Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad ar gynhyrchion rheoleiddiedig

Ymgynghoriad ar ddiwygiadau i Gyfraith yr UE a Ddargedwir 1829/2003 a 619/2011 ac estyniad i’r cyfnod goddefiant ar gyfer lefelau bach iawn o Ms1×Rf1, Ms1×Rf2 a Topas 19/2, sef cynhyrchion rêp had olew GM a dynnwyd yn ôl

Penodol i Gymru a Lloegr

Rydym yn ceisio barn rhanddeiliaid mewn perthynas â chaniatáu estyniad i’r cyfnod goddefiant ar gyfer lefelau bach iawn o dri chynnyrch GMO a dynnwyd yn ôl (rêp had olew Ms1×Rf1, Ms1×Rf2 a Topas 19/2) a diwygiadau i gyfraith yr UE a ddargedwir 1829/2003 a 619/2011.

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Hydref 2022

Crynodeb o'r ymatebion

England, Scotland and Wales

Crynodeb o'r ymatebion

Crynodeb o’r ymatebion gan randdeiliaid i’r ymgynghoriad ar ddiwygiadau i Gyfraith yr UE a Ddargedwir 1829/2003 a 619/2011 ac estyniad i’r cyfnod goddefiant ar gyfer lefelau bychain iawn o Ms1×Rf1, Ms1×Rf2 a Topas 19/2, sef cynhyrchion rêp had olew GM a dynnwyd yn ôl

I bwy fydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?

  • Datblygwyr yn y diwydiant organebau a addaswyd yn enetig (GMO)
  • Cyrff y diwydiant masnach grawn
    Awdurdodau gorfodi
    Masnachwyr rêp had olew
    Prynwyr cynhyrchion rêp had olew
    Rhanddeiliaid eraill â buddiant sydd â diddordeb yn y polisi a'r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â bwyd a bwyd anifeiliaid GM (wedi'u haddasu'n enetig) a'r gadwyn gyflenwi rêp had olew.                     

Pwnc yr ymgynghoriad 

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud ag adfer a chywiro diffygion mewn pwerau yng Nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) a ddargedwir (REUL) y darperir ar eu cyfer yn Rheoliad (EU) 1829/2003, a chaniatáu estyniad i’r cyfnod goddefiant ar gyfer lefelau bach iawn o dri chynnyrch GMO a dynnwyd yn ôl, sef rêp had olew Ms1× Rf1, Ms1×Rf2 a Topas 19/2, ym Mhrydain Fawr.  

Yn ogystal, mae angen diwygiad pellach i gywiro methiant parhaus deddfwriaeth yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol oherwydd anghysondeb rhwng y cyfnod trosiannol yn Erthygl 2(b) o Reoliad (EC) a ddargedwir 619/2011 a’r cyfnodau goddefiant ar gyfer y tri GMOs a dynnwyd yn ôl. Mae angen cywiro'r anghysondeb hwn a diwygio'r cyfnodau hyn fel eu bod yn cyd-fynd.

Diben yr ymgynghoriad

Darperir y cynigion sy’n ymwneud ag estyn y cyfnod goddefiant a diwygiadau pellach i gyfraith yr UE a ddargedwir, (a’r effaith bosibl) – gweler y pecyn ymgynghori. Rydym yn ceisio eich adborth ar y cynigion hyn ac unrhyw dystiolaeth bellach sydd gennych ar yr effeithiau y dylem eu hystyried. 

Pecyn ymgynghori

Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn darparu'r wybodaeth gefndirol a'r manylion y bydd angen i chi eu gwybod er mwyn ymateb i'r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn. 

Sut i ymateb

Ymatebwch i’r ymgynghoriad drwy e-bostio eich ymateb i: RPconsultations@food.gov.uk 

Nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych wedi’ch lleoli.