Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Annog defnyddwyr i osgoi powdr protein ‘a allai fod yn farwol’

Mae’r ASB yn rhybuddio pobl rhag defnyddio cynnyrch powdr protein y canfuwyd ei fod yn cynnwys lefelau eithriadol o uchel o gaffein

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 July 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 July 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn annog defnyddwyr i beidio â defnyddio cynnyrch powdr protein a alwyd yn ôl oherwydd ei fod yn cynnwys caffein ar lefelau a allai fod yn farwol.

Mae Home Bargains wedi galw bagiau 1.5kg o Sci-Mx Nutrition Ultra Muscle (blas mefus) yn ôl, sydd â dyddiad ‘ar ei orau cyn’ o fis Mawrth 2025. 

Wrth brofi’r cynnyrch, canfuwyd ei fod yn cynnwys dros 5,000mg (5g) o gaffein fesul dogn. Pe bai defnyddwyr yn dilyn y cyngor ar y pecyn ac yn cael dau ddogn y dydd, byddai hyn yn rhoi dos dyddiol o dros 10,000mg (10g) iddyn nhw.

I’r rhan fwyaf o unigolion, gall 10g o gaffein fod yn ddos marwol. Fodd bynnag, mae dosau mor isel â 3g wedi’u nodi fel rhai marwol i rai unigolion sensitif.

Dywedodd Tina Potter, Pennaeth Digwyddiadau’r ASB:

“Os ydych chi wedi prynu’r cynnyrch hwn, peidiwch â chymryd y risg o’i ddefnyddio.

“Gall lefelau uchel o gaffein achosi gorbryder, diffyg cwsg, cynnwrf, crychguriadau’r galon, dolur rhydd ac anesmwythder, a gall unigolion â chyflwr iechyd meddwl brofi seicosis gwaeth.

“Yn yr achos hwn, gallai’r lefelau eithriadol o uchel o gaffein olygu bod y canlyniadau hyd yn oed yn fwy difrifol ac efallai hyd yn oed yn farwol.”

Cod swp y cynhyrchion dan sylw yw W110429, a gallwch gael hyd i’r cod hwn wrth ymyl y dyddiad ‘ar ei orau cyn’ ar y deunydd pecynnu.

Mae dau swp arall wedi cael eu galw yn ôl erbyn hyn ar ôl iddi ddod yn amlwg bod gormod o gaffein yn bresennol, ond ar lefelau is y tro hwn. Canfuwyd bod swp W110430 yn cynnwys 540mg o gaffein fesul pob dogn 150g, a bod swp W110431 yn cynnwys 17mg o gaffein fesul pob dogn 150g.

Mae’r ASB yn parhau i weithio gyda gwneuthurwr y cynnrych yn ogystal â’r manwerthwr i gael gwybod a yw’r un broblem yn effeithio ar fwy o sypiau. Bydd unrhyw ddiweddariadau pellach yn hyn o beth yn cael eu rhannu ar food.gov.uk. Gallwch danysgrifio i gael ein hysbysiadau ‘galw cynnyrch yn ôl’ yn www.food.gov.uk/cy/news-alerts/subscribe.