Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Galwad am dystiolaeth

Galwad am dystiolaeth: Effaith gostyngiadau o ran taliadau am reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill mewn perthynas â safleoedd cig

Diben yr alwad am dystiolaeth yw casglu tystiolaeth am sut y mae’r gostyngiadau o ran taliadau am reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill ar gyfer busnesau yn y sector cig o fudd i fusnesau ac i ddefnyddwyr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 September 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 September 2024

Bydd yr alwad hon am dystiolaeth yn fwyaf perthnasol i’r rhai a ganlyn: 

  • Gweithredwyr busnesau bwyd (FBOs) yn y diwydiant cig y mae eu gweithgareddau yn destun rheolaethau swyddogol (OC) a gweithgareddau swyddogol eraill (OOA) y codir tâl amdanynt gan yr ASB 
  • Cymdeithasau masnach sy'n cynrychioli gweithredwyr busnesau bwyd o'r fath
  • Cyflenwyr a chwsmeriaid gweithredwyr busnesau bwyd o'r fath a'u cymdeithasau masnach
  • Cymdeithasau a grwpiau sy'n cynrychioli buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd, yn enwedig y rhai sy'n bwyta'r cynhyrchion a gynhyrchir gan weithredwyr busnesau bwyd o'r fath neu y maent yn cyfrannu atynt 
  • Unigolion neu grwpiau o ddefnyddwyr sydd â diddordeb yn y pwnc
  • Awdurdodau a chymdeithasau proffesiynol sy'n cynrychioli'r rhai sy'n cynnal rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill, gan gynnwys gorfodi, ar safleoedd cig
  • Arbenigwyr ym maes polisi a chyfraith taliadau rheoleiddiol neu’r diwydiant cig, gan gynnwys adrannau llywodraethau’r DU
  • Arbenigwyr ag arbenigedd sy'n berthnasol i'r sector cig a'i berthynas â'r system fwyd ehangach 

Diben yr alwad am dystiolaeth

Diben yr alwad am dystiolaeth yw:

  • Casglu tystiolaeth am sut y mae’r gostyngiadau o ran taliadau am reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill ar gyfer busnesau yn y sector cig o fudd i fusnesau ac i ddefnyddwyr  

Sut i ymateb 

Dylid cyflwyno ymatebion i'r alwad hon am dystiolaeth drwy'r ffurflen ar-lein hon. I'w llenwi yn Gymraeg, defnyddiwch y gwymplen iaith ar frig y dudalen. 

Mae'r ffurflen yn nodi'r dystiolaeth sydd ei hangen o dan gwestiynau y gellir ymateb iddynt mewn blychau testun. Ar ôl yr adran â'r cwestiynau, ceir blwch testun arall ar gyfer sylwadau pellach. 

Manylion yr alwad am dystiolaeth 

Rôl yr ASB 

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn adran anweinidogol annibynnol o'r Llywodraeth a sefydlwyd yn 2000 i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr o ran bwyd.

Yr ASB yw’r awdurdod cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddiogelwch a hylendid bwyd ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae cylch gwaith yr ASB yn cynnwys sicrhau bod y safonau gofynnol o ran hylendid cig yn cael eu cynnal mewn lladd-dai a sefydliadau cig cymeradwy ledled Prydain Fawr. Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud gan yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA). 

Cwmpas daearyddol yr alwad hon am dystiolaeth yw Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae cynllun taliadau a gostyngiadau ar wahân ar waith yn yr Alban o dan ofal Safonau Bwyd yr Alban.

Rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau cig

Mae'r ASB yn arolygu busnesau bwyd yn y sector cig yn uniongyrchol i gadarnhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau diogelwch bwyd a safonau bwyd ehangach. Mae Milfeddygon Swyddogol ac Arolygwyr Hylendid Cig yr ASB yn gweithio fel tîm i archwilio pob anifail a charcas mewn lladd-dai, gan gyflawni swyddogaeth hanfodol o ran ffermio da byw a diogelu iechyd y cyhoedd.  

Gelwir y gwiriadau a wneir gan yr ASB yn rheolaethau swyddogol. Maent yn sicrhau bod cig yn addas i'w fwyta gan bobl. Hebddynt, ni fyddai modd rhoi cynhyrchion cig ar y farchnad yn y DU na'u hallforio ledled y byd. Mae Milfeddygon Swyddogol ac Arolygwyr Hylendid Cig yn sicrhau bod busnesau’n cydymffurfio â’r rheoliadau ac, ar y cyd â’r awdurdodau lleol, maent yn gorfodi'r gyfraith pan fo angen. Mae’r rheolaethau swyddogol yn rhan hanfodol o ddarparu bwyd y gellir ymddiried ynddo. 

