Mynediad y DU i Bartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP): Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) yn galw am dystiolaeth
Ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ynghylch a allai darpariaethau yn y CPTPP, sy’n ymwneud â masnachu cynhyrchion amaethyddol, effeithio ar gynnal amddiffyniadau statudol y DU ar gyfer iechyd dynol, ac i ba raddau.
Crynodeb o’r ymatebion
Crynodeb o’r ymatebion i’r alwad hon am dystiolaeth ar gyfer Cyngor CPTPP S42 (Saesneg yn unig)
Bydd yr alwad hon am dystiolaeth yn fwyaf perthnasol i’r canlynol:
Defnyddwyr, cymdeithasau masnach, cyrff anllywodraethol a phartïon sydd â buddiant.
Diben yr alwad am dystiolaeth
Bydd ymatebion rhanddeiliaid yn llywio cyngor yr ASB a’r FSS i’r Adran Busnes a Masnach a fydd yn cyfrannu at adroddiad Llywodraeth y DU (sy’n ofynnol o dan Adran 42(2) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020) fel rhan o’r broses graffu Seneddol ar gyfer y Cytundebau Masnach Rydd hyn.
Sut i ymateb
Wrth gyflwyno ymatebion, dylid sicrhau:
- eu bod ar ffurf dogfen Microsoft Word
- nad ydynt yn fwy na 2 dudalen o hyd (gan ddefnyddio ffont Times New Roman, maint 12, gyda bylchau 1.5 rhwng llinellau ac ymylon o 2.54cm)
Gall yr ASB ac FSS ddyfynnu’r ymatebion a ddaw i law au yn eu cyngor. Os hoffech i’r holl ymatebion a gyflwynir gennych, neu ran ohonynt, gael eu trin yn gyfrinachol, cysylltwch â’r ASB a’r FSS drwy ftascrutiny@food.gov.uk. Mae gan yr ASB ac FSS ddisgresiwn llawn i benderfynu ar berthnasedd ymatebion.
Rhaid i unigolion neu endidau sy’n cyflwyno ymatebion nodi eu gwefan (os ydynt yn sefydliad), ynghyd â chyfeiriad e-bost a chyswllt a enwir. Gellir cysylltu ag unigolion neu endidau sy’n cyflwyno ymatebion i gael rhagor o wybodaeth.
Manylion yr alwad am dystiolaeth
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ynghylch a allai darpariaethau ym Mhartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP), sy’n ymwneud â masnachu cynhyrchion amaethyddol, effeithio ar gynnal amddiffyniadau statudol y DU o ran iechyd dynol, ac i ba raddau, a hyn yn unol â chylch gwaith yr ASB ac FSS sy’n cwmpasu diogelwch bwyd a maeth.
Er gwybodaeth, yn unol â’r llythyr comisiynu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach i’r ASB ac FSS, ni ddylai eich ymatebion roi sylw i fywyd neu iechyd anifeiliaid neu blanhigion; lles anifeiliaid; na materion o ran yr amgylchedd gan y bydd y meysydd hyn yn cael eu hasesu gan y Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth.
Tystiolaeth sydd ei hangen
Tystiolaeth destunol ynghylch a yw’r mesurau sy’n gymwys i fasnachu cynhyrchion amaethyddol yn CPTPP yn gyson â chynnal lefelau amddiffyniadau statudol y DU mewn perthynas â diogelwch bwyd a maeth, ac i ba raddau.
Ymatebion
Gofynnir bod ymatebion yn dod i law erbyn diwedd y dydd 10 Medi 2023. Yn eich ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).
Anfonwch eich ymatebion i ftascrutiny@food.gov.uk.
I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Ymgyngoriadau.
Mwy o wybodaeth
Os oes angen y ddogfen hon arnoch chi mewn fformat haws ei ddarllen, anfonwch fanylion at y swyddog cyswllt a enwir ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad hwn a bydd eich cais yn cael ei ystyried.
Ar ran yr ASB, diolch i chi am helpu i sicrhau bod ein datblygiad polisi yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth gadarn.
Tîm Trafodaethau Masnach, Cyfarwyddiaeth y DU a Materion Rhyngwladol
Hanes diwygio
Published: 13 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mawrth 2024