Cadeirydd yr ASB yn croesawu cynllun peilot y bwriedir iddo wella safonau bwyd mewn ysgolion
Yn dilyn cyhoeddi Papur Gwyn Codi’r Gwastad gan y Llywodraeth ddoe, mae Susan Jebb, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yn croesawu cynllun peilot y bwriedir iddo wella safonau bwyd mewn ysgolion.
Mae Papur Gwyn Codi’r Gwastad yn nodi cenhadaeth y Llywodraeth, sef trawsnewid y Deyrnas Unedig yn gymdeithas fwy cyfartal. Ynddo ceir manylion penodol am brosiect ar y cyd rhwng yr ASB a’r Adran Addysg i ddylunio cynllun peilot y bwriedir iddo sicrhau cydymffurfiaeth â safonau bwyd mewn ysgolion, a fydd yn cael ei gynnal mewn nifer o awdurdodau lleol yn Lloegr.
Fe wnaeth Cadeirydd yr ASB, Susan Jebb, groesawu’r papur. Meddai:
“Mae cyhoeddi’r Papur Gwyn hwn yn gam pwysig tuag at ddod â llywodraeth ganolog a llywodraeth leol yn nes at ei gilydd i greu system a fydd yn sicrhau canlyniadau iechyd gwell. Rwy’n falch y gofynnwyd i’r ASB chwarae rhan yn yr agenda bwysig hon.
Mae'r bwyd y mae plant yn ei fwyta mewn ysgolion yn gwneud cyfraniad pwysig tuag at eu hiechyd a'u lles. Mae'r llywodraeth eisoes wedi gosod safonau, ond mae'n bwysig ein bod ni’n deall pa mor llwyddiannus y mae'r safonau'n cael eu gweithredu'n ymarferol ac yn cefnogi ysgolion i wella lle bo angen.
Edrychwn ymlaen at gydweithio â’n partneriaid yn y llywodraeth i ddatblygu system sicrwydd gadarn. Byddwn hefyd yn gweithio gyda'n partneriaid mewn awdurdodau lleol i ystyried sut y gallai eu trefniadau arolygu a monitro helpu i sicrhau'r safonau a osodwyd ar gyfer bwyd mewn ysgolion.
Mae’r ASB yn rheoleiddiwr annibynnol y gellir ymddiried ynddo i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Trwy’r gwaith hwn rydym yn gobeithio helpu i godi safonau bwyd mewn ysgolion a chynyddu hyder yn system fwyd mewn ysgolion i ddarparu bwyd diogel ac iachus i’n plant.”
Rhagor o wybodaeth am y cynllun peilot:
Bydd y cynllun peilot yn cael ei lansio mewn sawl awdurdod lleol ym mis Mawrth. Bydd yr awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan yn cynnwys Cyngor Blackpool, Cyngor Sir Swydd Lincoln, Cyngor Dinas Plymouth, a Chyngor Dinas Nottingham, gyda rhagor yn ymuno yn y man.
Yn dilyn cam darganfod cychwynnol i nodi dulliau posib, bydd y cynllun peilot yn nodi sut y gellir amlygu pryderon lle bo achosion o ddiffyg cydymffurfio â’r safonau bwyd mewn ysgolion, gan ystyried beth ddylai ddigwydd nesaf.
Bydd yn dechrau ym mis Medi ac yn para am oddeutu chwe mis, a disgwylir canlyniadau'r flwyddyn nesaf.
Bydd rhagor o fanylion yn cael eu darparu wrth i waith cyflwyno'r cynlluniau peilot ddatblygu.