Ymhlith y rheolaethau swyddogol a gyflawnir mae gwiriadau o ran:

  • Lladd, cynhyrchu a phrosesu cig yn ddiogel
  • Lles anifeiliaid mewn lladd-dai (cyflawnir y gwiriadau hyn gan yr ASB ar ran adrannau eraill y llywodraeth yng Nghymru a Lloegr ac fe’u hariannir ganddynt)
  • Sicrhau bod modd olrhain cig drwy'r gadwyn gyflenwi drwy farciau adnabod cywir 

Taliadau a gostyngiadau ar gyfer rheolaethau swyddogol 

Mae rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill yn wasanaeth a ddarperir i fusnesau gan yr ASB. Mae'r ASB yn codi tâl ar fusnesau am y gwasanaeth hwn i dalu costau'r ASB. Nid yw'r ASB yn gwneud elw o godi tâl am reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill, a darperir gostyngiadau i fusnesau ar raddfa amrywiol. Mae'r gwasanaeth yn rhoi gwerth da i fusnesau. Mae’r diwydiant cig yn werth £10.1 biliwn i economi’r DU, o’i gymharu â’r cyfanswm o £34.4m y bu i’r ASB ei godi ar y diwydiant yn 2023/24.  

Mae cost darparu’r gwasanaeth hwn yn wynebu’r un pwysau ag a geir yn yr economi ehangach ar hyn o bryd o ran chwyddiant, yn ogystal â rhai ffactorau mwy penodol, fel camau i sicrhau bod cyflenwad mwy cadarn o weithwyr milfeddygol ar gael yn sgil cyfnod lle cafwyd prinder staff cymwysedig. Oherwydd y newidiadau hyn, gallai rhai costau gynyddu’n sylweddol yn y flwyddyn ariannol nesaf, costau y bydd angen eu trosglwyddo i fusnesau ac a allai effeithio ar ddefnyddwyr yn y pen draw. 

Mae'r ASB yn rhoi gostyngiadau a bennwyd ar y cyd â chyrff y diwydiant o ran y costau hyn, a hynny ar raddfa amrywiol sy'n cyfateb i nifer yr oriau y codir tâl amdanynt sydd eu hangen ar fusnes (gweler Tablau 1a ac 1b isod). Mae busnesau mwy o faint, y mae angen mwy o oriau arnynt, yn cael llai o ostyngiad yn gyffredinol. Mae busnesau llai o faint, lle gall cost rheolaethau swyddogol gyfrif am gyfran uwch o'u trosiant, yn cael mwy o gymorth. Mae cyfraddau’r gostyngiadau wedi bod yn gostwng ar gyfartaledd dros y pedair blynedd diwethaf (mewn 4 o’r 6 band), ac eithrio’r busnesau hynny sydd angen y nifer leiaf o oriau y codir tâl amdanynt, ond mae’r gostyngiadau’n parhau i roi cymorth sylweddol i’r diwydiant (gweler Tablau 1a, 1b a 2 isod).  

 

Tabl 1a: Cyfraddau’r gostyngiadau fesul band yng Nghymru a Lloegr, 2021 i 2024
Band gostyngiad  Gostyngiad 2021/22 Gostyngiad 2022/23 Gostyngiad 2023/24 Gostyngiad 2024/25
1 (isaf) 90% 90% 90% 90%
2 75% 75% 75% 75%
3 28% 21% 17% 26%
4 27% 20% 16% 14%
5 25% 19% 15% 4%
6 (uchaf) 24% 18% 13% 2%

 

Tabl 1b: Cyfraddau’r gostyngiadau fesul band yng Ngogledd Iwerddon 2021 i 2024
Band gostyngiad  Gostyngiad 2021/22 Gostyngiad 2022/23 Gostyngiad 2023/24 Gostyngiad 2024/25
1 (isaf) 85% 85% 85% 85%
2 70% 70% 70% 70%
3 50% 48% 42% 40%
4 34% 30% 24% 22%
5 18% 14% 7% 6%
6 (uchaf) 5% 5% 5% 2%

 

Tabl 2: Cyfanswm gwerth y gostyngiadau a ddarparwyd i’r diwydiant mewn £m, 2021 i 2023
Blwyddyn Cymru a Lloegr Gogledd Iwerddon
2021/22 £17.4 £2.7
2022/23 £16.7 £2.7
2023/24 £15.5 £2.3

Ceir manylion y cynllun codi tâl presennol, gan gynnwys cyfraddau’r gostyngiadau, ar wefan yr ASB. (Sylwch nad yw’r taliadau am gamau gorfodi a rhai gweithgareddau sy’n ymwneud â masnach yn cael gostyngiad, ac nid yw safleoedd torri yn cael gostyngiad.) 

