Dull Arfaethedig o ran Cadw Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn croesawu barn rhanddeiliaid ar y dull arfaethedig ar gyfer gweithredu ar gyfraith yr UE sy'n cael ei chadw ar gyfer diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid.
Crynodeb o ymatebion
England, Northern Ireland and Wales
Ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn
Mae'r ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i holl fusnesau bwyd a bwyd anifeiliaid y Deyrnas Unedig (DU), awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb mewn cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid.
Pwnc ymgynghori
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â rheoliadau bwyd a bwyd anifeiliaid, Ymadael â'r UE, a chywiriadau y mae gweinidogion yn bwriadu eu gwneud o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (EUWA) i gadw cyfraith yr UE yn ymwneud â diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, gan roi sylw arbennig i swyddogaethau cyrff a sefydliadau penodol yr UE.
Diben yr ymgynghoriad
Ceisio barn busnesau, defnyddwyr, rhanddeiliaid eraill a'r cyhoedd ehangach ar gywiriadau y mae gweinidogion yn bwriadu eu gwneud i gyfraith yr UE sy'n ymwneud â bwyd a bwyd anifeiliaid.
Pecyn ymgynghori
Sylwadau a safbwyntiau
Fe'ch anogir i ymateb yn gynnar.
Dylid anfon unrhyw sylwadau a safbwyntiau at EUExitPolicy@food.gov.uk
Neu drwy'r post at sylw:
Gavin Shears
Cyfarwyddiaeth Strategaeth Rheoleiddio a Chyfreithiol
Asiantaeth Safonau Bwyd
Llawr 7, Clive House,
70 Petty France,
Llundain,
SW1H 9EX
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.
Mwy o wybodaeth
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.