Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar ddiwygiadau arfaethedig i’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a’r Canllawiau Ymarfer – Cymru

Penodol i Gymru

Ymgynghoriad yn ceisio barn rhanddeiliaid ar newidiadau arfaethedig i’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a’r Canllawiau Ymarfer yng Nghymru.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 February 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 February 2025

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i’r canlynol yn bennaf: 

  • Awdurdodau cymwys – awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd
  • Busnesau bwyd a chyrff masnach y diwydiant
  • Cyrff dyfarnu ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd yr amgylchedd a safonau masnach
  • Efallai y bydd gan undebau llafur a grwpiau arbenigol ddiddordeb hefyd

Pwnc yr ymgynghoriad

Yng Nghymru, awdurdodau lleol (ALlau) ac awdurdodau iechyd porthladdoedd (PHAs) yw’r Awdurdodau Cymwys (CAs) sy’n gyfrifol am wirio a gorfodi cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd yn y rhan fwyaf o fusnesau bwyd. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar CAs i ystyried y darpariaethau yn y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (y Cod) mewn perthynas â chynnal rheolaethau swyddogol.

Mae angen adolygu’r Cod yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu blaenoriaethau, polisïau a gofynion deddfwriaethol cyfredol fel bod gwaith CAs o gynnal rheolaethau bwyd yn parhau i fod yn effeithiol, yn gyson ac yn gymesur. Nod yr ymgynghoriad hwn yw rhoi cyfle i randdeiliaid wneud sylwadau ar y newidiadau arfaethedig i’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a’r Canllawiau Ymarfer, a amlinellir isod.

Diben yr ymgynghoriad hwn

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn rhanddeiliaid ar newidiadau arfaethedig i’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a’r Canllawiau Ymarfer yng Nghymru.

Mae’r prif gynigion yn cynnwys:

  1. dull wedi’i ddiweddaru sy’n seiliedig ar risg o ran blaenoriaethu a gosod amserlenni ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol hylendid bwyd cychwynnol mewn sefydliadau bwyd newydd, a chynnal rheolaethau swyddogol priodol
  2. cyflwyno’r hyblygrwydd i gynnal rheolaethau hylendid bwyd swyddogol o bell o dan amgylchiadau penodol
  3. ymestyn y gweithgareddau y gall swyddogion nad ydynt yn meddu ar ‘gymhwyster addas’ ar gyfer hylendid bwyd neu safonau bwyd eu cyflawni, os ydynt yn gymwys
  4. eglurhad o’r dull o gynnal ymyriadau mewn sefydliadau busnesau bwyd sy’n dod o dan gategori risg E ar gyfer hylendid bwyd
  5. cael gwared ar y nifer penodol o oriau sydd eu hangen ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus
  6. cyflwyno cynllun sgorio ymyriadau safonau bwyd newydd y bydd swyddogion awdurdodau lleol yn ei ddefnyddio i werthuso’r risg a berir gan fusnes bwyd
  7. cyflwyno matrics penderfynu newydd i bennu pa mor aml y dylid cynnal rheolaethau safonau bwyd swyddogol yn unol â chanlyniad yr asesiad risg
  8. diwygiadau eraill nad ydynt yn diwygio polisi, er mwyn darparu eglurder, gwella cysondeb a bod yn gyson ag arferion presennol

Mae’r diwygiadau arfaethedig yn destun ymgynghoriadau ar wahân yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Pecyn ymgynghori

Wales

Gan mai canllawiau drafft yw’r rhain, maent wedi’u hatodi yn Saesneg yn unig. Bydd y Gymraeg yn cael ei chyhoeddi pan fydd y canllawiau ar eu ffurf derfynol.

Wales

Wales

Wales

Wales

Sut i ymateb

Defnyddiwch y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad i roi eich sylwadau. Gallwch ddefnyddio’r PDF rhyngweithiol neu’r ddogfen Word. Yna, dylid e-bostio’r ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad i CodeReviewResponses@food.gov.uk

Wales

Wales

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.