Mae canllaw’r Trysorlys, Rheoli Arian Cyhoeddus, yn nodi’r rheolau ar gyfer cyrff cyhoeddus o ran codi tâl am wasanaethau. Mae'n nodi bod taliadau am wasanaethau a ddarperir gan sefydliadau yn y sector cyhoeddus fel arfer yn trosglwyddo cost lawn eu darparu. Mae hefyd yn dweud bod lle i godi mwy neu lai na hyn, ar yr amod bod gweinidogion yn dewis gwneud hynny, bod y Senedd yn cydsynio, a bod yr holl fanylion yn cael eu datgelu. Bwriedir i hyn sicrhau nad yw'r llywodraeth yn gwneud elw ar draul defnyddwyr nac yn gwneud colled ar ran trethdalwyr. 

Hyd yma, mae'r ASB wedi darparu gostyngiadau, gyda’r gyfradd yn amrywio yn ôl nifer yr oriau o reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill y mae'r ASB yn eu darparu i weithredwyr busnesau bwyd. Dim ond os nad yw codi cost lawn y gwasanaeth a ddarperir yn bodloni amcanion polisi’r gweinidogion y gellir cyfiawnhau'r cymhorthdal hwn i fusnesau. Felly, rhaid bod modd i’r ASB gyfiawnhau peidio â chodi cost lawn darparu’r gwasanaeth yn nhermau diogelu iechyd y cyhoedd neu ddiogelu buddiannau defnyddwyr o ran bwyd. Rhaid i’r ASB hefyd allu dangos ei bod yn rheoli arian cyhoeddus yn ofalus ac yn rhoi gwerth clir am arian i’r trethdalwr, yn enwedig ar adeg pan fo cyllidebau adrannau o dan bwysau. Mae hyn yn cynnwys cost gweinyddu'r cynllun gostyngiadau.

Diben yr alwad am dystiolaeth

Nod yr alwad hon am dystiolaeth yw pennu a yw’r gostyngiadau i fusnesau yn y sector cig o ran taliadau am reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill yn darparu buddion i fusnesau ac i ddefnyddwyr, a gwerth am arian i’r Llywodraeth, a sut y maent yn gwneud hynny. Bydd y dystiolaeth a gyflwynir yn sgil yr alwad hon yn cael ei defnyddio i roi cyngor i’r Gweinidogion ar y cydbwysedd priodol o ran taliadau a gostyngiadau ar lefel strategol. Bydd hefyd yn helpu'r ASB i ddeall canfyddiadau defnyddwyr a grwpiau eraill â diddordeb o effeithiau'r gostyngiadau. Yn olaf, bydd yn rhoi cipolwg manylach ar y gwaith gweinyddu y mae’n ofynnol i’r rheini sy’n ymwneud â gweithredu a chymhwyso’r gostyngiadau ei wneud. Bydd canlyniadau’r alwad am dystiolaeth yn cael eu cyflwyno i Fwrdd yr ASB yn ei gyfarfod cyhoeddus ym mis Rhagfyr i helpu i osod sail ar gyfer y cyngor y bydd yn ei roi i’r Gweinidogion ynghylch taliadau a gostyngiadau yn y sector cig. 

Mae’r gwaith hwn ar wahân i’r gwaith o bennu cyfraddau taliadau a gostyngiadau 2025/6 sydd eisoes yn mynd rhagddo ac y disgwylir ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2025, ac nid yw’n disodli’r gwaith hwnnw. 

