Os nad ydych wedi cofrestru eto, mae dal i fod amser i gofrestru i wylio'r cyfarfod yn fyw ar-lein

Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:

Cwestiynau i'r Bwrdd

I weld y cwestiynau sydd wedi dod i law’r ASB cyn y cyfarfod, ewch i dudalen y Bwrdd ar ein gwefan.