Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar geisiadau i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig amrywiol: dau fwyd newydd, un cyflasyn, ac un ychwanegyn bwyd

Penodol i Gymru a Lloegr

Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r ceisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon, sydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 March 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 March 2023

Crynodeb o ymatebion

Ymgynghoriad ar geisiadau i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig amrywiol: dau fwyd newydd, un cyflasyn, ac un ychwanegyn bwyd – crynodeb o ymatebion (Saesneg yn unig)

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf i’r canlynol:

  • Cymdeithasau masnach y diwydiant bwyd
  • Gweithredwyr busnesau bwyd yn y Deyrnas Unedig (DU) sy’n dymuno defnyddio’r bwydydd, y cyflasyn neu’r ychwanegyn bwyd newydd
  • Awdurdodau Gorfodi, gan gynnwys awdurdodau lleol, Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd, a Chynghorau Dosbarth  
  • Defnyddwyr a rhanddeiliaid ehangach

Mae rhestr o bartïon sydd â buddiant wedi’i chynnwys yn Atodiad A  

Pwnc a diben yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r ceisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon, sydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi (naill ai fel awdurdodiadau newydd, neu er mwyn estyn / addasu eu defnydd).  Gofynnwn i randdeiliaid ystyried unrhyw ddarpariaethau perthnasol yng nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) a ddargedwir a ffactorau dilys eraill (tystiolaeth arall sy'n cefnogi dadansoddiad risg clir, rhesymol a chyfiawnadwy, fel buddiannau defnyddwyr, dichonoldeb technegol, a ffactorau amgylcheddol), gan gynnwys y rheiny y mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban wedi nodi eu bod yn berthnasol i’r ceisiadau hyn. Dyma gyfle i randdeiliaid leisio eu barn am y cyngor a roddir i Weinidogion i lywio penderfyniadau..

Mae'r ymgynghoriad yn ymwneud â’r cynhyrchion rheoleiddiedig canlynol:

  • RP1158   Powdr madarch Fitamin D2 – bwyd newydd
  • RP1292   Burum sych (Saccharomyces cerevisiae) wedi’i drin â golau UV – bwyd newydd
  • RP1382   3-(1-((3,5-deumethylisocsasol-4-yl)methyl)-1H-pyrasol-1-yl)-4-(2,4-hydrobensyl)imidasolidin-2,4-deuon – cyflasyn
  • RP1194   Rebaudiosid M – ychwanegyn bwyd

Bydd safbwyntiau’r ASB /Safonau Bwyd yr Alban, ynghyd â’r safbwyntiau a gesglir trwy’r ymgynghoriad hwn, yn cael eu hystyried ochr yn ochr â safbwyntiau swyddogion ar draws yr ASB, Safonau Bwyd yr Alban ac, yng nghyswllt bwydydd newydd, adrannau eraill Llywodraeth y DU heblaw’r ASB er mwyn llywio penderfyniadau Gweinidogion o ran a ddylid awdurdodi’r cynhyrchion rheoleiddiedig unigol i’w defnyddio ym Mhrydain Fawr.

Bydd ymgynghoriad cyfochrog yn cael ei gyhoeddi gan Safonau Bwyd yr Alban. 

Darllenwch y pecyn ymgynghori llawn

Ymgynghoriad ar geisiadau i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig amrywiol: dau fwyd newydd, un cyflasyn, ac un ychwanegyn bwyd (fersiwn hygyrch)

Sut i ymateb

Dylid anfon ymatebion i’r ymgynghoriad hwn drwy'r ffurflen Microsoft Forms. Os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb drwy'r ebost isod:


E-bost: RPconsultations@food.gov.uk
Enw: Y Tîm Cymeradwyo Cynhyrchion Rheoleiddiedig
Is-adran/Cangen: Gwasanaethau Rheoleiddiedig

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.