Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Galwad am dystiolaeth

Galwad am Dystiolaeth: Ashwagandha

Rydym yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar atchwanegiadau bwyd ashwagandha er mwyn creu pecyn tystiolaeth a fydd yn llywio unrhyw gyngor ar dadansoddi risg yn y dyfodol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 November 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 November 2024

Crynodeb o ymatebion

Crynodeb o ymatebion i'r alwad am dystiolaeth ynghylch Ashwagandha (Saesneg yn unig)

Bydd yr alwad hon am dystiolaeth yn fwyaf perthnasol i’r canlynol:

Rydym yn croesawu data gan weithredwyr busnesau bwyd, arbenigwyr yn y maes, sefydliadau masnach, sefydliadau rhyngwladol, awdurdodau lleol, defnyddwyr a’r rheiny sy’n gwneud gwaith ymchwil mewn pwnc sy’n ymwneud â’r galwad am dystiolaeth.
 
Anogir gweithredwyr busnesau bwyd sy’n gweithgynhyrchu, prosesu, dosbarthu, defnyddio, gwerthu neu fewnforio atchwanegiadau bwyd sy’n cynnwys ashwagandha i ymateb.

Diben yr alwad am dystiolaeth

Diben yr alwad hon am dystiolaeth yw casglu gwybodaeth am atchwanegiadau bwyd ashwagandha er mwyn creu pecyn tystiolaeth a gaiff ei asesu drwy broses dadansoddi risg yr ASB. Bydd allbynnau’n cynnwys asesiad risg a sylfaen dystiolaeth a fydd yn llywio unrhyw gyngor yn y dyfodol ar reoli risgiau, gan gynnwys opsiynau rheoli risg posib i’w cyflwyno i Weinidogion.

Sut i ymateb

Dylid anfon ymatebion i’r alwad hon am dystiolaeth dros e-bost i ashwagandha-callforevidence@food.gov.uk  

Manylion yr alwad am dystiolaeth  

Perlysieuyn yw ashwagandha (a elwir hefyd yn Withania somnifera) a ddefnyddir i wneud meddyginiaethau traddodiadol amrywiol. Mae poblogrwydd defnyddio ashwagandha mewn atchwanegiadau bwyd wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys sylw yn y cyfryngau sy’n awgrymu bod ashwagandha yn lleihau straen a phryder, hyrwyddo cwsg a hybu ffocws.

Yn y DU, nid oes unrhyw lefelau diogel wedi’u sefydlu na chyfyngiadau penodol ar gyfer ei ddefnyddio mewn atchwanegiadau bwyd. 

Mae asesiadau risg a gynhaliwyd trwy adolygiadau o’r llenyddiaeth wedi dangos cysylltiad ag effeithiau ar lefelau hormonau thyroid ac adroddiadau am wenwyndra’r thyroid, effeithiau hypoglycemig, a gwenwyndra posib yr afu.  

Gan ein bod yn gwybod bod yna risgiau posib i iechyd yn sgil bwyta ashwagandha mewn atchwanegiadau bwyd, mae’r ASB yn cyhoeddi’r alwad hon am dystiolaeth i gefnogi ein cais am asesiad risg gan y Pwyllgor ar Wenwyndra (CoT) ar gyfer ashwagandha. Pwrpas y gwaith hwn yw penderfynu a ellir sefydlu lefel ddiogel o ashwagandha i’w defnyddio mewn atchwanegiadau bwyd, ac ar yr un pryd, asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â bwyta atchwanegiadau bwyd sy’n cynnwys ashwagandha.

Statws fel bwyd newydd 

Mae bwydydd newydd yn fwydydd nad ydynt wedi’u bwyta i raddau helaeth yn y DU neu’r UE cyn 15 Mai 1997. Mae’n ofynnol i bob bwyd newydd fod yn destun asesiad diogelwch gorfodol cyn y gellir eu rhoi ar y farchnad, ac mae’n rhaid iddynt gael eu hawdurdodi o dan Reoliad Bwydydd Newydd a gymathwyd 2015/2283 cyn y gellir eu marchnata’n gyfreithiol ym Mhrydain Fawr. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y canllawiau ar awdurdodi bwydydd newydd.

Trwyth dyfrllyd nad yw’n grynodedig o’r gwreiddiau 

Mae tystiolaeth bod hanes sylweddol o fwyta’r trwyth dyfrllyd nad yw’n grynodedig o wreiddiau ashwagandha fel bwyd yn y DU/UE cyn 15 Mai 1997, ac felly nid yw’n dod o fewn cwmpas Rheoliad a gymathwyd 2015/2283, sy’n ymwneud â bwydydd newydd. Fodd bynnag, fel pob bwyd a werthir yn y DU, dylai cynhyrchion o’r fath gydymffurfio â Rheoliad a gymathwyd (EC) 178/2002, sy’n ymwneud â Chyfraith Bwyd Cyffredinol. Dylai hefyd gael ei labelu’n glir, a dylid rhoi gwybod i ddefnyddwyr am union natur y bwyd.  

