Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd – Medi 2023
Mae cyfarfod mis Medi 2023 Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cael ei gynnal heddiw am 9.00am.
Cynhelir y cyfarfod yn Southampton, gyda chadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb, yn cadeirio. Mae dal amser i gofrestru i’w wylio ar-lein.
Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys:
- Technoleg Enetig (Bridio Manwl)
- Diweddariad Blynyddol ar Les Anifeiliaid – 2022/23
- Adroddiad Blynyddol ar Ddigwyddiadau a Gwydnwch – 2022/23
- Diweddariad ar y Broses Dadansoddi Risg a’r Gwasanaeth Cynhyrchion Rheoleiddiedig
Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar ar dudalennau'r Bwrdd ar ein gwefan.
Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd
Mae cyfarfod Bwrdd mis Medi 2023 yn gyfarfod agored, a gallwch gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.
Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
- Ffôn: 01772 767731
- E-bost: fsaboardmeetings@glasgows.co.uk
Cwestiynau i’r Bwrdd
I weld y cwestiynau sydd wedi dod i law’r ASB cyn y cyfarfod, ewch i dudalen y Bwrdd ar ein gwefan.