Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Diwygiadau i Gyfraith yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid ar gyfer diwedd y Cyfnod Pontio

Ymgynghoriad yn ceisio barn rhanddeiliaid ar Ddiwygiadau i Gyfraith yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid ar gyfer diwedd y Cyfnod Pontio

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 November 2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 November 2020

Crynodeb o ymatebion

Ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â diwygiadau pellach i reoliadau bwyd a bwyd anifeiliaid y Deyrnas Unedig (DU), gan gynnwys y rhai sy'n ofynnol trwy gymhwyso'r Cytundeb Ymadael a Phrotocol Gogledd Iwerddon, sy'n ofynnol er mwyn sicrhau bod cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) a ddargedwir sy'n ymwneud â diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid yn parhau i fod yn effeithiol ar ddiwedd y Cyfnod Pontio.

Pwrpas yr Ymgynghoriad

Ceisio barn busnesau, defnyddwyr, rhanddeiliaid eraill, awdurdodau lleol a'r cyhoedd ehangach ar newidiadau y mae Gweinidogion yn bwriadu eu gwneud i gyfraith yr UE a ddargedwir sy'n ymwneud â diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid.

I bwy fydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb fwyaf?

Pob busnes bwyd a bwyd anifeiliaid yn y Deyrnas Unedig (DU), awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb mewn cyfraith diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid. 

Pecyn ymgynghori

Sut i ymateb

Mae'n rhaid i ymatebion ddod i law erbyn 16 Medi 2020.

Dylid anfon ymatebion dros e-bost at: EUExitPolicy@food.gov.uk

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.