Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Cywiro cyfeiriadau yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 a Deddf Safonau Bwyd 1999

Rydym yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar gynnig i gywiro cyfeiriadau i gyfraith yr UE yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 a Deddf Safonau Bwyd 1999.

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 January 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 6 January 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?

Rhanddeiliaid sydd â diddordeb mewn cyfraith diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid.

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â chywiro cyfeiriadau at yr UE yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 a Deddf Safonau Bwyd 1999. O dan y cynigion, bydd cyfeiriadau anweithredol at ddarpariaethau’r UE yn cael eu diwygio i gyfeirio’n gywir at “gyfraith a gymathwyd”.

Sut i ymateb

Dylid anfon ymatebion i’r ymgynghoriad hwn i: regulatory.review@food.gov.uk

Cyflwyniad

Yn dilyn ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, creodd Deddf Ymadael â’r UE 2018 gorff o gyfraith o’r enw Cyfraith yr UE a Ddargedwir (REUL); mewn termau syml, mae REUL yn giplun o gyfraith yr UE fel yr oedd yn berthnasol yn y DU ar 31 Rhagfyr 2020. Disodlodd REUL gyfraith yr UE. Ers hynny, mae Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Deddf REUL) wedi rhoi pwerau eang i weinidogion y DU ac awdurdodau datganoledig i ddirymu, disodli a diwygio REUL. Roedd Deddf REUL hefyd yn nodi y byddai unrhyw REUL sy’n weddill ar lyfrau statud yn dod yn “gyfraith a gymathwyd” o 1 Ionawr 2024. Dyma’r term cywir i’w ddefnyddio ar gyfer cyfraith a ddargadwyd o gyfnod aelodaeth y DU o’r UE.

Mae Deddf Diogelwch Bwyd 1990 yn darparu’r fframwaith ar gyfer deddfwriaeth bwyd ym Mhrydain Fawr. Ei brif ddiben yw amddiffyn defnyddwyr rhag bwyta bwyd a allai fod yn niweidiol i’w hiechyd.

Sefydlodd Deddf Safonau Bwyd 1999 yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a’i swyddogaethau. Roedd hyn yn cynnwys ei phrif amcan o ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau eraill defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Mae’n gymwys yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac yn rhoi’r pŵer i’r ASB weithredu er budd y defnyddiwr ar unrhyw gam yn y gadwyn cynhyrchu a chyflenwi bwyd.

Mae adolygiad o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a Deddf Safonau Bwyd 1999 wedi nodi sawl cyfeiriad at ddarpariaethau’r UE sy’n anghywir yng nghyd-destun Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, a chymhathu REUL drwy Ddeddf REUL wedi hynny. Mae’r cynnig hwn yn nodi sut yr ydym yn bwriadu mynd i’r afael â’r mater hwn mewn perthynas â Deddf Diogelwch Bwyd 1990 a Deddf Safonau Bwyd 1999.

Y cynnig

Mae’r ASB yn cynnig cyflwyno Offeryn Statudol (OS) o dan Adrannau 12(1) a 20(1) o Ddeddf REUL i ailddatgan cyfraith a gymathwyd. Bydd yr OS cadarnhaol drafft yn diwygio pob cyfeiriad at yr UE yn Adran 17 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac Adran 19(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 i gyfeirio’n gywir at gyfraith a gymathwyd.

Bydd y diwygiadau arfaethedig i’r Ddeddf Diogelwch Bwyd yn gymwys yng Nghymru, yr Alban a Lloegr. Y ddeddfwriaeth sylfaenol gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon yw Gorchymyn Diogelwch Bwyd (Gogledd Iwerddon) 1991.

Ni chynigir unrhyw ddiwygiadau i’r Gorchymyn hwnnw ar hyn o bryd. 

