Ymgynghoriad ar Ddiwygio’r Rheoliadau Bara a Blawd 1998 a’r Rheoliadau Bara a Blawd (Gogledd Iwerddon) 1998
Nod yr ymynghoriad hwn yw ceisio safbwyntiau ar newidiadau arfaethedig i'r rheolau ar gyfansoddiad cynhyrchion Bara a Blawd.
Crynodeb o’r ymatebion
Daeth 369 o ymatebion i law ar gyfer yr ymgynghoriad hwn, gan adlewyrchu ystod eang o safbwyntiau.
Mae crynodeb llawn o’r ymatebion i’w weld ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
Ar ôl ystyried yr ymatebion hyn yn ofalus, mae llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig wedi cytuno i fwrw ymlaen â nifer o’r diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Bara a Blawd 1998, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i ychwanegu 250 microgram o asid ffolig fesul 100 gram o flawd gwenith nad yw’n gyflawn. Byddwn yn hysbysu Sefydliad Masnach y Byd (ar gyfer y DU gyfan) a’r Comisiwn Ewropeaidd (o ran newidiadau yng Ngogledd Iwerddon) yn unol â rhwymedigaethau rhyngwladol, gyda’r bwriad o weithredu’r newidiadau deddfwriaethol yn ddiweddarach yn 2024.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gymwys i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd o ddiddordeb yn bennaf i’r canlynol:
- Pob busnes sy’n gweithgynhyrchu, allforio, mewnforio a gwerthu blawd neu gynhyrchion blawd
- Awdurdodau lleol/Cynghorau Dosbarth
- Swyddogion safonau masnach ac iechyd yr amgylchedd
- Cyrff masnach
- Gweithwyr iechyd a maeth proffesiynol
- Defnyddwyr
Pwnc yr ymgynghoriad
Rydym yn ceisio safbwyntiau ar gynigion i ddiweddaru a diwygio Rheoliadau Bara a Blawd 1998 a Rheoliadau Bara a Blawd (Gogledd Iwerddon) 1998 sy’n ymdrin â rheolau penodol ar labelu a chyfansoddiad bara a blawd. Mae’r rheoliadau’n darparu’n bennaf ar gyfer gorfodi ychwanegu maethynnau penodol at flawd gwenith nad yw’n gyflawn ar gyfer rhesymau iechyd y cyhoedd. Yn yr ymgynghoriad hwn, ceir cynigion sy’n edrych ar sut y gellir sicrhau bod y rheoliadau’n arwain at iechyd gwell ar gyfer y cyhoedd, yn cefnogi diwydiant y Deyrnas Unedig (DU), yn cynorthwyo awdurdodau gorfodi ac yn diogelu defnyddwyr.
Mae rhan o’r ymgynghoriad hefyd yn ystyried gweithredu ymrwymiad y DU gyfan i gyflwyno’r gofyniad i ychwanegu asid ffolig at flawd gwenith nad yw’n gyflawn.
Pwrpas yr ymgynghoriad
Rydym yn ceisio safbwyntiau ar opsiynau polisi, sydd wedi’u datblygu yn dilyn trafodaethau ag amrywiaeth o randdeiliaid, gyda’r nod o sicrhau bod y rheoliadau’n addas i’r diben, yn arwain at well iechyd y cyhoedd, yn cefnogi diwydiant y DU, yn cynorthwyo awdurdodau gorfodi, ac yn diogelu defnyddwyr.
Mae’r ymgynghoriad wedi’i rannu’n bum maes y mae ymyriadau arfaethedig y llywodraeth yn ceisio mynd i’r afael â hwy:
- Rhyngweithio â rheoliadau bwyd ehangach
- Asid ffolig
- Cwmpas y rheoliadau
- Eithriadau rhag gofynion cyfnerthu
- Gorfodi
Mae’r ymgynghoriad yn cynnig cyfle i randdeiliaid rannu eu dewisiadau a’u safbwyntiau ar yr opsiynau polisi. Rydym hefyd yn ceisio gwybodaeth ychwanegol i ddatblygu ein hasesiad o effeithiau’r opsiynau, gan sicrhau bod y cynigion a gyflwynir yn addas ar gyfer cyflawni amcanion y polisi, ac i wirio am ganlyniadau anfwriadol posib. Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu defnyddio i helpu i fireinio cynigion a llywio penderfyniadau polisi ar sut y bydd llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn bwrw ymlaen ag unrhyw newidiadau deddfwriaethol dilynol.
Pecyn ymgynghori:
Mae’r pecyn ymgynghori ar gael yn https://consult.defra.gov.uk/food-compositional-standards/bread-and-flour-consultation-2022-welsh
Sut i ymateb
Bydd yr ymgynghoriad ar agor am 12 wythnos rhwng 1 Medi 2022 a 23 Tachwedd 2022. Dylai ymatebion ddod i law erbyn 23:59 ar 23 Tachwedd. Mae’n well gennym gael ymatebion trwy’r llwyfan Citizen Space:
https://consult.defra.gov.uk/food-compositional-standards/bread-and-flour-consultation-2022/
Os na allwch ddefnyddio Citizen Space, gallwch ofyn am gopi caled o’r ymgynghoriad trwy anfon e-bost i foodcstandards@defra.gov.uk. Gellir anfon ymatebion a gwybodaeth neu ddogfennau ychwanegol i: breadandflour2022@defra.gov.uk
Neu
Ymgynghoriad Bara a Blawd 2022/Bread and Flour Consultation 2022
Cydlynydd/Coordinator
Ail lawr/Second Floor
Foss House
Kings Pool
Peasholme Green
Caerefrog
YO1 7PX
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.
Mwy o wybodaeth
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.