Nodyn i’ch atgoffa: Rydym yn newid y dull o gael mynediad at ddata’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Dyma nodyn i’ch atgoffa y bydd angen i chi newid i enw parth newydd erbyn 3 Mawrth 2023 os ydych yn defnyddio rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau (API) y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) fersiwn 1 (f1).
A yw’r newid hwn yn effeithio arnaf i?
Os ydych yn defnyddio rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau (API) fersiwn 1 (f1) y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i gael mynediad at ein data ar gyfer eich gwefan neu feddalwedd, efallai y bydd angen i chi wneud newidiadau. Darllenwch y manylion isod.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn diweddaru’r ffordd y gallwch gael mynediad at ryngwyneb rhaglennu cymwysiadau (API) y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) fersiwn 1 (f1).
Os ydych yn defnyddio CHSB API f1, bydd angen i chi newid i’r enw parth newydd (api1-ratings.food.gov.uk). Bydd gweddill strwythur yr URL cyfredol yn aros yr un fath. Yr unig newid yw enw’r parth.
Er enghraifft, os ydych yn defnyddio API f1 ar hyn o bryd i gael data ar gyfer y math o fusnes ‘ysgolion/colegau/prifysgolion’, gallech ddefnyddio’r URL https://ratings.food.gov.uk/enhanced-search/en-GB/%5E/%5E/Relevance/784…
Bydd hyn yn newid i https://api1-ratings.food.gov.uk/enhanced-search/en-GB/%5E/%5E/Relevanc…
Sylwch y bydd angen diweddaru unrhyw nodau tudalen neu ddolenni sydd gennych.
Gallwch barhau i gael mynediad at yr API gan ddefnyddio’r parth cyfredol (ratings.food.gov.uk) tan 3 Mawrth 2023.
Rydym yn gwneud y newid hwn er mwyn moderneiddio ein seilwaith gwasanaeth.
Ynglŷn â CSHB API f1
Mae’r rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau yn caniatáu i ddatblygwyr gael mynediad at y data sgoriau hylendid bwyd sylfaenol a gyhoeddir ar y dudalen food.gov.uk/sgoriau.
Anfonwch e-bost i data@food.gov.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.
Hanes diwygio
Published: 10 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Ionawr 2023