Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd – Medi 2024

Mae cyfarfod mis Medi 2024 Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cael ei gynnal heddiw am 9am

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 September 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 September 2024

Cynhelir y cyfarfod yn Peterborough, dan arweiniad cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb. Mae dal i fod amser i gofrestru i’w wylio ar-lein.

Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys:

  • Diweddariad ar berfformiad awdurdodau lleol
  • Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau
  • Labelu alergenau rhagofalus a throthwyon alergenau
  • Diweddariad blynyddol ar Wyddoniaeth yr ASB
  • Adroddiad blynyddol ar les anifeiliaid – 2023/24
  • Diweddariad gan Gyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru

Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd

Bydd cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi 2024 yn gyfarfod agored, ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau o’r cyhoedd sy’n gallu bod yno’n bersonol. Yn ogystal, gallwch gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.

Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:

Cwestiynau i’r Bwrdd

I weld y cwestiynau sydd wedi dod i law’r ASB cyn y cyfarfod, ewch i dudalen y Bwrdd ar ein gwefan.