Y dystiolaeth sydd ei hangen

Yn yr adran hon, mae 'taliadau' a 'gostyngiadau' yn cyfeirio at daliadau a gostyngiadau'r ASB ar gyfer rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill mewn perthynas â safleoedd cig. 
Rydym yn awyddus i gael gwybodaeth am y pethau a ganlyn:

1. Y buddion i’r grwpiau a ganlyn o ddarparu gostyngiadau:

  • Defnyddwyr
  • Gweithredwyr busnesau bwyd yn y sector cig y codir tâl arnynt am reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill
  • Manwerthwyr, cynhyrchwyr cynradd (e.e. ffermwyr da byw) a gweithredwyr busnesau bwyd eraill yn y gadwyn gyflenwi 
  • Milfeddygon swyddogol, arolygwyr hylendid cig a swyddogion eraill sy'n ymwneud â chynnal rheolaethau swyddogol a'u gorfodi
  • Y gymdeithas ehangach, y system fwyd ac eraill a allai elwa 

2. Unrhyw effeithiau negyddol ar y grwpiau a ganlyn o ddarparu gostyngiadau:

  • Defnyddwyr
  • Gweithredwyr busnesau bwyd yn y sector cig y codir tâl arnynt am reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill
  • Manwerthwyr, cynhyrchwyr cynradd (e.e. ffermwyr da byw) a gweithredwyr busnesau bwyd eraill yn y gadwyn gyflenwi 
  • Milfeddygon swyddogol, arolygwyr hylendid cig a swyddogion eraill sy'n ymwneud â chynnal rheolaethau swyddogol a'u gorfodi
  • Y gymdeithas ehangach, y system fwyd ac eraill a allai wynebu effeithiau negyddol 

3. Baich gweinyddol rheoli’r gostyngiadau ar weithredwyr busnesau bwyd, milfeddygon swyddogol ac arolygwyr hylendid cig, yn ogystal ag unrhyw awgrymiadau i symleiddio’r drefn weinyddol. 

4. Effaith methu â darparu’r gostyngiadau ar y grwpiau a ganlyn, a’r hyn a allai ddigwydd iddynt o ganlyniad i hynny:

  • Defnyddwyr
  • Gweithredwyr busnesau bwyd yn y sector cig y codir tâl arnynt am reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill
  • Manwerthwyr, cynhyrchwyr cynradd (e.e. ffermwyr da byw) a gweithredwyr busnesau bwyd eraill yn y gadwyn gyflenwi 
  • Mentrau micro, bach a chanolig a safleoedd llai o faint sy'n elwa fwyaf ar y gostyngiadau, a’r defnyddwyr a gyflenwir ganddynt
  • Milfeddygon swyddogol, arolygwyr hylendid cig a swyddogion eraill sy'n ymwneud â chynnal rheolaethau swyddogol a'u gorfodi
  • Y gymdeithas ehangach, y system fwyd ac eraill a allai wynebu effeithiau negyddol 

5. Sut y gallai’r gostyngiadau neu fesurau eraill helpu i reoli neu i leihau effaith y cynnydd yn nhaliadau 2025/6 ar y rhai y bydd hynny’n effeithio arnynt. 

6. Cymariaethau â’r gostyngiadau a’r taliadau sy’n gysylltiedig â gwasanaethau eraill y sector cyhoeddus mewn sectorau eraill a reoleiddir yn y DU neu mewn gwledydd eraill.

Ymatebion

Mae angen i ymatebion ddod i law erbyn diwedd y dydd ar 24 Hydref 2024. Yn eich ymateb, nodwch a ydych chi’n ymateb fel unigolyn preifat neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).

Cyflwynwch eich ymatebion drwy'r ffurflen ar-lein hon 

Bydd yr wybodaeth yn ddarostyngedig i rwymedigaethau’r ASB o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac, os bydd yr wybodaeth honno’n cynnwys data personol, bydd yn cael ei phrosesu yn unol â’n hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgyngoriadau. Dylech nodi unrhyw wybodaeth fasnachol sensitif a/neu wybodaeth gyfrinachol ei natur yn glir yn eich ymateb. Bydd hyn yn cael ei ystyried ar y cyd â’r gofynion a amlinellir uchod.

I gael gwybod sut y mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at ein hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgyngoriadau

Mwy o wybodaeth

Os oes angen y ddogfen hon arnoch chi mewn fformat haws ei ddarllen, anfonwch fanylion at  MeatChargingPolicy@food.gov.uk a bydd eich cais yn cael ei ystyried.

Ar ran yr ASB, diolch i chi am ein helpu ni i sicrhau bod y polisi a gaiff ei lunio gennym yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn.

Polisi Codi Tâl ar Safleoedd Cig