Cyfarfod Agored Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – 12 Gorffennaf 2023
Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynnal ei gyfarfod agored nesaf yng Nghaerdydd ddydd Mercher 12 Gorffennaf 2023. Bydd yn gyfarfod â thema, yn canolbwyntio ar rôl bwysig awdurdodau lleol wrth reoleiddio busnesau bwyd, gan gynnwys heriau presennol a heriau’r dyfodol.
Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniadau gan Ceri Edwards, Cadeirydd Iechyd yr Amgylchedd Cymru a Judith Parry, Cadeirydd Safonau Masnach Cymru.
Mae’r agenda’n cynnwys:
- Gwaith gweithredu Iechyd yr Amgylchedd
- Gwaith gweithredu Safonau Masnach
- Sut mae’r ASB yng Nghymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol
Mae’r agenda lawn i’w gweld ar dudalen Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar ein gwefan.
Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y pynciau hyn, neu yng ngwaith yr ASB yn gyffredinol, ddod i’r cyfarfod i fynegi barn ac i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb agored.
Gallwch fod yn bresennol wyneb yn wyneb neu ar-lein. Mae modd cyflwyno cwestiynau i’r Pwyllgor ymlaen llaw trwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod.
Manylion am y lleoliad
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Swyddfa’r ASB yng Nghymru, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
Bydd modd cofrestru a chael paned o 09:15 cyn i’r cyfarfod ddechrau’n brydlon am 09:30.
Cadw eich lle a chyflwyno cwestiynau
Anfonwch e-bost i walesadminteam@food.gov.uk er mwyn cadw lle i gymryd rhan yn y cyfarfod naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein, cyflwyno cwestiwn neu gael mwy o wybodaeth.