Dim ond yng Nghymru a Lloegr y bydd y diwygiadau arfaethedig i’r Ddeddf Safonau Bwyd yn gymwys. Nid oes angen unrhyw ddiwygiadau yng Ngogledd Iwerddon. Ni fydd y diwygiadau arfaethedig hyn yn gymwys yn yr Alban. 
Mae drafft o’r OS diwygio arfaethedig ynghlwm (Saesneg yn unig). 

Effeithiau

Mae’r newidiadau arfaethedig yn ddiwygiadau cyfreithiol technegol sydd eu hangen i sicrhau y gellir parhau i weithredu’r llyfr statud. Ni fydd y diwygiadau’n cyflwyno unrhyw bolisi na newidiadau gweithdrefnol newydd mewn perthynas â gofynion cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid. Fel y cyfryw, ni fydd y diwygiadau yn effeithio’n uniongyrchol ar weithrediad busnesau neu randdeiliaid eraill. Felly nid oes unrhyw feichiau uniongyrchol neu anuniongyrchol wedi’u nodi ar gyfer busnesau na rhanddeiliaid ehangach o’r diwygiadau deddfwriaethol arfaethedig.

Gan fod y newidiadau deddfwriaethol arfaethedig yn ddibwys ac yn fecanyddol eu natur, ac nad ydynt yn effeithio ar sylwedd y ddeddfwriaeth, nid oes asesiad effaith wedi’i lunio. 

Y broses ymgysylltu ac ymgynghori  

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg am gyfnod o 12 wythnos. Bydd yr ymgynghoriad a’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ar wefan yr ASB.

Mae’r ASB wedi ymgysylltu’n flaenorol â sefydliadau sy’n ymwneud â’r sector bwyd a diod ac aelodau’r cyhoedd ynghylch ymadawiad y DU â’r UE. Yn 2018 a 2020, lansiodd yr ASB ymgynghoriadau ar y dull gweithredu a’r diwygiadau i’w cymryd gyda chyfraith yr UE a ddargedwir ar ddiwedd y cyfnod pontio. Mae’r newidiadau a gynigir yn yr ymgynghoriad hwn yn gyson â’r bwriad a’r dull gweithredu a gynigiwyd yn yr ymgynghoriadau hynny, ac a fabwysiadwyd wedyn gan yr ASB.

Y cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn:

  • A oes gennych unrhyw sylwadau ar y dull arfaethedig o gywiro elfennau cyfreithiol anweithredol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 a Deddf Safonau Bwyd 1999 fel y nodir yn yr ymgynghoriad hwn?
  • A ydych yn nodi unrhyw bryderon neu risgiau o ran y dull arfaethedig o gywiro elfennau cyfreithiol anweithredol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 a Deddf Safonau Bwyd 1999?
  • A ydych yn cytuno â’n hasesiad bod y newidiadau arfaethedig yn ddibwys ac yn fecanyddol eu natur, ac felly na fyddant yn effeithio ar fusnes na rhanddeiliaid eraill? 
  • A ydych yn ymwybodol o unrhyw effeithiau sy’n deillio o’r diwygiadau arfaethedig nad ydynt wedi’u nodi yn yr ymgynghoriad hwn?

Er mwyn ein helpu i ddeall ac ystyried ymatebion yn llawn, esboniwch eich atebion, a lle bo modd, darparwch dystiolaeth ategol.

Ymatebion

Mae angen ymateb erbyn diwedd dydd Llun, 31 Mawrth 2025. Yn eich ymateb, nodwch a ydych chi’n ymateb fel unigolyn preifat, neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).

Anfonwch ymateb regulatory.review@food.gov.uk

I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgynghoriadau, sydd i’w weld yma

Mwy o wybodaeth

Os bydd angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat sy’n haws i’w ddarllen, anfonwch fanylion at y cyswllt a enwir ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad hwn, a bydd eich cais yn cael ei ystyried.

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth y DU.

Ar ran yr ASB, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.

E-bost: regulatory.review@food.gov.uk(Opens in a new window)

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.