Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar y cynnig i dynnu gostyngiadau ar daliadau am weithgarwch gorfodi’r diwydiant cig yng Nghymru a Lloegr

Penodol i Gymru a Lloegr

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio sylwadau gan randdeiliaid mewn perthynas â’r cynnig i dynnu gostyngiadau ar daliadau am weithgarwch gorfodi gweithredwyr busnesau bwyd yn y diwydiant cig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 October 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 October 2022

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i’r canlynol yn bennaf:

Gweithredwyr busnesau bwyd y diwydiant cig, cyrff cynrychioliadol y diwydiant, defnyddwyr, a rhanddeiliaid eraill â buddiant.

Pwnc yr ymgynghoriad:

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio sylwadau gan randdeiliaid mewn perthynas â’r cynnig i dynnu gostyngiadau ar daliadau am weithgarwch gorfodi gweithredwyr busnesau bwyd yn y diwydiant cig.

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad yn ceisio sylwadau gan weithredwyr busnesau bwyd y diwydiant cig, cyrff cynrychioliadol, defnyddwyr a rhanddeiliaid eraill â buddiant mewn perthynas â’r cynnig i dynnu gostyngiadau ar weithgarwch gorfodi, fel nad yw busnesau nad ydynt yn cydymffurfio ac sy’n destun gweithgarwch gorfodi yn elwa mwyach ar daliadau gostyngol yr ASB.

Pecyn ymgynghori

Pecyn ymgynghori ar y cynnig i dynnu gostyngiadau ar daliadau am weithgarwch gorfodi’r diwydiant cig yng Nghymru a Lloegr (fersiwn hygyrch)

Sut i ymateb

Mae angen i ymatebion ddod i law erbyn diwedd y dydd, [Dyddiad] Ionawr 2023. Yn eich ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli). 

Dylid anfon ymatebion i'r ymgynghoriad hwn i finance.consultation@food.gov.uk.

Cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion

O fewn tri mis i'r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o'r ymatebion a gafwyd a darparu dolen iddo o'r dudalen hon.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut rydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Rhagor o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag Egwyddorion Ymgynghori Llywodraeth Ei Mawrhydi. Os cynhyrchwyd Asesiad Effaith, mae wedi'i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm yn y ddogfen ymgynghori.

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.