Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cefnogi adroddiad blynyddol newydd ar ‘gyflwr plât y genedl’
Ddydd Mercher 15 Medi 2021, bu’r aelodau'r bwrdd trafod ystod o bynciau, a oedd yn amrywio o addasu genomau i foderneiddio’r ffordd y mae’r ASB yn cynnal arolygiadau mewn lladd-dai.
Bydd adroddiad blynyddol ar safonau bwyd yn cael ei lansio yn 2022.
Bydd yr adroddiad, sydd i’w ysgrifennu ar y cyd â Safonau Bwyd yr Alban, yn cynnig cyfle i’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban nodi ‘cyflwr plât y genedl’ gan ddefnyddio ystod eang o dystiolaeth i archwilio p’un a yw safonau bwyd yn y DU yn cael eu cynnal, yn dirywio, neu yn gwella. Bydd yn cwmpasu materion sydd o ddiddordeb penodol, neu sy’n datblygu i fod o ddiddordeb, i ddefnyddwyr.
Mynegodd cadeirydd yr ASB, yr Athro Susan Jebb, ei gobaith y bydd yn “adroddiad hanfodol i unrhyw un sydd am ddarganfod beth yw safonau bwyd y DU”.
Eitem fawr arall ar yr agenda oedd diweddariad ynghylch rhaglen yr ASB i foderneiddio’r ffordd y mae ei harolygwyr yn cynnal ‘rheolaethau swyddogol’ mewn ffatrïoedd cig a sefydliadau cynhyrchu cynradd eraill, wedi ymgynghoriad cyhoeddus diweddar.
Pwysleisiodd aelodau’r bwrdd rheidrwydd bod yn sensitif i sut y byddai’r newidiadau yn effeithio ar ladd-dai llai, yn ogystal â rhai mwy, a’r angen i weithio’n agos â staff rheng flaen, fel arolygwr hylendid cig, wrth gynllunio newidiadau. Fe wnaethant hefyd groesawu’r ymgysylltu rhagweithiol gyda grwpiau defnyddwyr i egluro a thrafod y newidiadau arfaethedig a cheisio eu barn.
Nododd y Cadeirydd fod tystiolaeth prosiectau peilot yn rhan bwysig o’r broses ddatblygu, ac ei bod yn gobeithio y caiff canfyddiadau’r gwaith eu rhannu. Ailadroddodd y Cadeirydd fod y newidiadau, sy’n cynnwys defnydd mwy ar dechnoleg, wedi eu cynllunio yn bennaf i wella ein gallu i gadw bwyd yn ddiogel.
Derbyniodd y Bwrdd ddiweddariad hefyd ar addasu genomau (GE), cyn ymateb y llywodraeth i ymgynghoriad Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) ar reoleiddio technolegau genetig. Cytunodd yr aelodau fod angen newid yn y maes rheoleiddio hwn ac y dylai bwydydd sy’n destun addasu genomau gael eu cymeradwyo gan y rheoleiddiwr diogelwch bwyd. Pwysleisiodd aelodau’r bwrdd pa mor bwysig yw hi bod yr ASB, Defra, ac eraill yn esbonio’r wyddoniaeth a deall barn y cyhoedd er mwyn sicrhau bod ymddiriedaeth mewn bwyd yn parhau’n uchel.
Meddai’r Cadeirydd, Susan Jebb:
“Ein cyfrifoldeb ni yn yr ASB yw darparu sylfaen dystiolaeth ragorol i hysbysu pobl am dechnolegau GE, a chynrychioli eu diddordebau.”
Hefyd ar yr agenda, rhoddodd Prif Weithredwr yr ASB, Emily Miles, ddiweddariad yn dilyn cyhoeddiad y llywodraeth ar reolaethau mewnforio, a gyhoeddwyd ddiwrnod ynghynt. Clywodd yr aelodau er y gwnaeth oedi o ran cyflwyno rhag-hysbysu ar gyfer mewnforion o’r Undeb Ewropeaidd (UE) adael bwlch ym mhecyn adnoddau gwyliadwriaeth yr ASB, fe wnaeth mesurau lliniaru ar gyfer dadansoddi data a gwyliadwriaeth strategol helpu i ryw raddau, ac mae’r risg gyffredinol i ddefnyddwyr mewn perthynas â bwyd a bwyd anifeiliaid o’r UE yn parhau i fod yn isel.
Croesawodd y Bwrdd hefyd gyhoeddi'r Strategaeth Fwyd Genedlaethol a'i hargymhellion ar gyfer yr ASB, ond rhybuddiodd y byddai angen pwerau ac adnoddau deddfwriaethol nad oedd gan yr ASB ar hyn o bryd i weithredu rhai o'r argymhellion hynny. Daeth y Cadeirydd i’r casgliad bod y Papur Gwyn ar Fwyd sydd ar ddod gan Defra yn gyfle gwirioneddol ac roedd yr ASB eisiau bod yn rhan o’r sgwrs honno fel yr adran lywodraethol sydd “bob amser yn rhoi bwyd yn gyntaf”.
Mae recordiad o'r cyfarfod, ynghyd â'r agenda lawn a'r papurau, ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan.
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Bydd cyfarfod nesaf Bwrdd yr ASB yn cael ei gynnal ar 8 Rhagfyr 2021.