Pwerau Ymchwilio Uwch i’r Asiantaeth Safonau Bwyd
Ymgynghoriad ar gynlluniau’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i geisio pwerau ymchwilio uwch ar gyfer yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (yr Uned) trwy reoliadau.
Crynodeb o ymatebion
Crynodeb o ymatebion i ymgynghoriad yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar bwerau ymchwilio uwch i'r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (Saesneg yn unig)
Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i’r canlynol:
- deddfwyr
- adrannau gweinidogol ac anweinidogol y llywodraeth sy’n ymwneud ag ymchwilio i ddiogelwch a thwyll bwyd
- y rheiny sy’n gweithio ym maes plismona a gorfodi
- cyrff safonau proffesiynol ac arolygiaethau
- gweinyddiaethau datganoledig
- awdurdodau lleol
- swyddogion safonau masnach
- gweithwyr amgylcheddol ac iechyd y cyhoedd proffesiynol
- gweithredwyr busnesau bwyd a chyrff masnach
- defnyddwyr
- sefydliadau hawliau sifil
- rhanddeiliaid ehangach.
Pwnc yr ymgynghoriad
Bwriad yr ymgynghoriad hwn yw casglu safbwyntiau rhanddeiliaid ar gynlluniau i geisio pwerau ymchwilio uwch ar gyfer yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (yr Uned) trwy reoliadau.
Cafodd Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd 2022 Gydsyniad Brenhinol ar 28 Ebrill 2022. Mae’n rhoi pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno pwerau perthnasol i swyddogion yr Uned, trwy osod rheoliadau, o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE), Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001 a Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994.
Cynigir y byddai pwerau ymchwilio uwch yn galluogi’r Uned i ganfod ac ymchwilio i droseddau bwyd yn fwy effeithiol.
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad yn ceisio safbwyntiau ynghylch a ddylid ymestyn rhai pwerau statudol ychwanegol i’r Uned. Mae hefyd yn ceisio safbwyntiau ar fesurau diogelu ychwanegol y gellid eu rhoi ar waith ochr yn ochr ag estyniad o’r fath. Trwy ymgynghori ar y mater hwn, mae’r ASB yn gofyn am safbwyntiau rhanddeiliaid ynghylch a yw’r pwerau a’r mesurau diogelu a gynigir yn gyfres o fesurau cyfiawn a chymesur i alluogi’r Uned i fynd i’r afael â throseddau bwyd yn effeithiol.
Byddai angen is-ddeddfwriaeth er mwyn darparu pwerau o’r fath i’r ASB, ac yn ei thro, yr Uned. Rydym o’r farn bod angen pwerau ymchwilio pellach er mwyn i’r Uned allu gweithredu ei chylch gwaith a’i mandad yn annibynnol i arwain ymchwiliadau troseddol i droseddau bwyd cymhleth, i’w herlyn gan Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS).
Mae’r pwerau arfaethedig yn cynnwys y gallu i wneud cais am warantau chwilio, atafael tystiolaeth a chyfweld â phobl a ddrwgdybir sy’n cael eu harestio.
Pecyn ymgynghori:
Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn darparu'r wybodaeth gefndirol a'r manylion y bydd angen i chi eu gwybod er mwyn ymateb i’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn.
England and Wales
Sut i ymateb
Pwysig
Byddem yn argymell yn gryf eich bod yn ymateb i’r ymgynghoriad gan ddefnyddio’r dogfennau ymateb a ddarperir isod. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosib, gallwch anfon eich ymateb dros e-bost i: nfcuconsultation@food.gov.uk. Ceir rhagor o fanylion yn y pecyn ymgynghori.
England and Wales
Pwysig
England and Wales
Cynnwys cysylltiedig – Yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd
- Yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd – Amdanom ni
- Adrodd cudd-wybodaeth troseddau bwyd: rhwystrau a galluogwyr – prosiect ymchwil
- Deall troseddau bwyd a sut i roi gwybod amdanynt
- Yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn cyhoeddi asesiad o droseddau bwyd yn y Deyrnas Unedig
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.
Mwy o wybodaeth
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.
Hanes diwygio
Published: 26 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Gorffennaf 2023