Ymgynghoriad ar geisiadau am wyth organeb a addaswyd yn enetig (GMO) i’w defnyddio at ddibenion bwyd a bwyd anifeiliaid ac ar gyfer newid deiliad yr awdurdodiad ar gyfer pum deg un GMO awdurdodedig
Rydym yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid mewn perthynas â cheisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig am wyth organeb a addaswyd yn enetig (GMOs) i’w defnyddio at ddibenion bwyd a bwyd anifeiliaid, sydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi, ac ar gyfer newid deiliaid yr awdurdodiadau ar gyfer pum deg un GMO awdurdodedig.
Crynodeb o ymatebion
I bwy byddai’r ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?
- Gwneuthurwyr, mewnforwyr/allforwyr a manwerthwyr bwyd anifeiliaid
- Cyrff masnach sy’n cynrychioli rhanddeiliaid mewn perthynas â bwyd, bwyd anifeiliaid, amaethyddiaeth a’r amgylchedd
- Pob prynwr bwyd anifeiliaid, gan gynnwys ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd ac anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd
- Undebau llafur sy’n cynrychioli rhanddeiliaid yn y diwydiant ffermio
- Sefydliadau sy’n cynrychioli buddiannau defnyddwyr mewn cadwyni bwyd a chadwyni bwyd anifeiliaid
- Awdurdodau Gorfodi
- Defnyddwyr
Pwnc yr ymgynghoriad
Gwnaeth yr ymgynghoriad hwn ymwneud ag wyth (8) GMO sydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi ym Mhrydain Fawr. O dan delerau cyfredol Protocol Gogledd Iwerddon, mae deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd (UE) sy’n ymwneud â chynhyrchion rheoleiddiedig yn dal i fod yn gymwys yng Ngogledd Iwerddon.
Roedd yr ymgynghoriad hwn hefyd yn cynnwys newid gweinyddol i fanylion deiliaid yr awdurdodiadau ar gyfer pum deg un (51) o GMOs awdurdodedig.
Yn ogystal â’r ymgynghoriad hwn, rydym hefyd wedi cyhoeddi dogfen ar y cyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban gyda safbwyntiau gwyddonol sy’n ymwneud â’r GMOs perthnasol. Rydym hefyd yn croesawu sylwadau ar y rhain.
Asesiad o wyth cais am GMOs a gyflwynwyd yn unol â Rheoliad a Ddargedwir (EC) Rhif 1829/2003
Diben yr ymgynghoriad
Darperir telerau awdurdodi arfaethedig a’n hasesiad o’r effaith bosib – gweler y pecyn ymgynghori. Roeddem yn ceisio eich adborth ar yr asesiad hwn ac unrhyw dystiolaeth bellach sydd gennych ar yr effeithiau y dylem eu hystyried.
Dyma oedd cyfle i chi leisio eich barn am y cyngor a roddir i Weinidogion i lywio penderfyniadau
Pecyn ymgynghori
Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn darparu'r wybodaeth gefndirol a'r manylion y bydd angen i chi eu gwybod er mwyn ymateb i'r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn. Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael ar y tudalennau canlynol hefyd.
Sut i ymateb
Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
O fewn tri mis i'r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn amcanu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion a gafwyd a darparu dolen iddo o'r dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgynghoriadau.
Rhagor o wybodaeth
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Mawrhydi. Os oes Asesiad Effaith wedi’i gynhyrchu, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm yn y ddogfen ymgynghori.
Hanes diwygio
Published: 10 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Hydref 2023