Crynodeb o'r trafodaethau yng nghyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar 15 Mehefin 2022
Cyfarfu’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yr wythnos hon yn Newcastle a thrafodwyd yr heriau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu yn sgil effeithiau’r cynnydd ym mhrisiau bwyd a’r effaith ar gyflenwad bwyd a achosir gan y rhyfel yn Wcráin.
Diffyg Diogeledd Bwyd yn y Cartref
Trafododd y Bwrdd ymchwil yr ASB sy’n dangos bod cost bwyd yn bryder mawr at y dyfodol i dri o bob pedwar person yn y Deyrnas Unedig (DU).
Trafodwyd pa mor bwysig oedd hi i bobl sydd mewn angen gael mynediad at fwyd diogel. Cytunodd y Bwrdd y dylai’r ASB sicrhau nad oes unrhyw rwystrau diangen rhag ailddosbarthu bwyd drwy fanciau bwyd a sefydliadau rhannu bwyd cymunedol eraill. Fel rhan o hyn, soniwyd am yr angen i fusnesau bennu dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ call; ac am y gwaith y gallai’r ASB ei wneud i helpu defnyddwyr i ddeall bod dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ yn ymwneud â diogelwch, tra bod dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ yn ymwneud ag ansawdd.
Ymateb i darfu ar y gadwyn gyflenwi oherwydd y rhyfel yn Wcráin
Mae’r rhyfel yn Wcráin yn effeithio ar gyflenwad olew blodau’r haul i’r DU, ac ers mis Mawrth bu nifer o drefniadau labelu dros dro sydd wedi caniatáu amnewid olew blodau’r haul ag olewau llysiau eraill. Cytunodd y Bwrdd ar y dull hwn dros dro ond roedd yn awyddus i’r diwydiant ddatrys y sefyllfa erbyn diwedd mis Hydref, gan sicrhau bod y labelu’n gywir erbyn hynny.
Manteisiodd Cadeirydd yr ASB, yr Athro Susan Jebb, ar y cyfle i siarad yn uniongyrchol â’r diwydiant bwyd. Meddai:
“Diolch i chi am bopeth rydych wedi’i wneud i reoli effaith yr argyfwng ar y system fwyd, ond rhaid i mi bwysleisio pwysigrwydd labelu bwyd cywir a’r angen i geisio unioni'r sefyllfa lle y gall labeli fod yn anghywir cyn gynted â phosib.”
Diwygio’r Gwasanaeth Sifil
Bu’r Bwrdd hefyd yn trafod rhaglen Diwygio'r Gwasanaeth Sifil sy’n anelu at leihau nifer y Gweision Sifil i’r lefelau a welwyd yn 2016 mewn tair blynedd. Nid oes unrhyw dargedau o ran lleihau niferoedd staff wedi’u pennu eto ar gyfer yr ASB ond gofynnwyd i’r ASB fodelu senarios gyda llawer llai o staff. Wrth grynhoi’r drafodaeth, dywedodd yr Athro Jebb:
“Mae ein hymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd (UE) wedi dod â llawer iawn o waith ychwanegol i’r ASB na fydd yn diflannu. Ac os ydym am achub ar y cyfleoedd sy’n deillio o ymadael â’r UE, mae angen adnoddau arnom i wneud mwy, nid llai.
“Rwy’n siarad ar ran aelodau’r bwrdd wrth ddweud ein bod yn poeni’n fawr am yr effaith y byddai lleihau ein niferoedd yn ei chael ar ein gallu i ddarparu bwyd diogel i bobl y DU.”
Mae agenda a phapurau cyfarfod Bwrdd yr ASB ym mis Mehefin 2022 ar gael i'w darllen (Saesneg yn unig), a gallwch wylio Cyfarfod y Bwrdd a'r Pwyllgor Busnes - Mehefin 2022 ar YouTube.
Cynhelir cyfarfod nesaf y bwrdd ar 14 Medi 2022.
Hanes diwygio
Published: 17 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Mehefin 2022