Pob rhan o’r planhigion 

Nid yw holl rannau o blanhigion Ashwagandha yn cael eu hystyried yn rhannau newydd i’w defnyddio fel atchwanegiadau bwyd, ond fe’u hystyrir yn fwydydd newydd anawdurdodedig at bob defnydd bwyd arall. Felly, byddai angen i fusnesau, sy’n dymuno ei ddefnyddio mewn unrhyw fwydydd (ac eithrio atchwanegiadau bwyd), ei awdurdodi fel bwyd newydd ar gyfer y defnydd hwnnw cyn cyflwyno’r cynnyrch i’r farchnad ym Mhrydain Fawr.  

Tystiolaeth sydd ei hangen 

Mae gennym ddiddordeb yn y canlynol:

  • unrhyw wybodaeth/data sydd ar gael ar asesiad diogelwch atchwanegiadau bwyd sy’n cynnwys ashwagandha, gan gynnwys profion gwenwynegol a data gwenwynegol perthnasol (gall hyn gynnwys unrhyw gyfathrebiadau yr ydych wedi’u cael gan ddefnyddwyr sy’n adrodd am unrhyw effeithiau andwyol posib)
  • unrhyw brofion sydd wedi’u cynnal sy’n cynnig gwybod am ddiogelwch a sefydlogrwydd ashwagandha yn unol â’i ddefnydd arfaethedig
  • unrhyw dystiolaeth wyddonol a ddefnyddir i gefnogi honiadau
  • unrhyw wybodaeth am gyrchu a manylebau’r rhannau o’r planhigion a ddefnyddir
  • rhestr lawn o gynhwysion y cynnyrch terfynol (gan gynnwys cymarebau/canrannau) ynghyd â manyleb. Mae hyn hefyd yn cynnwys unrhyw wybodaeth sydd ar gael am lefelau’r halogion (fel metelau trwm) yn y cynnyrch terfynol
  • gwybodaeth am y mathau o gynhyrchion sydd ar y farchnad a pha rai yw’r rhai mwyaf cyffredin (er enghraifft, atchwanegiadau bwyd sy’n cynnwys gwreiddyn sych neu atchwanegiadau bwyd sy’n cynnwys echdyniad ashwagandha). At hyn, rydym yn croesawu unrhyw wybodaeth am y fformiwleiddiad arbenigol sydd wedi’i fwriadu i addasu’r ffordd y caiff yr atchwanegiad ei amsugno neu ei  fetaboleiddio, er enghraifft, nanofformiwleiddiad
  • unrhyw wybodaeth berthnasol am y broses weithgynhyrchu, gan gynnwys y prosesau rheoli a ddefnyddir, fel profi am blaladdwyr, halogion ac ati. Yn achos echdynion, mae angen unrhyw wybodaeth am y mathau o echdynnu a’r cemegau a ddefnyddir wrth echdynnu hefyd
  • rydym hefyd yn ceisio gwybodaeth gan ddefnyddwyr i ddeall ein cynulleidfa yn well. Rhannwch unrhyw ddata ar atchwanegiadau bwyd sy’n cynnwys ashwagandha, o ran y farchnad / gwerthiannau, gan gynnwys unrhyw wybodaeth am ddemograffeg defnyddwyr fel oedran, rhyw a nodweddion perthnasol eraill. Rydym yn croesawu unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud yn benodol â gwerthu i fenywod beichiog neu blant a’r defnydd ohonynt ymhlith y grŵp hwn
  • unrhyw wybodaeth berthnasol arall neu faterion sy’n ymwneud â’r cynhyrchion hyn

Bydd yr holl wybodaeth sy’n dod i law yn cael ei hadolygu, a bydd yn rhan o ystyriaeth ehangach y CoT o atchwanegiadau bwyd sy’n cynnwys ashwagandha. Bydd gwybodaeth yn ddarostyngedig i rwymedigaethau’r ASB o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, ac os bydd gwybodaeth o’r fath yn cynnwys data personol, bydd yn cael ei phrosesu yn unol â’n hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgynghoriadau. 

Yn yr un modd, bydd gwybodaeth hefyd yn ddarostyngedig i rwymedigaethau Safonau Bwyd yr Alban o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (Yr Alban) 2022 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (yr Alban) 2004. Dylid nodi gwybodaeth fasnachol sensitif a/neu wybodaeth gyfrinachol ei natur yn glir yn eich ymateb. Bydd hyn yn cael ei ystyried ar y cyd â’r gofynion a amlinellir uchod.

Ymatebion

Gofynnir bod ymatebion yn dod i law erbyn diwedd y dydd, 2 Medi 2024. Yn eich ymateb, nodwch a ydych chi’n ymateb fel unigolyn preifat neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).

Anfonwch eich ymateb i ashwagandha-callforevidence@food.gov.uk 

Trin gwybodaeth

I ddysgu mwy am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Ymgynghoriadau a’r dudalen Galwadau am ddata – trin gwybodaeth.

Mwy o wybodaeth 

Os bydd angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat sy’n haws i’w ddarllen, anfonwch fanylion at y cyfeiriad e-bost a nodir ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad hwn, a bydd eich cais yn cael ei ystyried.

Ar ran yr ASB, diolch i chi am helpu i sicrhau bod y polisi a ddatblygwn yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth gadarn.

Tîm Polisi Safonau Bwyd yr ASB yng Nghymru