Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd – Mawrth 2025

Bydd cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ym mis Mawrth 2025 yn cael ei gynnal heddiw am 9am.

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mawrth 2025

Cynhelir y cyfarfod yn Hull, dan arweiniad cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb.  Mae dal i fod amser i gofrestru i’w wylio ar-lein.

Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys:

  • Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau – Blwyddyn yn ddiweddarach
  • Monitro clefydau a gludir gan fwyd
  • Adennill costau awdurdodau lleol: canfyddiadau cychwynnol a chynnig ar gyfer y ffordd ymlaen
  • Adroddiad gan Gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd

Bydd cyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth 2025 yn gyfarfod agored, ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau o’r cyhoedd sydd wedi cofrestru i fod yno’n bersonol.

Os nad ydych wedi cofrestru eto, mae dal i fod amser i gofrestru i wylior cyfarfod yn fyw ar-lein.

Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:

Cwestiynau i’r Bwrdd

I weld y cwestiynau sydd wedi dod i law’r ASB cyn y cyfarfod, ewch i dudalen y Bwrdd ar ein gwefan.