Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Diweddariad ar gynhyrchion rheoleiddiedig

Trosglwyddo perchnogaeth pum awdurdodiad ar gyfer cyflasynnau mwg

Dyma roi gwybod i randdeiliaid fod angen newid manylion y deiliaid awdurdodiadau a restrir ar gyfer pum awdurdodiad cynnyrch crai ar gyfer cyflasynnau mwg.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 May 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 May 2022

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban yn cynnig newidiadau gweinyddol i’r rhestr ddomestig o gynhyrchion crai cyflasynnau mwg awdurdodedig yn yr Atodiad i Reoliad a Ddargedwir 1321/2013 (UE), yn dilyn ceisiadau i’w haddasu i adlewyrchu diweddariadau i fanylion deiliad awdurdodiadau. Er mai mân newidiadau yw’r newidiadau arfaethedig, mae adborth gan randdeiliaid yn parhau i fod yn hanfodol wrth lunio polisïau tryloyw, sef y rheswm dros dynnu sylw rhanddeiliaid at y diwygiadau hyn. 

Pwysig

Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau ychwanegol ar y newidiadau gweinyddol i'r awdurdodiadau cyflasynnau mwg.  Dylid darparu sylwadau o fewn pythefnos i ddyddiad y cyhoeddiad hwn ac mae’r un datganiad preifatrwydd yn berthnasol i unrhyw sylwadau sy’n dod i law ag sy’n berthnasol i ymgynghoriadau. Gellir gellir dod o hyd i fanylion y datganiad yn ein hysbysiad preifatrwydd Ymgynghoriadau.

Dylid anfon adborth trwy e-bost i:  RPconsultations@food.gov.uk.

Diweddariad 17 Mai 2022

Yn dilyn diwedd y cyfnod ar gyfer sylwadau, nid oes crynodeb o’r ymatebion, gan na chafwyd unrhyw ymatebion. Mae’r addasiadau arfaethedig yn ymwneud ag enwau a chyfeiriadau deiliaid yr awdurdodiadau ar gyfer pum cynnyrch cynradd cyflasyn mwg.

Y cyngor olaf i Weinidogion yw awdurdodi’r addasiadau hyn. Os bydd Gweinidogion yn mynd ati i awdurdodi, bydd Offerynnau Statudol yn cael eu paratoi yng Nghymru a Lloegr (ac Offeryn Statudol Albanaidd yn yr Alban).

Gwybodaeth am y ceisiadau ar gyfer cyflasynnau mwg

Hoffem gyfeirio rhanddeiliaid perthnasol at gynlluniau i drosglwyddo’r awdurdodiadau ar gyfer pum cynnyrch crai cyflasynnau mwg i’r deiliaid awdurdodiadau newydd, yn dilyn ceisiadau a gafwyd i newid manylion deiliad awdurdodiad.

Mae'r rhestr ddomestig o gynhyrchion crai cyflasynnau mwg awdurdodedig (Rheoliad a Ddargedwir 1321/2013 (UE)) yn nodi manylion deiliad yr awdurdodiad, gan gynnwys enw a chyfeiriad, ar gyfer pob cynnyrch crai. O dan Erthygl 11(1), Rheoliad a Ddargedwir 2065/2003 (UE), rhaid i ddeiliaid awdurdodiad roi gwybod i'r ASB os oes unrhyw addasiadau wedi'u gwneud i awdurdodiadau cyfredol. Byddai hyn yn cynnwys newid eu manylion fel y maent wedi’u rhestru ar y rhestr ddomestig.  Lle bo angen diweddaru'r rhestr, bydd yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban yn hysbysu'r Gweinidogion perthnasol am y diwygiadau gofynnol. Swyddogaeth y Gweinidogion wedyn yw diweddaru’r rhestr, drwy reoliadau. 

Mae awdurdodiadau cyflasynnau mwg ar y rhestr ddomestig yn berthnasol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Mae Gogledd Iwerddon, o dan delerau presennol Protocol Gogledd Iwerddon ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon, yn cadw at restr yr Undeb yn yr Atodiad i Reoliad Gweithredu'r Comisiwn (UE) Rhif 1321/2013.

Mae ceisiadau wedi dod i law trwy Wasanaeth Ceisiadau Cynhyrchion Rheoleiddiedig y DU, yn gofyn am addasu manylion deiliad awdurdodiad y pum awdurdodiad ar gyfer cyflasynnau mwg, gan gynnwys trosglwyddo:

  • SF-001 'Scansmoke PB 1110' o Azelis Denmarc A/S i proFagus GmbH
  • SF-002 'Zesti Smoke Code 10 ' o Mastertaste i Kerry Group Plc.
  • SF-005 'SmokEz C-10' a SF-006 'SmokEz Enviro-23' o Red Arrow Products Company LLC i Kerry Group Plc., a
  • SF-007 'Tradismoke TM A MAX' o Nactis i J. Rettenmaier & Söhne GmbH + CO KG.

Bydd y newidiadau yn fân ac yn weinyddol eu natur ac ni fyddant yn effeithio o gwbl ar ddiogelwch y cyflasynnau mwg na sut y cânt eu defnyddio ar y farchnad ym Mhrydain Fawr. Mae'r newidiadau hyn yn adlewyrchu'r achosion o drosglwyddo perchnogaeth a chaffael asedau sydd eisoes wedi'u cwblhau ers i’r rhestr gael ei sefydlu’n wreiddiol. Mae'n bwysig diweddaru manylion y pum awdurdodiad ar gyfer cyflasynnau mwg a nodwyd uchod er mwyn adlewyrchu'n deiliaid awdurdodiad cyfredol yn gywir ac, yn anad dim, hwyluso ceisiadau am adnewyddu awdurdodiadau. Mae Erthygl 12(1) o Reoliad yr UE a Ddargedwir 2065/2003 yn nodi mai dim ond y deiliaid awdurdodiad a enwir all wneud cais am adnewyddu awdurdodiadau. Mae hyn oherwydd bod yr awdurdodiad, fel y’i rhoddwyd, yn perthyn i gwmni penodol. Rhaid i ni, felly, ddiweddaru’r rhestr ddomestig er mwyn caniatáu i’r deiliaid awdurdodiadau newydd gyflwyno’r ceisiadau adnewyddu. Er tryloywder, rydym am dynnu sylw rhanddeiliaid at y newidiadau hyn.

Camau nesaf

Bydd unrhyw sylwadau a ddaw i law gan randdeiliaid am y cynlluniau i newid manylion deiliad awdurdodiadau’r pum awdurdodiad ar gyfer cyflasynnau mwg yn cael eu hystyried wrth roi cyngor i weinidogion Prydain Fawr.